Skip to main content

Dechrau Arni

Meddwl sefydlu clwb chwaraeon? Mae hynny’n newyddion gwych!

Clybiau yw asgwrn cefn chwaraeon yng Nghymru a dyma pam rydyn ni eisiau rhoi help llaw. Mae’r wefan hon yn llawn cyfarwyddyd a pholisïau ac adnoddau cynllunio sydd am ddim i’w lawrlwytho.

Ond, i ddechrau, rydyn ni wedi dewis yr 14 cam hanfodol i’ch helpu chi i ddechrau arni…

CYN I CHI WNEUD UNRHYW BENDERFYNIADAU:

Cam 1: Penderfynwch pa fath o glwb fyddwch chi   

Byddwch yn glir am beth rydych chi ei eisiau ar gyfer dyfodol y clwb – beth ydych chi eisiau i’r clwb ei gyflawni? Ar gyfer pwy mae? Pa fath o awyrgylch ydych chi eisiau ei greu yn y clwb? Dyma eich Gweledigaeth neu eich Pwrpas chi. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma 

Cam 2: Gofyn am help!

Mae digon o bobl yn barod ac yn fodlon eich helpu chi. Ymhlith y rhai y gallwch ddibynnu arnyn nhw mae eich Corff Rheoli Cenedlaethol a thîm Datblygu Chwaraeon eich Awdurdod Lleol. Mae’n syniad da siarad gyda’r partneriaid dibynadwy yma yn gynnar cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pendant am eich clwb newydd.                 

Cam 3: Oes unrhyw beth tebyg i ddarpariaeth y clwb yn yr ardal?

Holwch oes clybiau tebyg yn yr ardal, sy’n cynnig yr un peth â’r hyn rydych chi’n bwriadu ei gynnig. Cewch wybodaeth drwy siarad â thîm Datblygu Chwaraeon eich Awdurdod Lleol, y llyfrgell leol a’r ganolfan gymunedol. Hefyd bydd gan eich Corff Rheoli restr o’r holl glybiau i chi edrych arni.

Cam 4: Oes galw?

Mae’n bwysig gweld a oes galw am yr hyn rydych chi’n ei gynnig yn eich ardal. Cewch ragor o wybodaeth drwy holi pobl yn lleol a chofiwch y bydd gan dîm Datblygu Chwaraeon eich Awdurdod Lleol a’r Corff Rheoli Cenedlaethol gyngor da hefyd. Mae posib edrych ar wefan Chwaraeon Cymru hefyd, sy’n gynnwys gwybodaeth am alw heb ei fodloni.

BETH NESAF? 

Felly rydych chi wedi penderfynu pa fath o glwb rydych chi ei eisiau ac yn gwybod bod galw lleol. Nawr mae’n amser gosod y sylfaen ...

Cam 5: Pwyllgor y Clwb

Mae Pwyllgor yn cynnwys nifer o wahanol swyddogion sy’n gyfrifol am redeg y clwb o ddydd i ddydd. Bydd rôl y swyddogion yn amrywio o glwb i glwb, gan ddibynnu ar y gamp a’i maint. Cliciwch yma i gael gwybodaeth am strwythur clwb sylfaenol ac am ddisgrifiadau rôl enghreifftiol ar gyfer aelodau’r pwyllgor.

Cam 6: Enw’r Clwb

Does dim angen dweud wrthych chi wrth gwrs bod unrhyw glwb newydd sy’n cael ei sefydlu angen enw! Ac mae’r enw’n bwysig o ran sut rydych chi’n denu aelodau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma. Ar ôl cael enw i’ch clwb, gallwch agor cyfrif banc, gwneud ceisiadau am arian a dechrau hyrwyddo’r clwb. Hwre!  

Cam 7: Cofrestru eich clwb

Byddwch wedi trafod gyda’ch Corff Rheoli Cenedlaethol a’r Awdurdod Lleol eisoes gobeithio ond bydd yn bwysig rhoi gwybod iddyn nhw’n swyddogol am eich clwb - ei enw, ei leoliad arferol a’i bersonau cyswllt allweddol - fel eu bod yn gallu ychwanegu eich manylion at unrhyw gyfeirlyfrau o glybiau. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i aelodau newydd ddod o hyd i chi. Rydych chi ar y map nawr!

Cam 8: Aelodaeth  

Bydd aelodaeth o’ch Corff Rheoli Cenedlaethol yn galluogi eich clwb i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gall gynnig hyfforddiant a chymwysterau i’ch hyfforddwyr a’ch swyddogion. Hefyd gall ddarparu manteision fel cefnogaeth ddiogelu a mynediad at gyllid. Mae cost am ymaelodi ond, yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n profi’n amhrisiadwy i glybiau.

Cam 9: Strwythur Clwb

Mae gennych chi ychydig o ddewisiadau o ran strwythur eich clwb - corfforedig, anghorfforedig, clwb chwaraeon amatur cymunedol, elusen neu fenter gymdeithasol. Mae hwn yn benderfyniad mawr oherwydd mae’n effeithio ar statws cyfreithiol eich clwb. Rhowch amser i wneud eich gwaith cartref cyn penderfynu. Mae rhagor o arweiniad ar gael yma.

Cam 10: Cyfansoddiad

Mae cyfansoddiad yn cael ei alw’n ddogfen reoli hefyd. Mae pob clwb angen cyfansoddiad. Mae’n helpu gyda chael pethau i redeg yn esmwyth. Mae’n datgan y rheolau y bydd eich clwb yn cadw atynt wrth weithredu a sut caiff ei reoli. Mae rhagor o wybodaeth - gan gynnwys esiamplau o gyfansoddiadau - ar gael yma.

Cam 11: Rhoi trefn ar eich arian

Er mwyn i’ch clwb fod yn llwyddiant, mae’n rhaid i chi roi trefn ar eich arian. Mae gennym ni adran lawn sy’n rhoi sylw i hyn. Ond, ar gyfer yr elfennau sylfaenol wrth ddechrau arni, cliciwch yma.

Cam 12: Yswiriant

Rhaid i bob clwb fod ag yswiriant digonol ar gyfer y gweithgareddau mae’n eu darparu. Yn aml, gall Cyrff Rheoli Cenedlaethol gynnig hyn, ar yr amod eich bod yn aelod ohonynt. Am arweiniad ar gael yswiriant priodol, cliciwch yma.

Cam 13: Asesu Risg            

Cyn i unrhyw aelodau ymgymryd â gweithgarwch yn eich clwb, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein hadran Asesu Risg sy’n rhoi sylw i iechyd a diogelwch, diogelwch tân a diogelu data. Cliciwch yma.

Cam 14: Recriwtio

Hwre, rydych chi wedi gwneud eich gwaith cartref i gyd. Nawr mae’n amser dechrau recriwtio gwirfoddolwyr ac aelodau. Edrychwch ar yr adran Pobl Eich Clwb. Hefyd mae gan yr adran Hyrwyddo gyngor defnyddiol ar sut mae rhannu’r neges am eich clwb newydd.