Skip to main content

Partneriaethau

Mae ticio pob un nod oddi ar eich rhestr yn gallu bod yn anodd fel clwb ar eich pen eich hun ac mae clybiau llwyddiannus yn gwybod bod cysylltiadau â sefydliadau eraill yn hanfodol.

Dyma rai ystyriaethau i chi ddechrau arni:            

  • Os nad yw eich clwb yn gysylltiedig â’ch Corff Rheoli Cenedlaethol, dylech ystyried ymaelodi, oherwydd mae’n golygu y bydd y clwb yn gallu cael cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol o bosib
  • Mae bob amser yn syniad da ffurfio perthnasoedd cadarnhaol gyda’ch tîm datblygu chwaraeon lleol ac ysgolion lleol i hybu eich clwb a denu aelodau newydd
  • Mae hefyd yn werth ystyried creu perthynas, boed ffurfiol neu anffurfiol, gyda chlybiau eraill yn eich ardal. Efallai eu bod yn perthyn i’r un gamp neu efallai ddim. Gallwch rannu adnoddau, arferion gorau a manteision i aelodau. Gallai hyn ymestyn i gynnwys clybiau ymhellach i ffwrdd hyd yn oed.
  • Gall gweithio gyda chlwb arall olygu eich bod yn gallu ehangu eich darpariaeth i aelodau a chynyddu nifer eich aelodau o bosib
  • Efallai y byddwch yn fwy abl i sefydlu mwy o dimau/grwpiau i ddarparu ar gyfer oedolion a phlant a phob grŵp gallu os dewch yn bartner gyda chlwb arall
  • Gweithio gyda chlybiau o wahanol chwaraeon i gefnogi datblygu gweithgareddau aml-chwaraeon yn eich clwb o bosib
  • Gyda phwy allwch chi ffurfio partneriaeth i helpu gyda recriwtio, cadw a chefnogi gwirfoddolwyr? Fedrwch chi weithio mewn partneriaeth â choleg lleol?
  • Os ydych chi eisiau creu amgylchedd sy’n croesawu aelodaeth amrywiol, oes angen i chi gynnwys partner (Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwaraeon LHDT Cymru, Diverse Cymru) i’ch helpu?
  • Gall clybiau gydweithio i gynyddu nifer y bobl sydd eisiau cymryd rhan mewn camp
  • Cysylltu a dod â’ch Corff Rheoli Cenedlaethol a’ch tîm Datblygu Chwaraeon Lleol at ei gilydd i weld sut gallent gefnogi eich clwb ar y cyd

Gall partneriaethau fod yn hynod lwyddiannus ond maen nhw’n gallu chwalu'r un mor hawdd hefyd. Mae cyngor gwych ar sut i wneud i bartneriaeth weithio ar gael ar wefan Sport England.