Skip to main content

Argymhellion

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r prosiect peilot, awgrymir yr argymhellion allweddol canlynol:

Argymhelliad 1:

Datblygu neges glir am ddiben y rhaglen AEBSD, gan ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y gwerthusiad o ran pam roedd disgyblion yn mynychu (e.e. dysgu sgiliau newydd).

Er mai’r prif ganlyniad ar hyn o bryd yw cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau mwy cyfannol fel rhyngweithio cymdeithasol, ymgysylltu â’r cwricwlwm, gwella lles staff a disgyblion, gall rhinweddau a phrofiadau sy’n deillio o gymryd rhan ysgogi presenoldeb sydd, yn ei dro , yn cynyddu gweithgarwch corfforol.

Argymhelliad 2:

Ymgymryd a gwerthuso parhaus o raglen AEBSD.

Dylai’r gwerthusiad gynnwys mesurau gwrthrychol (e.e. gweithgarwch corfforol), a chysylltu cynllunio a gwerthuso â’i gilydd gan ddefnyddio adnoddau a dulliau gweithredu cydnabyddedig. Bydd hyn hefyd yn cofnodi newidiadau parhaus i’r amgylchedd a datblygu plant a phobl ifanc fel cyfryngau eu hiechyd eu hunain. Mae ailadrodd yr un mesurau yn fanteisiol i alluogi cymariaethau.

Argymhelliad 3:

Datblygu dull systemau o weithredu’r rhaglen AEBSD yn genedlaethol.

Gan nad yw’r ysgol yn gweithredu ar ei phen ei hun, mae deall cysylltiadau ac effaith y rhaglen gyda phartneriaid ac arnynt yn bwysig. Mae angen i ysgolion weithredu ar lefel leol o’r dechrau (e.e. gydag arweinwyr addysg eu hawdurdod lleol), ac wedyn adeiladu ar lefel ranbarthol. Bydd y dull hwn hefyd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng ysgolion a grwpiau chwaraeon cymunedol, ond hefyd yn ystyried lle gallai diffygion yn y gymuned ddigwydd o ganlyniad i’r rhaglen (e.e. aelodaeth campfa canolfan hamdden leol).

Argymhelliad 4:

Datblygu pecyn adnoddau AEBSD i ysgolion.

Dylai’r pecyn adnoddau nodi fframwaith o syniadau ar gyfer sut i ddod yn lleoliad addysg actif. Gallai’r pecyn adnoddau ystyried y syniadau canlynol, nad ydynt yn hollgynhwysfawr:

  • Ymgynghori â’r defnyddwyr terfynol, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi presenoldeb a mynychwyr
  • Creu grŵp llais y disgybl
  • Asesiad o’r ddarpariaeth bresennol i ganfod bylchau
  • Strwythur llywodraethu
  • Dulliau cyfathrebu, gydag awgrymiadau ar gyfer ymadroddion
  • Trefnu darpariaeth deithio, gan gynnwys cynorthwyo gyda theithio llesol
  • Cyfle cyfartal ar draws yr oedrannau i sicrhau bod y rhaglen yn gynhwysol
  • Cynlluniau cynaliadwyedd

Argymhelliad 5:

Datblygu model cyllido cynaliadwy i gefnogi ysgolion i sefydlu a pharhau â’r rhaglen

Gan fod gan ysgolion ymreolaeth o ran sut maent yn cyflwyno’r rhaglen, dylent allu penderfynu sut caiff y cyllid ei wario. Mae gweithredu llwyddiannus wedi cyllido darpariaeth drwy gontract allanol ar gyfer darpariaeth allanol, tra bo eraill wedi cyllido offer.