Am y swydd wag yma
ADRAN A CHYFLOG
Adran - Gweithrediadau
Cyflog - £21,300 (a lwfans o 16% am weithio shifftiau)
Oriau Gwaith – 22 awr yr wythnos (ar gyfartaledd dros batrwm shifft 3 wythnos)
PWY YDYM NI
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideoar ein tudalen gyrfaoedd.
SUT BYDDWCH YN CYFRANNU
Mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn un o’r prif leoliadau hyfforddi a chystadlu ar gyfer chwaraeon yn y DU. Defnyddir y cyfleusterau gan athletwyr elitaidd, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yn ogystal â bod ar gael i'r gymuned leol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwy-ydd Gweithrediadau rhan amser ymuno â'r tîm yn y Ganolfan. Byddwch yn unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd ag angerdd dros ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i'n defnyddwyr. O dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr ar Ddyletswydd ac fel rhan o dîm o staff Gweithrediadau, byddwch yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau a gynigir yn y Ganolfan Genedlaethol yn effeithlon, yn effeithiol ac yn ddiogel, fel sefydlu a thynnu digwyddiadau chwaraeon i lawr, a rhoi hyfforddiant croesawu i aelodau newydd.
GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO
Byddwch yn gweithio’n agos gydag eraill o fewn y tîm gweithrediadau a thîm rheoli’r ganolfan i sicrhau y gellir defnyddio cyfleusterau’r Ganolfan Genedlaethol yn ddiogel ac i safon uchel. Byddwch hefyd yn cysylltu ag unigolion sy'n amrywio o athletwyr elitaidd i'r cyhoedd, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol bob amser.
BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN
Mae cymhwyster Hyfforddwr Campfa cydnabyddedig lefel 2 (neu'r gallu i ennill y cymhwyster hwn o fewn 12 mis) a thystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith gyfredol (neu'r gallu i ennill y dystysgrif hon o fewn 3 mis) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae cymhwyster cysylltiedig â chwaraeon BTEC neu gyfwerth yn ddymunol. Mae angen profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad chwaraeon a hamdden ynghyd â'r gallu i weithio heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd ac i allu blaenoriaethu tasgau. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm rhagorol a byddwch yn gallu dangos lefel uchel o ofal cwsmer.
Mae natur y swydd yn golygu ei bod yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio patrwm shifft sy'n cynnwys oriau afreolaidd ac anghymdeithasol, gan gynnwys boreau cynnar, gyda'r nos, penwythnosau a gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a gwyliau eraill a nodir, os oes angen. Mae agwedd hyblyg tuag at eich oriau gwaith i gefnogi anghenion y Ganolfan yn hanfodol a bydd cyfleoedd rheolaidd i weithio shifftiau llanw ychwanegol a goramser.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.
I gael mwy o wybodaeth am y rôl, e-bostiwch jobenquiries@sport.wales
DYDDIAD CAU
Hanner dydd ar ddydd Mercher 19 Hydref
DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD
Dydd Mercher 2 Tachwedd 2022