Skip to main content

Atebolrwydd - trafod yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd

  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Ein dull ni o fuddsoddi
  4. Atebolrwydd - trafod yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd

Mae ein dull o weithredu gydag atebolrwydd yn cefnogi partneriaid i roi disgrifiad gonest o'u gweithredoedd a sut mae'r rhain yn cyfrannu at strategaeth Chwaraeon Cymru.

Mae'n galluogi partneriaid i flaenoriaethu'r casgliad o ddirnadaeth sy'n ddefnyddiol i'w helpu i ddysgu a gwella.

Gweithio gyda ffocws gwahanol

Mae ein dull o weithredu’n ceisio annog gonestrwydd, dysg a diwylliant lle mae’r un mor bwysig ac yn teimlo’r un mor gyfforddus i siarad am yr hyn sydd wedi mynd o’i le â’r hyn sydd wedi mynd yn dda.

Mae gwaith gyda phartneriaid yn canolbwyntio ar drafod yr hyn sy'n bwysig, nid dim ond yr hyn sy’n hawdd ei fesur. Bydd casglu a defnyddio data er mwyn sbarduno gwelliant yn hytrach na phrofi canlyniad neu ddeilliant. Mae’r dull hwn o weithredu’n ein cefnogi ni i gyd i ddysgu a datblygu gyda’n gilydd fel sector.

Ble nesaf

Mae ein dull o weithredu gydag atebolrwydd yn cael ei ddatblygu'n barhaus. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i symud y dull hwn yn ei flaen ac i gynyddu lefel yr atebolrwydd a roddir ar y rhai rydyn ni’n eu cyllido. Rydyn ni’n datblygu dull safonol o ystyried cynnydd yn y maes hwn a’r effaith a gaiff hyn ar lefelau buddsoddi.