Grantiau i helpu clybiau chwaraeon yng Nghymru i arbed ynni a thorri biliau.
Grant Arbed Ynni
Beth yw’r Grant Arbed Ynni?
Mae'r Grant Arbed Ynni yn helpu clybiau chwaraeon yng Nghymru i wneud gwelliannau sy'n gostwng costau ynni ac yn gwneud eu hadeiladau'n fwy effeithlon.
Gallwch wneud cais am hyd at £25,000 i wella eich clwb neu eich ystafelloedd newid a lleihau eich costau rhedeg.
Ar gyfer beth allwch chi gael cyllid?
Gallwch wneud cais am gyllid ar gyfer y canlynol:
- Paneli solar a batris storio
- Inswleiddio (waliau, toeau, ac ati)
- Ffenestri a drysau newydd
- Goleuadau (heb gynnwys llifoleuadau na goleuadau ar gyfer ardaloedd chwarae)
- Systemau gwresogi a dŵr poeth gwell (nid at ddibenion arlwyo yn unig)
- Systemau dŵr cynaliadwy (e.e. cynaeafu dŵr glaw / tyllau turio)
Dyma ragor o wybodaeth am y pethau y gallwch gael cyllid ar eu cyfer.
Eisiau cyllid ar gyfer rhywbeth arall? Edrychwch ar ein grantiau eraill.
Pryd allwch chi wneud cais?
Mae ceisiadau'n agor ddydd Dydd Iau 21ain Mai 2026, 10yb. Cyflwynwch Fynegiant o Ddiddordeb cyn gynted â phosibl (dim hwyrach na Dydd Llun 29fed Mehefin 2026, 5pm) ac os ydych chi'n gymwys byddwch chi'n cael gwahoddiad i Gam 1 y cais.
Cam 1
Dywedwch wrthym ni am eich clwb, pa welliannau rydych chi eisiau eu gwneud, a faint o gyllid sydd arnoch chi ei angen.
- Agor: Dydd Iau 21ain Mai 2026, 10yb
- Dyddiad Cau Datgan Diddordeb: Dydd Llun 29fed Mehefin 2026, 5pm
- Cau: Dydd Mercher 1af Gorffennaf 2026, 3yh
Cam 2
Os cewch eich gwahodd, cwblhewch eich cais. Bydd arnoch chi angen arolwg ynni i’ch arwain chi o ran beth rydych chi angen cyllid ar ei gyfer.
- Agor: Dydd Mercher 22il Gorffennaf 2026, 10yb
- Cau: Dydd Mercher 7fed Hydref 2026, 3yh
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus yn y cam yma, bydd Chwaraeon Cymru yn talu 50% o gost eich arolwg ynni.
Pwy all wneud cais?
Gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn berthnasol:
- Rydych chi'n glwb chwaraeon neu'n grŵp cymunedol nid er elw yng Nghymru
- Rydych chi'n berchen ar eich adeilad neu mae gennych chi o leiaf 7 mlynedd ar ôl ar eich prydles
- Nid yw eich prosiect wedi dechrau eto
- Gallwch chi ddechrau'r prosiect erbyn 31 Mawrth 2026
- Gallwch chi ei orffen o fewn 12 mis i gael y grant
- Gallwch chi dalu o leiaf 20% o gostau'r prosiect (mae hyn yn cynnwys yr arolwg ynni)
Sut i wneud cais?
- Cwblhewch y ffurflen Mynegi Diddordeb cyn gynted â phosibl
- Cael ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith
- Cwblhewch eich ffurflen gais Cam 1 erbyn 25 Mehefin 2025, 3pm
- Os cewch wahoddiad, archebwch a chwblhewch arolwg ynni. Byddwn yn eich helpu gyda hyn.
- Defnyddiwch eich arolwg i helpu i arwain eich cais
- Cwblhewch eich cais llawn erbyn 1 Hydref 2025
Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg – bydd y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal.
Darllenwch ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau cyn gwneud cais.
Sut mae cyllid yn cael ei ddyfarnu?
- Grantiau hyd at £25,000
- Bydd y ceisiadau gyda'r effaith fwyaf yn cael blaenoriaeth.
- Rhaid i'ch clwb dalu o leiaf 20% o gyfanswm y gost (gan gynnwys cost yr arolwg ynni)
Angen help?
Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch chi angen help, gallwch gysylltu â ni:
E-bost: energy@sport.wales
Rhif Ffôn: 0300 3003102 (Llun - Gwener: 10am - 12:30pm a 1:15pm – 4pm)
Ceisiadau Presennol: Mewngofnodwch i gael mynediad i’ch cais.
Dyma 7 gwelliant smart y gall eich clwb eu hariannu…
Dyma rai o brofiadau a chyngor y clybiau sydd wedi…
Ein cronfeydd eraill
Grantiau hyd at £50,000 ar gyfer offer a chyrsiau…
Mynnwch hyd at £15,000 i wella eich cyfleusterau