Skip to main content

Pwyllgorau a Chyfarfodydd Clwb

Mae busnes clwb yn cael ei weithredu gan ei bwyllgor. Ond sut mae penodi aelodau pwyllgor? Pa sgiliau sydd eu hangen? Sut ydych chi’n gwneud yn siŵr eich bod yn cael bwrdd amrywiol a chynrychioliadol? Mae hyn i gyd yn cael sylw yn yr adran yma. Mae gennym ni ddisgrifiadau swyddi i’w lawrlwytho am ddim hyd yn oed!

Rydyn ni yma i helpu gyda chynnal cyfarfodydd eich clwb chwaraeon yn hwylus. Rydyn ni’n esbonio’r gwahaniaeth rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfodydd Cyffredinol Anghyffredin ac rydyn ni hyd yn oed yn cynnwys samplau o agendas er mwyn i chi ddechrau arni.   

Felly, edrychwch ar ein templed cofnodion cyfarfod clwb a lawrlwythiadau defnyddiol eraill, a hefyd y cyngor doeth ar bopeth, o sefydlu pwyllgor i sut i fod yn gadeirydd da, isod.