Skip to main content

Cadw’n Ddiogel Ar-lein

Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych i’ch aelodau chi gysylltu ac maent hefyd yn ddefnyddiol er mwyn codi proffil eich clwb. Ond wrth gwrs, mae risgiau cysylltiedig.           

Cofiwch fod y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ar-lein yn mynd allan i’r cyhoedd.

Mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn wrth gynnwys gwybodaeth a lluniau o blant neu oedolion agored i niwed.

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae cadw’n ddiogel ar-lein ar gael ar wefan yr NSPCC.

Hefyd mae gan yr NSPCC dempled o ffurflen caniatâd i dynnu lluniau a ffilmio.       

Cyngor Call

Os ydych chi eisiau ychwanegu lluniau at eich gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol - neu unrhyw waith proffesiynol arall - ac os byddwch yn dewis peidio â defnyddio lluniau eich aelodau, mae lluniau heb freindal ar gael am ddim.

Cewch lawrlwytho lluniau am ddim o’r safle Pixabay

Hefyd mae Polisi Ffotograffiaeth yn yr adran Lawrlwythiadau ar ein gwefan.

Polisi Cyfryngau Cymdeithasol

Mae hefyd yn syniad da cael polisi cyfryngau cymdeithasol.

Dyma rai enghreifftiau: