Skip to main content

Recriwtio Pobl

Gwirfoddolwyr – mae pob clwb chwaraeon eu hangen nhw. Ond, mae dod o hyd i’r gwirfoddolwyr yma a’u recriwtio nhw i’ch clwb yn gallu ymddangos yn anodd i ddechrau. Darllenwch y pwyntiau isod ac efallai y gwelwch chi ei fod yn haws nag oedd yn ymddangos.

 

Pwyntiau Allweddol i’w Hystyried Wrth Recriwtio Gwirfoddolwyr

Mae ambell gwestiwn allweddol y dylech ei ofyn i chi’ch hun bob amser cyn recriwtio gwirfoddolwyr. Dyma’r cwestiynau:

  • Pam ydych chi eisiau recriwtio gwirfoddolwyr newydd?
  • Pa rôl ydych chi am i bobl ei gwneud?
  • Pa sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl?
  • Faint o amser sydd ei angen ar gyfer y rôl?
  • Pwy fydd yn gofalu am y gwirfoddolwyr newydd?


Pam Mae Pobl yn Gwirfoddoli?

Mae gan y rhan fwyaf o’r bobl sy’n gwirfoddoli mewn sefydliad chwaraeon gyswllt â’r clwb. Gallant fod yn aelodau presennol neu’n gyn-aelodau, neu mae aelod o’u teulu’n cymryd rhan. O bosib, byddant yn byw yn y gymuned lle mae’r clwb wedi’i leoli.    

Heb ystyried y cyswllt sydd gan eich gwirfoddolwyr â’r clwb, mae gan bobl wahanol gymhelliant i roi eu hamser a’u gwasanaeth. Felly mae’n werth cofio, pan fyddwch yn mynd ati i geisio eu recriwtio, bod y canlynol ymhlith y prif gymhelliant:    

  • Rhoi rhywbeth yn ôl
  • Cyfarfod pobl newydd
  • Dysgu rhywbeth newydd


Rhwystrau’n Atal Pobl Rhag Gwirfoddoli

Mae gan rai pobl ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn eu clwb, ond efallai eu bod yn teimlo bod rhwystrau’n eu hatal rhag gwneud hynny. Rydyn ni wedi nodi tri rhwystr isod, a sut i’w goresgyn nhw: 

  • Ofn methu – Gofynnwch beth am y rôl sy’n eu poeni nhw? Wedyn ystyriwch beth allwch chi ei wneud i roi sylw i hynny.
  • Diffyg amser – Oes posib rhannu’r rôl? Beth yw’r lefel realistig o ymrwymiad ar gyfer y rôl?
  • Doeddwn i ddim yn gwybod bod y clwb angen gwirfoddolwyr – Penodi Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Edrychwch ar sut mae’r clwb yn cyfathrebu â’i aelodau a’r cyhoedd yn ehangach. Oes gennych chi dudalen Facebook? Siaradwch gyda phobl a lledaenu’r neges!

Dangos i’r Gwirfoddolwyr Rydych yn eu Recriwtio eu bod yn Werthfawr

Mae’n syniad da penodi Cydlynydd Gwirfoddolwyr i ofalu am wirfoddolwyr eich clwb. Mae Cydlynwyr Gwirfoddolwyr yng ngofal recriwtio a’u hunig ffocws yw sicrhau bod eich gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu datblygu a’u cefnogi drwy gydnabyddiaeth a gwobrau. 

Cofiwch eich bod yn delio â phobl, felly efallai na fydd rhywbeth sy’n gweithio gydag un person yn gweithio gydag un arall. Rhowch amser i ddod i adnabod y bobl yn eich clwb a gwneud iddynt deimlo’n rhan o’r darlun mwy. 

Cael gwybod mwy am rôl y Cydlynydd Gwirfoddolwyr yma.


Ble Mae Dod o Hyd i Wirfoddolwyr ar gyfer Clybiau Chwaraeon

Os byddwch yn penderfynu chwilio am wirfoddolwyr o’r tu allan i’ch clwb a’ch cymuned, mae’r lleoliadau canlynol yn fan cychwyn da: 

  • Ysgolion / Colegau / Prifysgolion
  • Canolfannau gwirfoddoli
  • Tîm Datblygu Chwaraeon eich Awdurdod Lleol
  • Cyflogwyr mawr lleol sydd â rhaglenni gwirfoddoli cymunedol efallai
  • Gwirfoddoli Cymru