Skip to main content

Sefydlu Pwyllgor

Mae canfod a chadw aelodau pwyllgor neu fwrdd yn dasg hanfodol ond heriol i sefydliadau chwaraeon.            

Edrychwch ar yr adran pwyllgorau clybiau i ddarganfod beth mae pwyllgor yn ei wneud, pwy sydd arnoch ei angen ar bwyllgor a sut i’w ddatblygu.  

Hefyd byddwch yn dysgu sut i recriwtio aelodau pwyllgor.

Datblygu eich pwyllgor

Dylai clwb fod yn meddwl bob amser am ffyrdd o ddatblygu a gwella ei bwyllgor. Sut ydych chi’n cefnogi eich aelodau ar hyn o bryd? Oes arnyn nhw angen hyfforddiant?

Gall adolygu rôl aelodau eich pwyllgor fod yn ymarfer defnyddiol iawn, yn enwedig os yw un person yn gwneud llawer iawn o waith ac os yw eraill eisiau ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb.

Mae aelodau pwyllgor yn gwisgo sawl het yn aml – bydd rhai’n hyfforddi yn ogystal ag ysgwyddo cyfrifoldebau pwyllgor. Felly er mwyn osgoi rhoi gormod o faich ar unigolion, a’u rhoi dan straen, meddyliwch a oes modd rhannu mwy ar y cyfrifoldebau. Ydi’r gwaith mae’n ei wneud yn rhesymol i un person? Oes arnoch chi angen aelod ychwanegol ar y pwyllgor i wneud rhywfaint o’r gwaith?

Talu i aelodau pwyllgor

Efallai y byddwch yn dymuno ystyried a yw eich sefydliad eisiau talu i aelodau pwyllgor am eu rôl (ac a oes ganddo bwerau cyfansoddiadol i wneud hynny), yn hytrach na’u recriwtio fel gwirfoddolwyr.             

Mae’n rhaid i’ch sefydliad feddwl yn ofalus am ganlyniadau talu i aelodau bwrdd, o ran y sefydliad a rôl a chyfrifoldebau aelodau unigol y pwyllgor.