Skip to main content

Oedran

Penawdau Oedran Allweddol: 

  • Nid yw bron i chwarter y rhai 55+ oed (oedolion hŷn) (24%) wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n ddwbl y ganran ar gyfer pobl 16 i 34 oed (oedolion iau) (12%), tra bo 15% o bobl 35 i 54 oed heb gymryd rhan.
  • Mae oedolion hŷn yn llawer mwy tebygol o gerdded i hamddena na'r grwpiau oedran eraill – 44% [oedolion iau] o gymharu â 61% [35 i 54 oed] o gymharu â 66% [oedolion hŷn]
  • Oedolion iau sydd fwyaf tebygol o gerdded i hamddena gyda rhywun arall o gymharu ag unrhyw grŵp oedran arall - 60% o gymharu â 57% o gymharu â 43%.
  • Oedolion hŷn sydd leiaf tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y gymuned. Oedolion iau sydd fwyaf tebygol o wneud hyn – 48% o gymharu â 32% o gymharu â 18%.
  • Mae ychydig llai na 2 o bob 3 (66%) oedolyn hŷn yn credu eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, sy’n is nag oedolion iau (77%) a phobl 35 i 54 oed (77%).
  • Mae 42% o oedolion iau wedi gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd y newidiadau mewn costau byw, o gymharu â 35% o bobl 35 i 54 oed a 21% o oedolion hŷn.
  • Mae'r newidiadau mewn costau byw wedi cael mwy o effaith ar bobl iau nag unrhyw gategori oedran arall – 64% o gymharu â 57% o gymharu â 32%.
  • Mae mwy na hanner (53%) yr oedolion iau yn fwy tebygol o gytuno bod y cyfleusterau yn eu hardal leol o ansawdd uchel, mae hyn o gymharu â 46% o bobl 35 i 54 oed a 40% o oedolion hŷn.
  • Mae bron i 2 o bob 3 oedolyn iau a 35 i 54 oed yn cytuno eu bod yn defnyddio gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, o gymharu â bron i 1 o bob 2 oedolyn hŷn – 64% o gymharu â 63% o gymharu â 49. %.
  • Mae oedolion iau yn fwy tebygol o weld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad nag unrhyw un o'r grwpiau oedran eraill, ac mae mwynhad a boddhad yr oedolion iau wedi cynyddu 7 pwynt canran ers y don flaenorol - 68% o gymharu â 62% o gymharu â 49%.

Cenedl Actif (Math o Gyfranogiad a Gweithgarwch): 

  • Nid yw bron i chwarter y rhai 55+ oed (oedolion hŷn) (24%) wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n ddwbl y ganran ar gyfer pobl 16 i 34 oed (oedolion iau) (12%), tra bo 15% o bobl 35 i 54 oed heb gymryd rhan.
  • Mae oedolion iau yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 o ddyddiau yr wythnos nag oedolion hŷn – 51% o gymharu â 45%.
  • Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gerdded i hamddena, mae pobl iau yn fwy tebygol o gerdded i deithio:
    • Cerddded i hamddena – 44% [oedolion iau] o gymharu â 61% [35 i 54 oed] o gymharu â 66% [oedolion hŷn]
    • Cerdded i deithio – 32% o gymharu â 26% o gymharu â 22%
  • Pobl 35 i 54 oed sydd fwyaf tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn beicio - 12% o gymharu â 13% o gymharu â 9%.
  • Oedolion hŷn sydd leiaf tebygol o gerdded i hamddena gyda rhywun arall o gymharu ag unrhyw grŵp oedran arall:
    • Oedolion iau - 60%
    • Pobl 35 i 54 oed - 57%
    • Oedolion hŷn - 43%
  • Mae 15% o oedolion iau yn cymryd rhan mewn chwaraeon tîm.
  • Dywedodd 1 o bob 4 (25%) o oedolion iau eu bod yn mynychu campfa, dosbarth ffitrwydd neu ddosbarth ymarfer corff o’r cartref, o gymharu ag 1 o bob 5 (20%) o bobl 35 i 54 oed.
  • Oedolion hŷn sydd leiaf tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y gymuned. Oedolion iau sydd fwyaf tebygol o wneud hyn:
    • Oedolion iau – 48%
    • Pobl 35 i 54 oed – 32%
    • Oedolion hŷn – 18%

Pawb (Cynhwysiant):

