Skip to main content

Gweledigaeth a Gwerthoedd

Dylai pob clwb fod yn glir am ei weledigaeth a’i werthoedd.

Mae dogfen ‘Gweledigaeth a Gwerthoedd' yn esbonio athroniaeth eich clwb, eich amcanion a’ch nodau, a’ch arwyddair hyd yn oed.         

Pam mae’n bwysig?

Mae’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i’r clwb ac mae’n gallu helpu pawb i ddeall y math o glwb rydych chi ei eisiau, beth rydych chi ei eisiau ar gyfer dyfodol eich clwb a phwy rydych chi’n ceisio eu cyrraedd.

Yn ogystal ag amlinellu amcanion y clwb a’i gyfeiriad yn y dyfodol, mae hefyd yn diffinio cyfyngiadau - y math o glwb nad ydych chi eisiau bod, y bobl nad ydych yn ceisio eu cyrraedd. Er enghraifft, efallai mai dim ond plant yw eich ffocws chi, nid oedolion. Efallai nad yw’r clwb yn gallu bod yn bopeth i bawb - ac mae hynny’n iawn.

Bydd sicrhau bod y dogfennau hyn yn eu lle, eu rhannu gyda’r holl aelodau a sicrhau eu bod ar gael yn gyhoeddus ar y dechrau’n helpu gyda gwneud penderfyniadau yn y clwb. Meddyliwch am hyn fel sylfeini adeilad.                

Pwy sy’n ei ysgrifennu?

Mae’r ddogfen hon yn pennu’r naws a’r cyfeiriad ar gyfer y clwb cyfan am flynyddoedd i ddod felly mae’n bwysig cynnwys eich aelodau, cyfarwyddwyr eich bwrdd, rhieni, cyn-aelodau’r clwb ac ati.

Pa mor aml mae’n cael ei hadolygu?

Y clwb sydd i benderfynu ynghylch hynny ond mae’n bwysig gwirio’n rheolaidd bod y ddogfen dal yn ystyrlon a gwneud newidiadau o bosib, os oes angen, gyda chyfraniad y clwb cyfan.               

Ond ble mae dechrau?

Meddyliwch yn y tymor hir ac am y darlun mawr. Dylai Gweledigaeth ddisgrifio dyfodol clwb sy’n ysbrydoli’r aelodau, y staff a’r cefnogwyr.

Disgrifiwch sut byddai pethau’n wahanol o ganlyniad i ymdrechion y clwb neu sut byddech yn cael eich gweld gan eraill.

Does dim rheolau ffurfiol – dim ond beth sy’n gweithio i chi.

  • Cofiwch gynnwys Datganiad o Genhadaeth

 Dylai hwn fod yn ddisgrifiad byr o bwrpas eich clwb mewn iaith hawdd ei deall.

Mae eich Gweledigaeth yn edrych tua’r dyfodol ond mae eich Cenhadaeth fel rheol yn fwy ymarferol, heb newid yn rhy aml gydag amser. Mae’n gontract ar gyfer ymddygiad moesol y mae disgwyl i holl aelodau’r clwb ei ddilyn.

Dyma rai enghreifftiau (ond cofiwch, dim ond gwneud i chi feddwl mae’r rhain - dylai eich Datganiad o Genhadaeth fod yn unigryw i’ch clwb a chynrychioli gwerthoedd ei aelodau):

  • Hybu a darparu cyfleoedd chwarae i unigolion o bob gallu ac oedran a hyrwyddo profiadau chwaraeon aelodau’r clwb.
  • Bydd y clwb yn meithrin twf a datblygiad (nodwch enw’r gamp neu’r gweithgaredd) yn (nodwch yr ardal/dref ac ati) gan ddarparu cyfleoedd dysgu mewn amgylchedd diogel, teg a chyfeillgar i blant.
  • Darparu (nodwch enw’r gamp neu’r gweithgaredd) yn (nodwch yr ardal) drwy ddarparu amgylchedd lle gall pob unigolyn chwarae’n gystadleuol ac er diben hamdden gan gynnal amgylchedd diogel, teg a chyfeillgar i blant.
  • Darparu cyfleoedd i bob chwaraewr gyflawni ei botensial.
  • Mae (nodwch enw’r clwb) wedi ymrwymo i ddarparu’r amgylchedd gorau posib i’n chwaraewyr fel eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial wrth chwarae, drwy ragoriaeth mewn hyfforddi a chefnogi.

Gwerthoedd y Clwb

Gwerthoedd yw’r credoau craidd sy’n dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn ac yn gwneud penderfyniadau. Maent yn darparu fframwaith ar gyfer sut mae aelodau’n trin ei gilydd a sut maent yn trin eraill fel darpar aelodau a chlybiau eraill.  

Ar ôl cytuno arnynt a’u rhannu, bydd y gwerthoedd hyn yn helpu’r clwb i ddenu aelodau, gwirfoddolwyr ac arweinwyr i gyfrannu’n effeithiol tuag at bwrpas a rennir.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Hygyrch       

Mae croeso i gwestiynau am eich clwb  

  • Atebol      

Byddwn yn dryloyw am beth, sut a pham rydym yn gweithredu yn y ffordd rydym yn gweithredu

  • Ymrwymiad 

Rydym yn disgwyl i bob aelod wneud ymrwymiad i’r clwb ac i’w dimau     

  • Pleserus

Dylai’r cymryd rhan hybu mwynhad naturiol pobl o chwaraeon   

  • Rhagoriaeth

Rydym yn pennu, yn gweithio tuag at ac yn cyrraedd y safonau uchaf

  • Didwylledd

Rydym yn gweithredu mewn ffordd deg, cyson a thryloyw

  • Proffesiynol

Bydd cynrychiolwyr y clwb yn ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos ac yn ennill parch ym mhopeth maent yn ei wneud, gan ddangos didwylledd 

  • Parch

Parchu eich cydaelodau yn y tîm, hyfforddwyr, a’r clwb, a’u cefnogi hyd eithaf eich gallu. Rydym yn credu mewn chwarae’n deg.       

  • Ffocws ar Wasanaeth               

Dylai’r cyfranogwyr deimlo eu bod wedi cael y profiad gorau posib a gwerth da am yr amser a’r arian maent wedi’i ymrwymo.