Er mwyn cyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru, ac i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i greu’r effaith fwyaf posibl ymhlith y rhai sydd ei angen fwyaf, mae gan Chwaraeon Cymru ddull buddsoddi mentrus.
Cyflwyniad i Gyllid
Mae ein dull ni o gyllido wedi cael ei ddatblygu ar ôl ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan adeiladu ar adborth ac ymchwil ar y cyd o wahanol fodelau buddsoddi o bob rhan o’r byd.
Nod ein dull buddsoddi ni yw cyflawni’r canlynol:
- Tryloywder: dangos yn glir i bawb allu gweld sut a pham rydyn ni’n cyllido partneriaid fel rydyn ni’n gwneud ar hyn o bryd.
 - Mwy o ymreolaeth: ymddiried mai’r partneriaid sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau o fewn eu meysydd eu hunain.
 - Mwy o atebolrwydd: galluogi partneriaid i gymryd mwy o reolaeth dros eu datblygiad eu hunain.
 - Hyblygrwydd: ein galluogi ni a'n partneriaid i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi.
 
Mae ein dull ni o gyllido’n seiliedig ar ffocws ar ddysgu, defnyddio dirnadaeth a datblygu cyd-ymddiriedaeth gyda'n partneriaid. Mae’r dull hwn yn cynnwys tair elfen allweddol:
- Gallu
 - Dirnadaeth, gwybodaeth a data
 - Atebolrwydd
 
Bydd yr holl elfennau hyn yn pennu'r cyllid cyffredinol ar gyfer partneriaid.