Skip to main content

Mwy i gael ei wneud i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon

  1. Hafan
  2. Mwy i gael ei wneud i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon

Yr unig ffordd i gael gwared ar anghydraddoldeb hiliol a sicrhau bod chwaraeon wir yn adlewyrchu cymdeithas y DU yw drwy “roi cynhwysiant yn gyntaf, ac adeiladu’r system chwaraeon o’i gwmpas”. 

Dyna farn Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, Sarah Powell, mewn ymateb i adolygiad mawr ledled y DU, a gomisiynwyd gan bob un o bum Cyngor Chwaraeon y DU, sydd wedi datgan yn glir bod rhaid gwneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon yn y DU. 

Wedi’i gyhoeddi heddiw, fel rhan o’r Adolygiad Mynd i’r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon bu’r ymgynghoriaeth AKD Solutions yn clywed profiadau chwaraeon mwy na 300 o bobl o gymunedau ethnig amrywiol, ac mae Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam wedi dadansoddi’r holl ddata presennol sydd gan Chwaraeon Cymru, UK Sport, Sport England, sportscotland a Sport Northern Ireland am hil ac ethnigrwydd a chwaraeon. 

Wrth ymateb i’r adolygiad, dywedodd Sarah: “Ein nod ni yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mwynhad gydol oes o chwaraeon. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn tanlinellu’r ffaith nad oes digon yn cael ei wneud ledled y DU i wneud chwaraeon yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn amrywiol, fel bod pobl yn cael profiadau cadarnhaol ar bob lefel. Mae wedi bod yn hynod o drist clywed am yr effaith mae hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol wedi’i chael ar fywydau unigolion, gan arwain at gymunedau ethnig amrywiol yn wynebu anfantais yn gyson. 

Mae canfyddiadau’r adolygiad yn tanlinellu’r ffaith nad oes digon yn cael ei wneud ledled y DU i wneud chwaraeon yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn amrywiol, fel bod pobl yn cael profiadau cadarnhaol ar bob lefel
Sarah Powell

“Ni all hyn barhau i ddigwydd. Mae angen i Chwaraeon Cymru a holl sector chwaraeon Cymru ailfeddwl am sut rydyn ni'n darparu chwaraeon mewn ffordd wirioneddol gynhwysol er mwyn sicrhau newid gwirioneddol. Rydyn ni wedi gweld bod cynnydd wedi bod mewn pocedi bach, ond mae angen dull gweithredu ar y cyd, o'r caeau chwarae i'r ystafelloedd bwrdd, os ydyn ni am weld newid yn cael ei gynnal.

“Dim ond y cam cyntaf yw cydnabod a derbyn canfyddiadau’r adolygiad yma, nawr mae’n rhaid i ni symud ymlaen gyda phwrpas a gweithredu am gyfnod estynedig. Rydyn ni’n eithriadol ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adolygiad drwy rannu eu straeon personol ac ail-fyw profiadau o’r gorffennol. Rydyn ni’n gwybod ei bod yn broses sydd wedi peri gofid i lawer. Gallaf eich sicrhau chi ein bod ni wedi gwrando ac wedi clywed eich straeon. Rhaid i ni sicrhau nad yw ymdrechion yr unigolion, y sefydliadau a'r cymunedau hynny sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil yn ofer. 

“Mae ymrwymiad ledled y DU i ddefnyddio’r darnau hyn o ymchwil fel catalydd ar gyfer cynnydd cynaliadwy yn y tymor hir ym mhob rhan o’r wlad, a bydd Cymru’n chwarae ei rhan yn hyn wrth sicrhau bod ein gweithredoedd penodol yn diwallu anghenion ein cymunedau lleol. 

“Mae’r adolygiad yn ein helpu ni i ddeall y problemau’n well ond dylid ei ystyried fel dechrau ac nid fel diwedd ar ein gwaith o gasglu gwybodaeth. Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i ddysgu gyda'n partneriaid, gan gefnogi a herio ein gilydd i wireddu'r newid rydyn ni i gyd eisiau ei weld.” 

Mae Chwaraeon Cymru bellach yn datblygu cynllun gweithredu penodol i Gymru, fel yr eglura Sarah: “Yn Chwaraeon Cymru yn benodol, bydd ein gweithredoedd ni’n cynnwys gwneud ein cyllid yn haws i bob cymuned gael mynediad iddo, gan sicrhau bod ein buddsoddiad yn cyrraedd lle mae ei angen. 

“Rydyn ni’n ehangu ein rhwydweithiau ac eisoes wedi dechrau creu partneriaethau newydd gyda sefydliadau ac unigolion sydd â gwell dealltwriaeth o'r cymunedau rydyn ni’n ceisio ymgysylltu â hwy. 

“Byddwn yn cefnogi ein partneriaid i weithio'n agosach gyda chymunedau ethnig amrywiol o'r dechrau un drwy gydgynllunio unrhyw fentrau cyfranogi gyda hwy yn hytrach nag ar eu cyfer. Dros amser, bydd hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng cymunedau ethnig amrywiol a sefydliadau chwaraeon. 

“Byddwn hefyd yn defnyddio ein fframweithiau llywodraethu priodol i sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol ar bob lefel o chwaraeon. Rydyn ni’n cydnabod bod mwy y mae angen i Chwaraeon Cymru ei wneud i ddenu gweithlu mwy amrywiol, yn enwedig mewn swyddi uwch ar draws y sefydliad. Hefyd rydyn ni eisiau creu newid tebyg yn y sector cyfan, o lawr gwlad i lefel elitaidd, gweinyddiaeth i lywodraethu, recriwtio a chadw. Trwy gael gweithluoedd a gwirfoddolwyr o gefndiroedd mwy amrywiol, gall chwaraeon yng Nghymru wireddu'r manteision sydd i’w cael o ystod ehangach o safbwyntiau, profiadau, sgiliau a thalentau.” 

Ychwanegodd Sarah: “I'r miloedd o bobl sy'n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru, os ydych chi'n gyfranogwr, hyfforddwr, gweithiwr, gwirfoddolwr, rhiant, cefnogwr neu aelod bwrdd, mae gan bob un ohonoch chi ran i'w chwarae. Gall pob un ohonom ni wneud ein rhan i wneud chwaraeon yn gynhwysol, yn hwyl ac yn groesawgar i bawb.”

Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Lawrence Conway: “Rydyn ni’n derbyn yn llwyr nad oes gennym ni’r holl atebion, felly rydyn ni wir eisiau gweithio’n agosach gyda sefydliadau eraill sydd â mwy o brofiad yn y maes hwn, a gydag arweinwyr cymunedol o’r cymunedau amrywiol rydyn ni eisiau gweithio â nhw. 

“Bydd ein dull o weithredu’n gwbl dryloyw fel bod posib ein dal yn atebol am ein gweithredoedd. Byddwn yn adolygu ac yn rhannu cynnydd yn rheolaidd a byddwn yn sicrhau bod y sgyrsiau'n parhau. 

“Mae hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol yn broblemau cymdeithasol ehangach, ond mae amlygrwydd chwaraeon yn golygu y gall chwarae rhan sylweddol wrth helpu i newid agweddau a dod ag anghyfiawnder i ben. Gall chwaraeon arwain y ffordd, ond er mwyn gwneud hynny rhaid i ni ddal ati i ddysgu a gofyn cwestiynau anodd i ni’n hunain.”