Skip to main content

Y Gwledydd Cartref - Datganiad ar y Cyd

Datganiad gan Brif Weithredwyr UK Sport, Sport England, Chwaraeon Cymru, Sport Scotland a Sport Northern Ireland. 

Yn 2020, roedd llofruddiaeth George Floyd yn gatalydd i'r pum Cyngor Chwaraeon sy'n gyfrifol am fuddsoddi mewn chwaraeon a'u datblygu ledled y DU, ddod at ei gilydd i edrych ar anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon a gweld i ba raddau mae ein system chwaraeon yn adlewyrchu cymdeithas y DU. 

O dan arweiniad pum Prif Swyddog Gweithredol pob sefydliad, mae'r grŵp hwn wedi cyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi sefydlu'r Adolygiad Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon (TRARIIS) yn gyflym. Roedd hyn er mwyn helpu i ddeall yn well a oedd y Cynghorau'n gwneud digon i ddeall y cyd-destun a mynd i'r afael â'r materion dan sylw.

Roedd yr adolygiad yn cynnwys dadansoddiad helaeth, wedi'i gynnal gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon (SIRC) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, o'r holl ddata sydd ar gael i'r cyhoedd ar hil ac ethnigrwydd mewn chwaraeon. Roedd hefyd yn cynnwys darn ychwanegol o waith dan arweiniad AKD Solutions, ymgynghoriaeth Dysgu a Datblygu o dan arweiniad pobl dduon, i gynnal prosiect ymchwil ymarferol gyda mwy na 300 o bobl ledled y DU, yn amrywio o gyfranogwyr ar lawr gwlad i athletwyr a hyfforddwyr elitaidd, yn rhannu safbwyntiau o ran eu hymwneud â chwaraeon. 

Mae'r canfyddiadau'n dangos yn glir bod hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol yn parhau i fodoli mewn chwaraeon yn y DU a bod materion hirsefydlog wedi arwain at roi cymunedau ethnig amrywiol dan anfantais yn gyson. 

Tynnodd yr adolygiad sylw hefyd at yr effaith andwyol y mae hyn wedi'i chael ar unigolion, gan arwain at ddrwgdybiaeth ac eithrio ac mae'n nodi'n glir y meysydd lle mae'n rhaid i ni weld newid. Mae'r adolygiad wedi llunio dau adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi lle mae bylchau yn ogystal â themâu cyffredin. Maent yn nodi argymhellion ar sut i wneud cynnydd ystyrlon.

Mae Chwaraeon Cymru, UK Sport, Sport England, sportscotland, a Sport Northern Ireland yn croesawu dyfnder y canfyddiadau ac yn derbyn yn llwyr y dylid defnyddio'r argymhellion yn awr i ddatblygu a chyflawni camau pendant i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Mae'r Cynghorau hefyd eisiau nodi eu gwerthfawrogiad enfawr i bawb a rannodd eu straeon personol, proses y gwyddom y bydd wedi peri gofid mawr i lawer.

Mae chwaraeon ledled y DU yn cael eu darparu gan ystod eang o sefydliadau.Rydym yn galw arnynt i weithio gyda ni, yn ogystal â chymunedau amrywiol yn y DU, wrth i ni sicrhau cydraddoldeb hiliol ar draws pob gwlad ac ym mhob camp. 

Er eu bod yn cydnabod y bydd y broses hon yn cymryd amser, gyda'i gilydd, mae'r Cynghorau'n benderfynol o ddysgu o'r adolygiad a sicrhau newid llwyr ar draws y byd chwaraeon, gan fanteisio ar eu pŵer enfawr i sicrhau cydraddoldeb a gwneud yn siŵr bod pob rhan o'r system yn deg, yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn amrywiol a bod pobl yn cael profiadau cadarnhaol ar bob lefel.

Mae'r Cynghorau wedi cytuno ar rai ymrwymiadau cyffredinol cychwynnol y bydd pob un o'r pum sefydliad yn gweithio arnynt gyda'i gilydd gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'u strategaethau unigol. Mae'r rhain yn ymwneud â phobl; cynrychiolaeth; buddsoddiad, systemau a gwybodaeth, a cheir manylion pellach isod. 

Bydd pob Cyngor hefyd yn gweithio'n gyflym i ddatblygu eu cynlluniau gweithredu penodol eu hunain i gyflawni'r ymrwymiadau hyn ymhellach, gan ystyried eu cyd-destunau a'u cylchoedd gwaith lleol eu hunain, a mynd i'r afael ag argymhellion yr adolygiad. 

Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gyda grwpiau neu gymunedau perthnasol yn ystod y misoedd nesaf, i greu atebion ar y cyd ar gyfer newid gwirioneddol a pharhaol ac i feithrin ymddiriedaeth. Bydd y cynlluniau sy'n deillio o hynny’n cael eu rhannu'n gyhoeddus i gefnogi'r sector chwaraeon ehangach i ddeall a chydnabod y materion, a sicrhau newid ar y cyd. 

Mae pob un o'r pum sefydliad wedi ymrwymo i dryloywder ac atebolrwydd a byddant yn parhau i adrodd yn gyhoeddus ar gynnydd. Bydd y gwaith hwn yn parhau i gael ei arwain ar lefel Prif Swyddog Gweithredol.

Sarah Powell, CEO Sport Wales

Tim Hollingsworth, CEO Sport England

Sally Munday, CEO UK Sport

Stewart Harris, CEO sportscotland

Antoinette McKeown, CEO Sport Northern Ireland

Gallwch weld mwy am yr ymrwymiad pum pwynt ar y cyd isod.