Skip to main content

Diogelu

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn wynebu risgiau ym mhob agwedd ar eu bywyd ac mae hynny’n wir am chwaraeon hefyd. Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu. Felly, beth bynnag yw eich rôl yn eich clwb, fel rhiant, hyfforddwr, gwirfoddolwr neu berson ifanc, dylech fod yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau diogelu eich clwb neu eich corff rheoli. 

Ond peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i helpu ac mae popeth rydych chi angen ei wybod ar gael yma.