Skip to main content

Strwythur Clwb

Mae strwythur clwb cadarn yn sylfaen i glwb chwaraeon llwyddiannus a gall gael effaith barhaus ar faterion pwysig fel atebolrwydd aelodau, gofynion cyfreithiol a chyllid. Felly, mae cael pethau’n iawn o’r dechrau’n bwysig iawn.                 

Gall sefydlu strwythur clwb swnio’n anodd i ddechrau, ond does dim rhaid i bethau fod yn gymhleth. Mae ein tîm cyfeillgar a gwybodus ni wrth law i ddysgu popeth rydych chi angen ei wybod, heb ormod o jargon.

Felly, o benderfynu ar enw a chytuno ar eich gweledigaeth a’ch gwerthoedd i ddod yn aelod o gorff rheoli cenedlaethol a chadarnhau eich statws cyfreithiol, yn yr adran yma, fe gewch chi wybod popeth am beth i’w wneud wrth sefydlu clwb am y tro cyntaf.