Skip to main content

Statws Cyfreithiol

Strwythur eich clwb

O ran strwythur ar gyfer eich clwb, mae ambell ddewis gwahanol.        

Bydd rhaid i chi benderfynu pa un sydd o fudd mwyaf i’ch clwb chi felly, yn yr adran hon, byddwn yn esbonio’r opsiynau – heb yr holl jargon cyfreithiol. Mae’n bwysig eich bod yn penderfynu ar y manteision a’r anfanteision ac felly rydyn ni wedi darparu digon o ddolenni at ragor o wybodaeth!

Anghorfforedig neu gorfforedig?

Mae pob clwb naill ai’n anghorfforedig neu’n gorfforedig.

Mae sefydliad anghorfforedig yn cael ei sefydlu drwy gytundeb rhwng grŵp o bobl sy’n dod at ei gilydd am reswm ar wahân i wneud elw.                                     

Mae llawer o glybiau chwaraeon yn dilyn y llwybr yma – mae’n gyflym ac yn hawdd ei sefydlu a hefyd yn gost effeithiol gan nad oes gofynion i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Fel rheol, mae’n addas iawn i glybiau bach, syml nad ydynt yn tueddu i gyflogi staff, nac yn berchen ar dir na chyfleusterau nac yn llunio contractau arwyddocaol.

 Fodd bynnag, nid yw clwb anghorfforedig yn bodoli’n gyfreithiol ac felly nid yw’n gallu llofnodi contractau. Os ydych chi eisiau llunio contractau, mae’n rhaid i chi ystyried bod yn gorfforedig.

Mae sefydliad corfforedig yn endid cyfreithiol ynddo’i hun. Gall lunio contractau, cyflogi staff a phrydlesu eiddo. Mae statws corfforedig yn golygu bod atebolrwydd personol yr aelodau’n gyfyngedig ac wedi’i warchod. Mae’r strwythurau llywodraethu’n fwy ffurfiol oddi mewn i fframwaith cyfreithiol.

Ar ôl i chi wneud y penderfyniad hwn, gallwch wedyn ystyried a ydych eisiau mynd gam ymhellach a dod yn CChAC, yn elusen neu’n fenter gymdeithasol.

Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CChAC)

Mae pob CChAC yn agored i’r gymuned gyfan, nid ydynt yn gwneud elw a’u prif bwrpas yw annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.          

Mae’r clybiau hyn yn elwa o eithrio o drethi busnes a Chymorth Rhodd ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u trefnu ar sail amatur i gymhwyso.

Ar ôl i’r clwb gofrestru fel CChAC, bydd yn parhau’n CChAC – neu’n wynebu cosb dreth sylweddol. Felly cymerwch amser i benderfynu. Mae ACASC yn Gwmni Budd Cymunedol sy’n helpu ac yn cynghori clybiau ar redeg (neu fod) yn Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol.

Statws elusennol

Mae elusennau’n cael manteision treth hael iawn ac maent yn cael eu cydnabod gan gyllidwyr. Ni ddylai eich clwb fod yn gwneud elw ac, wrth gwrs, rhaid iddo fod â phwrpas elusennol (sy’n cynnwys hybu chwaraeon amatur).

Ond mae dod yn elusen yn cynnwys gofynion a chyfyngiadau ychwanegol hefyd. Er enghraifft, mae’n rhaid i chi baratoi cyfrifon a ffurflenni blynyddol.

Menter Gymdeithasol

Busnes yw menter gymdeithasol gydag amcanion cymdeithasol yn bennaf ac mae’r elw’n cael ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau neu yn y gymuned. Ceir mentrau cymdeithasol o bob math, o siopau pentref bychain sy’n eiddo i’r gymuned i sefydliadau mawr sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Ydi clybiau’n gallu newid eu statws cyfreithiol?

Ydynt ond dylech ofyn am gyngor gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol cyn gwneud hynny. Os ydych chi’n CChAC ac eisiau newid, gall hynny arwain at gosb dreth sylweddol.