Skip to main content

Ysgrifennu Datganiad i’r Wasg

Os ydych chi eisiau i stori newyddion eich clwb gyrraedd y cyfryngau lleol, mae’n syniad da ysgrifennu datganiad i’r wasg.

Peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi fod yn saer geiriau nac yn ddewin geiriau i roi rhywbeth at ei gilydd!

Dyma gyngor doeth:

  • Rhowch y geiriau 'Datganiad i’r Wasg' ar dop y dudalen mewn ffont mawr.
  • Nesaf mae arnoch angen pennawd, mewn ffont mawr eto. Gwnewch hwn yn bennawd bachog, fel byddech yn ei weld mewn papur newydd.
  • Crynhowch eich stori newyddion yn y paragraff cyntaf - efallai mai hwn fydd yr unig un fydd yn cael ei ddarllen. Pwy, beth, pryd, ble a pham?! Atebwch y cwestiynau yma ac fe ddylech chi fod wedi cynnwys popeth.
  • Mae dyfyniad yn ychwanegu lliw at stori - ond cofiwch wneud yn siŵr ei fod yn berthnasol. Fe allai ddod gan eich Cadeirydd chi. Mae’r rhai gorau’n fachog ac yn swnio’n union fel mae rhywun yn siarad (dydych chi ddim eisiau swnio fel llyfryn corfforaethol ar ddwy goes!) Cofiwch osgoi jargon - yn lle defnyddio ‘ffrydiau cyllido’ defnyddiwch ‘arian’ neu ‘pres’.
  • Sillafwch bob acronym – ee, yn lle CRhC, dywedwch ‘Corff Rheoli Cenedlaethol’.
  • Cadwch y datganiad yn gryno: mae un dudalen yn ddigon fel arfer.
  • Rhowch unrhyw wybodaeth arall o dan eich 'Nodiadau i Olygyddion' - er enghraifft, cyfeiriad eich gwefan a’ch enwau ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu rhif cyswllt a’ch bod ar gael i ateb unrhyw ymholiadau os bydd newyddiadurwr yn ffonio.
  • Mae amseru’n bwysig - gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd mae dyddiadau cau’r cyfryngau. O anfon datganiad yn rhy fuan, efallai y caiff ei anghofio; yn rhy hwyr, bydd yn mynd yn syth i’r bin sbwriel. Felly ffoniwch i ofyn i ddechrau.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich testun yn ddu ac mewn ffont hawdd ei ddarllen, ond heb fod yn rhy chwareus.
  • Gofynnwch i rywun arall ddarllen drwy’r datganiad i wirio am gamsillafu a chamgymeriadau gramadegol cyn i chi bwyso Anfon.
  • Torrwch a gludwch eich stori’n uniongyrchol i gorff eich neges e-bost. Bydd hyn yn golygu bod gennych fwy o siawns i newyddiadurwr ei darllen.
  • Os ydych yn ysgrifennu datganiad i’r wasg oherwydd bod eich clwb wedi derbyn arian - siaradwch gyda’r cyllidwr i ddechrau i wneud yn siŵr eich bod yn cael cyhoeddi’r newyddion. Efallai bod gan y cyllidwr esiampl o ddatganiad i’r wasg y gallwch chi ei ddefnyddio ac mae’n bur debyg y bydd eisiau cynnwys dyfyniad ei hun.