Skip to main content

Atodiad

Atodiad 1. Trosolwg o adnoddau casglu data, a ddyluniwyd gan Chwaraeon Cymru, i werthuso’r rhaglen AEBSD

 

AdnoddDull

 

 

Ceisiadau mynegi diddordeb

Gwahoddwyd pob ysgol yng Nghymru, mewn cydweithrediad â’u Harweinwyr Chwaraeon / Hamdden ac Addysg yn yr Awdurdodau Lleol, i gyflwyno Ffurflen Mynegi Diddordeb. Cynnig amlinellol oedd hwn o sut byddai eu hysgolion yn gweithredu

fel lleoliad addysg actif i hwyluso sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i

ddisgyblion, teuluoedd, a’r gymuned ehangach.

 

 

 

 

Fforymau ysgolion

Cyflwynwyd tri fforwm ysgolion gan Chwaraeon Cymru yn ystod y rhaglen AEBSD. Gwahoddwyd staff ysgolion, staff addysg awdurdodau lleol (ar gyfer yr ysgolion oedd yn cymryd rhan) ac adrannau datblygu chwaraeon i’r fforymau ysgolion ar-lein i rannu syniadau, meddyliau a barn am y prosiect. Yn ystod y fforwm ysgolion diwethaf, defnyddiwyd arolwg byr i gasglu barn yr ysgolion ar gynaliadwyedd y prosiect. Roedd y fforwm ysgolion yn rhan o'r rhaglen yn ogystal â rhan o'r adnoddau casglu data

gwerthuso.

 

Cofnodion dysgu

Gan ddefnyddio templed, gofynnwyd i’r ysgolion gasglu eu barn yn fisol ar weithredu’r rhaglen, gan nodi pwyntiau dysgu pwysig i lywio’r ddarpariaeth barhaus.

 

Cofrestri presenoldeb

Gofynnwyd i’r ysgolion dracio presenoldeb pawb oedd yn mynychu eu sesiynau yn wythnosol ac yn fisol. Nid oedd y mynychwyr i gael eu cyfrif ddwywaith.

 

Cyfweliad strwythuredig i oedolion

Gwahoddwyd pob aelod o staff cyswllt yr ysgol i gymryd rhan yn y cyfweliadau strwythuredig i oedolion. Derbyniodd staff yr holiadur cyn y cyfweliad i gael yr atebion ac yn ystod cyfweliad ar-lein o bell rhannwyd yr atebion i gwblhau'r holiadur.

 

 

Arolwg lefel disgyblion

Crëwyd arolwg ar-lein, gan ddefnyddio cymysgedd o gwestiynau agored a chaeëdig, i gofnodi teimladau a meddyliau’r disgyblion tuag at y rhaglen AEBSD. Casglwyd data am bresenoldeb y disgyblion yn y sesiynau, profiad cyffredinol y sesiynau, hyder yn ystod y sesiynau, sut gwnaethant deithio i’r sesiynau ac effaith y sesiynau ar weithgarwch

corfforol.

Mesurau ychwanegol ar gyfer tair ysgol hydredol

 

 

Grwpiau ffocws disgyblion

 

 

 

 

Cyfweliad lled-strwythuredig i oedolion

 

Cynlluniwyd a defnyddiwyd canllaw grŵp ffocws i sicrhau bod llwybrau cwestiynu tebyg yn cael eu dilyn gyda phob grŵp ffocws, tra hefyd yn caniatáu hyblygrwydd i ymateb i linellau trafod a godwyd gan y disgyblion.

Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda’r staff a gymerodd ran yn y prosiect peilot o'r ysgolion a'r timau datblygu chwaraeon. Roedd y cyfweliadau hyn yn casglu beth oedd yn cael ei weithredu, beth oedd yn mynd yn dda, ac unrhyw welliannau y gellid eu gwneud.

Sefydliad cymru gweithgaredd corfforol, iechyd a chwaraeon

Mae WIPAHS yn rhwydwaith Cymru gyfan o wyth o Brifysgolion yng Nghymru a Chwaraeon Cymru. Gydag aelodau wedi’u lleoli ledled Cymru, gallwn fanteisio ar ddiwylliant unigryw’r genedl a’i hystod ryfeddol o arbenigedd, seilwaith a chyfleusterau. Mae WIPAHS yn dod ag academyddion o safon byd at ei gilydd, gyda chynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n cael eu sbarduno i ateb cwestiynau sy’n seiliedig ar ymarfer, nodi cwestiynau ymchwil sylfaenol, a sicrhau bod canfyddiadau’n cael eu hadlewyrchu ym mholisïau ac arferion Cymru. Mantais gweithio gyda WIPAHS yw’r mynediad i’r fath ehangder o wybodaeth ac adnoddau sydd ar gael ar draws y partneriaid.

Mae ein harbenigedd ymchwil yn cynnwys anghydraddoldebau iechyd a’r defnydd o weithgarwch corfforol fel meddygaeth. Rydym hefyd yn arbenigwyr mewn llythrennedd corfforol, a defnyddio technoleg i hybu gweithgarwch corfforol neu reoli cyflyrau iechyd. Wrth weithio ar hyd oes, mae llawer o’n hymchwilwyr yn arbenigwyr blaenllaw mewn defnyddio gweithgarwch corfforol i wella canlyniadau tymor byr a thymor hir i blant a phobl ifanc. Mae’r ymchwilwyr wedi cyfrannu at nifer o weithgorau gweithgarwch corfforol ac iechyd arbenigol y Prif Swyddog Meddygol (gan gynnwys canllawiau plant a phobl ifanc), Gweithgarwch Corfforol ym mhwyllgor cynghori safonau ansawdd y Sefydliad

Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal Iechyd (NICE) ar gyfer gordewdra ymhlith plant ac maent yn Aelod o Bwyllgor Llywio Ewropaidd HEPA Sefydliad Iechyd y Byd.

Fel sefydliad sy’n cael ei sbarduno gan ymarfer, mae WIPAHS yn ceisio ateb y cwestiynau a ofynnir gan bartneriaid sy’n gweithio yn y maes, yn ogystal â dosbarthu gwybodaeth yn eang ar draws ystod amrywiol o gynulleidfaoedd. Mae WIPAHS yn defnyddio pŵer trawsnewidiol gweithgarwch corfforol a chwaraeon i wella bywydau pobl yng Nghymru.