Skip to main content

Creu Cysylltiadau Ysgol a Chymuned

Os ydych chi eisiau i'ch clwb ffynnu, mae cysylltiadau gyda'ch cymuned leol, ysgolion (gan gynnwys ysgolion arbennig a Chyfleusterau Addysgu Arbenigol), colegau a phrifysgolion yn hanfodol. Cyn i chi fynd ati i greu'r cysylltiadau hyn, mae'n werth cofio bod gan glybiau gyfrifoldeb i fod yn hygyrch i bawb. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu ystyried anghenion yr holl unigolion wrth ddarparu eu gwasanaethau. I'ch helpu chi i sicrhau bod eich clwb yn hygyrch, ewch i'n tudalen ni ar 'Gydraddoldeb'.

Cysylltiadau Ysgol

Os ydych chi eisiau i’ch clwb ffynnu, mae cyswllt â’ch cymuned leol, ysgolion (gan gynnwys ysgolion arbennig a Chyfleusterau Addysgu Arbenigol), colegau a phrifysgolion yn hanfodol.                          

Pam ddylem ni eu creu?

  • Nid yw’r rhan fwyaf o gymunedau’n gwybod bod clybiau’n bodoli yn eu hardal hyd yn oed - dyma ffordd grêt o ledaenu’r neges
  • Mae ieuenctid yn fwy tebygol o gymryd rhan os oes rhywbeth yn gyfarwydd iddynt – os ydynt wedi gweld hyfforddwyr y clwb yn yr ysgol eisoes, maent yn fwy tebygol o fynd i’r clwb
  • Gall ysgolion a chlybiau gydweithio er mwyn hybu cyfleoedd chwaraeon lleol yn llawer mwy effeithiol
  • Gall agor mynediad i gyfleusterau, offer ac adnoddau eraill ysgolion
  • Gall arwain at wirfoddolwyr newydd

I ysgolion, gall wneud y canlynol:

  • Creu disgyblion iachach a mwy egnïol, rhoi arweiniad mewn chwaraeon gyda llwybrau gadael haws i blant
  • Helpu i godi proffil yn y gymuned
  • Gwella safonau perfformio timau ysgolion
  • Hybu’r ysgol fel sefydliad sy’n cefnogi datblygiad y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol
  • Arwain at gefnogi a chynorthwyo gyda thimau a gweithgareddau allgyrsiol

I bobl ifanc, gall wneud y canlynol:

  • Eu helpu i symud yn hyderus rhwng yr ysgol a’r clwb
  • Rhoi cyfle i adnabod a meithrin talent
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau hyfforddi ac arwain
  • Cyflwyniad i fyw’n iach

Sut gall Cysylltiadau Clwb – Ysgol weithio?

Y peth pwysicaf i’w gofio yw bod cyfathrebu da rhwng y ddwy ochr yn gwbl hanfodol.                 

Mae o help trefnu cyfarfod cychwynnol rhwng yr ysgol a’r clwb i benderfynu ar y berthynas ac i gytuno ar ymrwymiad y ddwy ochr. Mae rhaglen o gyfarfodydd cynnydd rheolaidd yn ffordd dda o adolygu’r cyswllt hefyd.                            

Beth all y clwb ei wneud:

  • Neilltuo person cyswllt penodol a rhoi gwybodaeth a deunydd hyrwyddo i’r ysgol am y clwb
  • Cynnal gŵyl / arddangosfa yn yr ysgol
  • Darparu hyfforddwyr i helpu gyda chlybiau allgyrsiol (hyd yn oed os mai dim ond unwaith y tymor fydd hynny)
  • Cysylltu â Swyddog 5x60 yr Ysgol i helpu gyda chysylltiadau ag ysgolion cynradd
  • Cynnal clwb lloeren ar safle’r ysgol am dymor i helpu gyda chreu amgylchedd cyfarwydd i blant. Ar ôl y tymor hwnnw, y plant yn mynychu’r noson clwb arferol a’r lleoliad. Yn ei dro, mae hyn yn rhoi amser iddynt ddod yn gyfarwydd â’r math o hyfforddiant a’r hyfforddwyr.

Beth all yr ysgol ei wneud:

  • Hybu’r clwb yn yr ysgol - yn syth ar ôl uned waith sy’n cyfateb i’r gamp efallai, neu yn ystod clybiau ar ôl ysgol
  • Darparu cyfleusterau i’r clwb gael cynnal sesiynau
  • Enwebu aelod o staff i gysylltu â’r clwb
  • Cynnig yr un chwaraeon â chlybiau lleol er mwyn cyflwyno’r plant i’r sgiliau mewn amgylchedd cyfarwydd
  • Dosbarthu unrhyw ddeunydd hyrwyddo sydd gan y clwb
  • Gwahodd hyfforddwyr clwb i siarad mewn gwasanaethau boreol mewn ysgolion neu mewn cyfarfodydd o’r Gymdeithas i Rieni ac Athrawon, fel bod pawb yn ymwybodol o’r ddarpariaeth.

Eich cymuned   

Mae wir yn werth treulio rhywfaint o amser yn rhannu’r neges am eich clwb yn y gymuned.         

Os ydych chi newydd sefydlu, mae’n hanfodol bod pobl leol yn gwybod bod y clwb yn bodoli. Ond hyd yn oed os ydych chi wedi sefydlu ers peth amser, mae’n rhaid i chi greu mwy o ymwybyddiaeth.   

Meddyliwch am y canlynol:

  • Rhoi posteri neu daflenni yn y ganolfan gymunedol leol, y ganolfan hamdden, y llyfrgell, siopau neu fusnesau
  • Cynnig sesiynau blasu fel ffordd i annog pobl leol i ymuno â’ch clwb
  • Hybu’r clwb ar dudalennau Facebook lleol a chymunedol

Dyddiau agored a chystadlaethau

Mae dyddiau agored a chystadlaethau’n ffordd grêt o gadarnhau eich lle yn y gymuned.

Gallwch eu defnyddio i sefydlu perthynas gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau, busnesau lleol ac, wrth gwrs, aelodau newydd posib.             

Rhaid annog pobl i roi cynnig ar sesiwn blasu am ddim a mwynhau lluniaeth. Cofiwch hybu eich gweithgareddau ac unrhyw swyddi gwag gwirfoddol.

Yn fwy na dim, rhaid i sesiynau fod yn hwyl, yn groesawgar ac yn apelgar i bobl o bob oed eu mynychu.