Skip to main content

Enw’r Clwb

Does dim angen dweud wrthych chi wrth gwrs bod unrhyw glwb newydd sy’n cael ei sefydlu angen enw! Cyn penderfynu ar enw, holwch beth yw enwau’r clybiau eraill yn eich ardal – dydych chi ddim eisiau drysu pobl! Hefyd dylai enw’r clwb gyfeirio at eich lleoliad. Gall enw helpu i ddangos pa fath o glwb ydych chi hyd yn oed – gall clwb anffurfiol, cymdeithasol gael enw sy’n cynnwys ychydig o hiwmor, ond nid clwb mwy difrifol a chystadleuol. Ar ôl cael enw i’ch clwb, gallwch agor cyfrif banc, gwneud ceisiadau am arian a dechrau hyrwyddo’r clwb. Hwre!