Skip to main content

Ymarferydd Datblygu Athletwyr

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Ymarferydd Datblygu Athletwyr

Am y swydd wag hon

ADRAN A CHYFLOG

Adran – System Chwaraeon

Cyflog - £36,345.88 y flwyddyn                    

Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â chefndir cadarn mewn ffisioleg i gefnogi iechyd, lles a datblygiad athletaidd pobl sy'n cael mynediad i chwaraeon perfformiad ledled Cymru. Bydd gennych ddealltwriaeth o'r broses hyfforddi ac ymarfer, datblygiad athletaidd, a sut gall iechyd a lles athletwyr ddylanwadu ar y rhain. Gan weithio gyda'n partneriaid i gyflwyno mentrau datblygu athletaidd amrywiol, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu dealltwriaeth o sut mae tyfiant, aeddfedu, a chyffredinoli cynnar yn dylanwadu ar lwytho, addasu ac adferiad.

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref i weddu i'ch amgylchiadau personol.  

I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideoar ein tudalen gyrfaoedd.

Y RÔL

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â chefndir cadarn mewn ffisioleg i gefnogi iechyd, lles a datblygiad athletaidd pobl sy'n cael mynediad i chwaraeon perfformiad ledled Cymru. Bydd gennych ddealltwriaeth o'r broses hyfforddi ac ymarfer, datblygiad athletaidd, a sut gall iechyd a lles athletwyr ddylanwadu ar y rhain. Gan weithio gyda'n partneriaid i gyflwyno mentrau datblygu athletaidd amrywiol, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu dealltwriaeth o sut mae tyfiant, aeddfedu, a chyffredinoli cynnar yn dylanwadu ar lwytho, addasu ac adferiad.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO

Bydd angen i chi ddatblygu perthnasoedd cadarn gyda hyfforddwyr a staff eraill mewn chwaraeon, aelodau o dîm gwasanaethau'r system chwaraeon, a chydweithwyr ehangach yn Chwaraeon Cymru i gefnogi ein partneriaid i ddeall yn well a gwella'r amgylcheddau datblygu athletwyr maent yn eu creu. Byddwch yn gweithio gyda phobl sy’n rhannu angerdd dros wella’r amgylcheddau datblygu athletwyr yng Nghymru (a thu hwnt) a byddwch yn helpu i ddylanwadu ar eraill a’u perswadio i gymryd rhan mewn gweithgarwch datblygu athletwyr sy’n cyd-fynd ag egwyddorion datblygu athletwyr Chwaraeon Cymru. Byddwch yn rhyngweithio â hyfforddwyr, athletwyr a staff cefnogi eraill i nodi, cyd-greu a chyflwyno prosiectau datblygu athletwyr ledled Cymru.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os hoffech drafod y rôl ymhellach, anfonwch e-bost i [javascript protected email address]

I gael mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio anfonwch e-bost iJOBENQUIRIES@SPORT.WALES

DYDDIAD CAU  

10/3/2023

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD 

23/3/2023