Skip to main content

SEFYDLIADAU CEFNOGI

Dylech gymryd amser gyda’ch cais ac edrych drwy’r holl gyfarwyddyd a chasglu’r holl wybodaeth ofynnol. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gofyn am help a chyfarwyddyd gan eich corff rheoli neu adran datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol.   

Mae gwahanol sefydliadau a all eich cefnogi chi:         

Awdurdodau Lleol – Mae gan bob awdurdod lleol swyddogion sy’n gyfrifol am chwaraeon, diwylliant a hamdden. Byddant yn gallu darparu cyfarwyddyd os yw’r broses ymgeisio’n anodd i chi. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r adran rydych ei hangen ar wefan y cyngor, ffoniwch y switsfwrdd a gofyn am siarad gyda swyddog datblygu chwaraeon. (Efallai bod eich tîm datblygu chwaraeon yn rhan o ymddiriedolaeth hamdden yn eich ardal).

Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) – Mae’r sefydliadau hyn yn gweinyddu ac yn llywodraethu chwaraeon ar lefel y DU neu Gymru. Os ydych yn teimlo bod unrhyw ran o’r broses ymgeisio yn anodd, cofiwch ofyn i’ch CRhC am help. Mae rhestr o CRhC ar gael yma. https://wsa.wales/membership/membership-directory/

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) – y corff aelodaeth cenedlaethol i bob sefydliad gwirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys chwaraeon. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth ddefnyddiol ar ei wefan. Os yw eich sefydliad yn gweithredu mewn awdurdod lleol penodol, gallwch hefyd gael cefnogaeth uniongyrchol gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Mae rhestr o’r Cynghorau hyn ar gael yma. https://wcva.cymru/information-support/.

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) yn gorff ymbarél annibynnol sy’n cefnogi ac yn cynrychioli’r sector chwaraeon yng Nghymru. 

Mae’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi busnes, gan gynnwys llinellau cymorth adnoddau dynol, ariannol a chyfreithiol. Gellir lawrlwytho amrywiaeth eang o dempledi dogfennau llywodraethu o’u gwefan ac maent yn cynnig hyfforddiant hefyd. Os ydych chi’n aelod o Gorff Rheoli Cenedlaethol sy’n aelod o’r WSA, gallwch gael y manteision hyn am ddim. https://wsa.wales/

Mae manylion am rai sefydliadau eraill a fydd yn gallu darparu cefnogaeth ar gael ar wefan Atebion Clwb yma.