Skip to main content

Is-bwyllgorau

Mae bwrdd yn gallu defnyddio pwyllgorau, sy’n cael eu galw’n is-bwyllgorau yn aml (yn enwedig os mai pwyllgor yw enw’r prif fwrdd), i ddelio â materion unigol neu angen parhaus.                          

Ffurfio is-bwyllgorau

Os bydd angen neu fater yn codi fel mater unigol, gellir ffurfio pwyllgor neu is-bwyllgor ar sail ad hoc, er enghraifft, i roi sylw i faterion parhaus, fel cyllid neu dwf y clwb.

Y peth pwysig i’w gofio yw bod rhaid i’ch sefydliad, er mwyn ffurfio is-bwyllgorau, fod â’r ddarpariaeth hon wedi’i hamlinellu yn ei ddogfen reoli.

Yn ddelfrydol, ni fydd eich dogfen lywodraethu yn dweud yn benodol pa is-bwyllgorau sydd gennych chi. Byddai hwn yn ymrwymiad caeth iawn ac efallai y byddwch yn teimlo bod is-bwyllgor a oedd yn ddefnyddiol ac yn briodol 10 mlynedd yn ôl yn gwbl ddiangen nawr.

Yn hytrach, dylai’r ddogfen reoli alluogi i chi ffurfio is-bwyllgorau fel mae’r sefydliad yn gweld yn dda.

Sut mae eich is-bwyllgorau’n cael eu llywodraethu?

Yn union fel pwyllgorau, dylai pob is-bwyllgor gael cylch gorchwyl sy’n amlinellu’r canlynol:

  • Ei bwrpas
  • Sut a pham y cafodd ei ffurfio
  • Sut mae aelodau’r is-bwyllgor yn cael eu dewis
  • Sut mae’r is-bwyllgor yn gweithio
  • Sut mae’n argymell mentrau i’r bwrdd
  • Pa mor aml mae’r angen yn cael ei adolygu
  • Pa mor aml mae’n cyfarfod

Gwelir enghreifftiau o gylch gorchwyl is-bwyllgorau ar sportandrecreation.org.