  • Mae ychydig llai na 2 o bob 3 (66%) oedolyn hŷn yn credu eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, sy’n is nag ar gyfer oedolion iau (77%) a phobl 35 i 54 oed (77%).
  • Oedolion hŷn sydd leiaf tebygol o gytuno y gallant gyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol sy'n apelio atynt:
    • Oedolion iau – 61%
    • Pobl 35 i 54 oed – 62%
    • Oedolion hŷn – 51%
  • Mae 42% o oedolion iau wedi gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd y newidiadau mewn costau byw, o gymharu â 35% o bobl 35 i 54 oed a 21% o oedolion hŷn.
  • Mae'r newidiadau mewn costau byw wedi cael mwy o effaith ar bobl iau nag unrhyw gategori oedran arall – 64% o gymharu â 57% o gymharu â 32%.
  • Mae costau byw wedi cael effaith negyddol ar bob grŵp, er bod y rhai yn y grŵp oedolion iau a 35 i 54 oed yn adrodd am fwy o effaith negyddol nag oedolion hŷn – 47% o gymharu â 48% o gymharu â 28%.

Gydol Oes (Galw):

  • Mae mwy na hanner (53%) yr oedolion iau yn debygol o gytuno bod y cyfleusterau yn eu hardal leol o ansawdd uchel, mae hyn o gymharu â 46% o bobl 35 i 54 oed a 40% o oedolion hŷn.
  • Mae mwy na hanner pob categori oedran yn credu bod nifer digonol o gyfleusterau yn eu hardal leol – 50% o gymharu â 55% o gymharu â 51%.
  • Oedolion hŷn yw'r lleiaf tebygol o fod â'r gallu i fod yn gorfforol actif o gymharu ag unrhyw gategori oedran arall yn yr arolwg – 83% o gymharu â 79% o gymharu â 62%.
  • Mae oedolion iau yn fwy tebygol o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif o gymharu â’r grwpiau oedran eraill, gydag oedolion hŷn yn llawer llai tebygol o gytuno na’r ddau grŵp oedran arall – 50% o gymharu â 40% o gymharu â 18% .
  • Mae bron i 2 o bob 3 oedolyn iau a phobl 35 i 54 oed yn cytuno eu bod yn defnyddio gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddyliol, o gymharu â bron i 1 o bob 2 oedolyn hŷn – 64% o gymharu â 63% o gymharu â 49%

Mwynhad (Hyder a Mwynhad):

  • Mae oedolion iau yn fwy tebygol o weld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad nag unrhyw un o’r grwpiau oedran eraill, ac mae mwynhad a boddhad yr oedolion iau wedi cynyddu 7 pwynt canran ers y don flaenorol:
    • Oedolion iau – 68%
    • Pobl 35 i 54 oed – 62%
    • Oedolion hŷn – 49%
  • Mae oedolion iau yn fwy tebygol hefyd o fod â’r hyder i fod yn gorfforol actif o gymharu â’r grwpiau oedran eraill:
    • Oedolion iau – 63%
    • Pobl 35 i 54 oed – 60%
    • Oedolion hŷn – 54%
  • Mae pwysigrwydd ymarfer corff yn rheolaidd i'w weld ym mhob grŵp oedran o ymatebwyr. Er bod bron i 2 o bob 3 (65%) oedolyn hŷn yn deall pwysigrwydd gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, ychydig dros 2 o bob 3 (67%) o bobl 35 i 54 oed ac ychydig o dan 3 o bob 4 (72%) oedolyn iau sy’n deall y pwysigrwydd.
  • Gall poeni am adael y cartref fod yn rhwystr posibl i gyfranogiad, ac mae oedolion iau yn fwy tueddol o boeni am adael y cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn fwy nag unrhyw grŵp oedran arall – 34% o gymharu â 28% o gymharu â 13%.
  • Mae oedolion iau yn llawer mwy tebygol o fod yn hyderus mewn campfa / ystafell iechyd nag oedolion hŷn:
    • Oedolion iau – 58%
    • Pobl 35 i 54 oed – 49%
    • Oedolion hŷn – 24%
  • Er bod oedolion iau (15%) a phobl 35 i 54 oed (12%) yn credu bod cymryd rhan gyda rhywun / mwy o bobl yn gwneud cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn fwy pleserus, mae oedolion hŷn yn credu mai teimlo’n dda sy’n gwneud gweithgarwch corfforol yn fwyaf pleserus (10%).