Pan fyddwn yn siarad am gydraddoldeb yn y sector chwaraeon, rydyn ni’n siarad am drin pobl yn deg a bod yn hygyrch i bawb – dim ots am oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred, rhyw a chyfeiriadedd rhyw.
Mae gan glybiau gyfrifoldeb i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, sydd yn ei hanfod yn golygu ystyried anghenion pob unigolyn wrth ddarparu eu gwasanaethau. Dylai pawb gael cyfle i chwarae, cystadlu, dyfarnu neu gymryd rhan yn strwythur clwb chwaraeon. I wneud hynny’n bosib, efallai y bydd rhaid i chi wneud rhai pethau’n wahanol i rai pobl.
4 ffordd o wella eich agwedd at gydraddoldeb
Fframwaith cynhwysiant mewn chwaraeon
Mae’r Fframwaith Cynhwysiant mewn Chwaraeon newydd yn berchen i’r pedwar cyngor chwaraeon ar draws y DU ac UK Sport, dan arweiniad y Grŵp Cydraddoldeb Cynghorau Chwaraeon. Mae’r Fframwaith newydd wedi esblygu o’r Safon Cydraddoldeb mewn Chwaraeon wreiddiol, a gafodd ei lansio’n wreiddiol yn 2004. Yn 2021, cynhaliwyd gwerthusiad cynhwysfawr, sector cyfan o’r Safon Cydraddoldeb, gan arwain at ddatblygu’r Fframwaith newydd hwn, model gweithredu, a phecyn cymorth ategol. Nod y Fframwaith newydd yw helpu sefydliadau i sbarduno a chynnal y momentwm i sicrhau newid drwy gylch gwella parhaus o fyfyrio, cynllunio, gweithredu, adolygu a dysgu.
Hyrwyddo cydraddoldeb
Wrth gwrs prif fantais hybu cydraddoldeb yw eich bod yn cynnig cyfleoedd chwaraeon sy'n addas i bawb, a ddylai olygu cynnydd yn nifer yr aelodau. Bydd sicrhau bod eich clwb chwaraeon yn amrywiol, yn gynhwysol, ac yn mynd ati i gyfleu'r ffactorau hynny yn creu llu o fanteision. Nid yn unig y bydd eich aelodau'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi, byddwch hefyd yn denu cyfranogwyr newydd a diddordeb rhanddeiliaid, meithrin enw da cadarnhaol, lleihau'r risg drwy wella eich dulliau llywodraethu a rheoli risg, cynyddu cyfleoedd nawdd, helpu i chwalu rhwystrau mewn chwaraeon a chynyddu'r cyfleoedd i gymryd rhan, a llawer mwy!
Byrddau ac arweinyddiaeth amrywiol
Dylai aelodaeth amrywiol olygu cymysgedd amrywiol ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar eich pwyllgor hefyd. Bydd hyn yn helpu eich clwb i lunio ei wasanaethau i fodloni anghenion ei aelodau ac i gyrraedd aelodau newydd. Hefyd, mae hybu cydraddoldeb yn arfer da ac mae'n cael ei ystyried yn rhywbeth cadarnhaol gan gyllidwyr. Gallwch ddarllen rhagor am Amrywiaeth Byrddau yma.
Cyfathrebu cynhwysol
Mae Activity Alliance wedi datblygu Canllaw Cyfathrebu Cynhwysol i’w lwytho i lawr i helpu darparwyr chwaraeon fel chi i gyrraedd cynulleidfa ehangach gan ddefnyddio gwahanol offer cyfathrebu, dulliau a hyd yn oed tôn llais. Mae llawer o adnoddau gwych ar wefan Activity Alliance. Gall clybiau ddefnyddio’r rhain ac mae’n bosib y byddant o ddefnydd yn eu hymdrechion i fod yn fwy cynhwysol a hygyrch.