Skip to main content

Mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon – pum thema gyffredin ar gyfer gweithredu

  1. Hafan
  2. Mwy i gael ei wneud i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon
  3. Mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon – pum thema gyffredin ar gyfer gweithredu

Ein strwythurau a'n systemau mewnol

Byddwn yn edrych ar ein trefniadau grant, buddsoddi a chadwyn gyflenwi cyffredinol, er mwyn sicrhau bod tegwch, creadigrwydd a chynrychiolaeth wrth wraidd y ffordd y caiff cyllid a chontractau eu dyfarnu. 

Drwy ein fframweithiau a'n strategaethau priodol, byddwn yn edrych ar sut gallwn sicrhau bod gennym ni, a'r sefydliadau a ariennir gennym, bolisïau a gweithdrefnau ar waith sy'n cefnogi cynhwysiant, neu ein bod wrthi'n eu llunio, mewn meysydd fel y canlynol: 

  • Herio hiliaeth ac ymddygiad hiliol o fewn ein meysydd cyfrifoldeb perthnasol
  • Adolygu arferion recriwtio yn ogystal â dylunio canllawiau, rhaglenni ac ymyriadau i helpu i ymgysylltu a denu pobl fwy amrywiol.
  • Cefnogi hyfforddiant ac addysg barhaus i ddeall hiliaeth a'r effaith mae'n ei chael ar unigolion a'n sector.
  • Ymgysylltu â rhwydweithiau cymorth a phartneriaid perthnasol i herio hiliaeth a hyrwyddo ymddygiadau ac arferion gwrth-hiliol.

Gwella cynrychiolaeth

Mae tangynrychiolaeth o gymunedau ethnig amrywiol o fewn strwythurau chwaraeon yn thema reolaidd yn yr ymchwil.

Rydym eisiau gweld mwy o gynrychiolaeth ar bob lefel o chwaraeon, boed hynny mewn cyfranogiad, gweinyddiaeth, gwirfoddoli neu recriwtio. Felly, byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddeall effaith negyddol anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon a sut gall gwell cynrychiolaeth helpu i greu amgylchedd cynhwysol a mwy amrywiol, sy'n adlewyrchu cymdeithas y DU. Byddwn yn gweithio i ymgorffori'r cysylltiad rhwng gwell cynrychiolaeth a gwneud penderfyniadau strategol a gweithredol gwell. 

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau partner i rannu arfer da, gan roi sylw arbennig i gamau gweithredu sy'n cyd-fynd â chynllunio a gweithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y tymor hwy. Byddwn yn glir ble rydym am i'n partneriaid wneud mwy, yn gweithio gyda chydweithwyr i greu amgylchedd sy'n cynnig profiadau cadarnhaol, yn mynd i'r afael â gwahaniaethu ac yn grymuso unigolion i gyrraedd eu llawn botensial. 

Pobl - ein gweithlu

Mae'r ymchwil wedi nodi materion sy'n cyfrannu at anghydraddoldeb hiliol yn y gweithlu cyflogedig a gwirfoddol.Mae hefyd wedi tynnu sylw at yr angen am wella arferion fel casglu a dadansoddi data'r gweithlu fel sail i gynlluniau gweithredu a phennu canlyniadau mesuradwy.  Felly, byddwn yn gweithio i wella sut a ble mae data’n cael eu casglu ar draws ein gweithlu fel ein bod yn gallu creu darlun llawer cliriach o'r anghydraddoldeb a nodwyd yn yr adolygiad hwn.

Byddwn yn mynd ati'n rhagweithiol i nodi'r systemau a'r strwythurau presennol sy'n achosi rhwystrau ar hyn o bryd i bobl o gymunedau ethnig amrywiol a bydd gwneud gwelliannau i brosesau recriwtio, datblygu a chadw'r gweithlu yn flaenoriaeth gennym. Bydd hyn yn cynnwys ymgorffori'r dulliau sy'n golygu y gallwn ddechrau mynd i'r afael â'r maes hwn o safbwynt unigolion, grwpiau, arweinyddiaeth a chymdeithas ehangach.

Gwybodaeth

Mae'r ymchwil wedi rhoi gwybodaeth gyfoethog i ni a ddylai ein herio i ailystyried sut rydym yn mynd ati i ddarparu chwaraeon. Mae hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod arnom angen mwy o wybodaeth a gwell gwybodaeth am gymunedau ethnig amrywiol mewn chwaraeon os ydym am fod yn wirioneddol effeithiol o ran deall a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol. 

Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad pellach o ffynonellau data o ansawdd uchel sydd heb eu hymchwilio yn llawn eto; edrych ar ddulliau o sicrhau mwy o fanylder data rhwng ac o fewn gwahanol grwpiau ethnig; datblygu gwybodaeth bellach am ryngweithiad hil, statws economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd; a datblygu ein dealltwriaeth o brofiadau byw grwpiau ethnig amrywiol ymhellach. 

Fel grŵp o Gynghorau Chwaraeon, byddwn yn ceisio bod yn fwy systematig yn y ffordd rydym yn casglu data; yn yr ymchwil y byddwn yn ei gomisiynu ynghylch anghydraddoldeb a chynhwysiant; ac wrth fesur ac olrhain y cynnydd y gallwn ni ei wneud.  Byddwn yn mynd ati'n rhagweithiol i ymgysylltu a rhannu adroddiadau â phartneriaid allweddol, gan eu cefnogi gyda dirnad, deall a myfyrio ar y canfyddiadau gyda'r nod o herio beth mae hyn yn ei olygu i'w ffyrdd hwy eu hunain o weithredu. 

Buddsoddiad 

Mae'r hyn rydym yn buddsoddi ynddo a sut rydym yn buddsoddi yn ffactorau allweddol yn y ffordd rydym yn cyrraedd cymunedau ac yn sbarduno newid o ran ymgysylltu'n gadarnhaol â chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydym yn cydnabod y dylid gwneud mwy, ac y bydd mwy’n cael ei wneud, i fuddsoddi lle mae ei angen drwy weithio gyda phartneriaid newydd a phartneriaid presennol fel rhan o'n blaenoriaethau ehangach i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, y mae anghydraddoldeb hiliol yn rhan ohono. 

Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i ddeall eu hanghenion ac yn targedu buddsoddiadau i helpu i fynd i'r afael â'r anghenion hyn. Os yw hynny’n berthnasol, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni wedi'u targedu sy'n cyrraedd cymunedau ethnig amrywiol ac yn mesur effaith ein buddsoddiadau'n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn arwain at y newid angenrheidiol yr ydym eisiau ei weld.