Skip to main content

Rhywedd

Penawdau Rhywedd Allweddol: 

  • Ymatebodd 62% o ferched a dweud eu bod yn cerdded i hamddena o gymharu â 54% o ddynion.
  • Roedd 46% o’r dynion a ymatebodd yn cytuno bod y cyfleusterau lleol yn eu hardal yn fforddiadwy, sy'n cyferbynnu â 38% o’r ymatebwyr benywaidd a oedd yn cytuno.
  • Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith negyddol ar weithgareddau corfforol oedolion yng Nghymru gan fod 36% o’r dynion yn dweud eu bod wedi cael effaith negyddol arnynt o gymharu â 44% o’r merched.
  • Cerdded oedd y gweithgaredd y mae gan yr ymatebwyr gwrywaidd a benywaidd y dyhead mwyaf i'w wneud yn y dyfodol, gydag ychydig llai na 2 o bob 3 menyw â dyhead i gerdded mwy – 53% o gymharu â 65%.
  • Nid yw 1 o bob 3 menyw (33%) yn hoffi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain, o gymharu ag 1 o bob 4 dyn (25%).
  • Mae gan 67% o ddynion yr hyder i fod yn gorfforol actif, o gymharu â 50% o ferched.

Cenedl Actif (Math o Gyfranogiad a Gweithgarwch):

  • Mae 18% o ddynion wedi dweud nad ydynt wedi cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â 19% o ferched.
  • Roedd bron i hanner (49%) yr ymatebwyr gwrywaidd wedi dweud eu bod wedi cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch corfforol ar 2 i 4 o ddyddiau yr wythnos, o gymharu â 46% o ferched.
  • Dywedodd 26% o’r ymatebwyr gwrywaidd eu bod wedi cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch ar 5 neu fwy o ddyddiau, o gymharu â 24% o ferched.
  • Mae merched yn fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn:
    • Cerdded i hamddena – 54% [dynion] o gymharu â 62% [merched]
    • Gweithgarwch yn y cartref – 15% o gymharu ag 20%
    • Nofio – 8% o gymharu â 13%
  • Mae 10% o ddynion wedi cymryd rhan mewn chwaraeon tîm.
  • Mae merched yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol gyda rhywun arall yn y rhan fwyaf o achosion na dynion. Mae ychydig o’r enghreifftiau yn cynnwys:
    • Cerdded i deithio - 36% o gymharu â 29%.
    • Cerdded i hamddena - 56% o gymharu â 45%
    • Campfa a dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref – 50% o gymharu â 43%
    • Nofio – 54% o gymharu â 44%
    • Rhedeg neu loncian – 28% o gymharu â 26%

Pawb (Cynhwysiant):

  • Mae 73% o ddynion a merched bellach yn credu eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif.
  • Roedd 46% o’r dynion a ymatebodd yn cytuno bod y cyfleusterau lleol yn eu hardal yn fforddiadwy, sy'n cyferbynnu â 38% o’r ymatebwyr benywaidd a oedd yn cytuno.
  • Mae 57% o ddynion a merched yn cytuno eu bod yn gallu cyrraedd eu cyfleusterau lleol, er bod hwn yn ostyngiad o 5 pwynt canran ar gyfer y dynion ers mis Ionawr 2023, mae’n gynnydd o 6 pwynt canran ar gyfer y merched yn ystod yr un cyfnod o amser.
  • Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith negyddol ar weithgareddau corfforol oedolion yng Nghymru gyda 36% o’r dynion yn dweud ei fod wedi cael effaith negyddol arnynt hwy o gymharu â 44% o ferched.
  • 24% o ferched sydd wedi / fydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau am dâl oherwydd yr argyfwng costau byw, o gymharu â 19% o ddynion.
  • Yn gyffredinol, mae merched yn fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw na dynion – 46% o gymharu â 52%.

Gydol Oes (Galw):

  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o fod wedi cytuno bod cyfleusterau digonol yn eu hardal leol – 53% o gymharu â 51%.
  • Mae 74% o’r merched yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, mae hyn o gymharu â 72% o ddynion.
  • Mae’r ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o deimlo bod ymarfer corff rheolaidd yn bwysig iddynt na’r ymatebwyr benywaidd – 71% o gymharu â 65%.
  • Roedd yr ymatebwyr gwrywaidd a benywaidd yn gwerthfawrogi’r rôl sydd gan weithgarwch corfforol i’w chwarae o ran rheoli eu hiechyd meddyliol a chorfforol, gyda’r dynion ychydig yn fwy tebygol o ddweud hyn.
    • Rheoli iechyd corfforol – 58% o gymharu â 53%
    • Rheoli iechyd meddyliol – 58% o gymharu â 57%
  • Cerdded oedd y gweithgaredd y mae gan yr ymatebwyr gwrywaidd a benywaidd y dyhead mwyaf i'w wneud yn y dyfodol, gydag ychydig llai na 2 o bob 3 menyw â dyhead i gerdded mwy – 53% o gymharu â 65%.

Mwynhad (Hyder a Mwynhad):

  • Mae dynion yn fwy tebygol o deimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, ond ers mis Ionawr 2023 mae nifer y merched sy'n teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt wedi cynyddu 5 pwynt canran – 61% o gymharu â 56%.
  • Nid yw 1 o bob 3 menyw (33%) yn hoffi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain, o gymharu ag 1 o bob 4 dyn (25%).
  • Mae gan 67% o ddynion yr hyder i fod yn gorfforol actif, o gymharu â 50% o ferched.
  • Mae 53% o ferched yn hyderus yn defnyddio pwll nofio, sy’n gynnydd o 5 pwynt canran o fis Ebrill 2023, o gymharu â 51% o ddynion, sy’n ostyngiad o 6 pwynt canran ers mis Ionawr 2023.
  • Y prif beth sy'n gwneud gweithgarwch corfforol yn fwy pleserus i ddynion a merched yw cael rhywun / pobl i fynd gyda nhw – 10% o gymharu ag 11%.