Skip to main content

Statws Economaidd-Gymdeithasol

Mae Chwaraeon Cymru wrthi’n archwilio’r defnydd o MALlC fel mesur o amddifadedd o fewn Traciwr Gweithgarwch Cymru. O’r herwydd, yn y ffeithlen hon, bydd amddifadedd yn cael ei adrodd gan ddefnyddio’r mesur hwn, ac ar adegau gwneir cymariaethau â’r mesur ‘Prif Enillydd Incwm’. Os oes arnoch angen data wedi'i adrodd gan y 'Prif Enillydd Incwm' (fel mewn arolygon blaenorol) cysylltwch â thîm Dirnadaeth Chwaraeon Cymru.

Penawdau amddifadedd economaidd-gymdeithasol allweddol:

  • Mae’r ymatebwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol o gerdded i hamddena gyda rhywun arall nag unrhyw un o'r grwpiau amddifadedd eraill – 48% [30% mwyaf difreintiedig], o gymharu â 47% [amddifadedd canolig] o gymharu â 57% [30% lleiaf difreintiedig].
  • Mae'r rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol o deimlo bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy o gymharu â'r rhai o'r 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig - 37% o gymharu â 42% o gymharu â 44%
  • Mae’r cynnydd mewn costau byw wedi cael yr effaith negyddol fwyaf (fel yr adroddwyd gan yr ymatebwyr) ar y rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac wedi cael yr effaith leiaf negyddol ar y rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig - 42% o gymharu â 33% o gymharu â 37%.
  • Mae tua 2 o bob 3 (67%) o oedolion yng Nghymru o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn gweld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, fodd bynnag mae’r gyfran yn is o fewn ardaloedd o amddifadedd canolig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad i 54% o’r ymatebwyr.
  • Nid yw newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer mwy na hanner y rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, o gymharu â llai na hanner y rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig - 45% o gymharu â 58% o gymharu â 54%.
  • Mae 31% o'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, tra bo 18% o'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn poeni am adael eu cartref a hwy yw'r lleiaf tebygol o boeni am hynny.
  • Ymatebwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yw'r rhai mwyaf tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif, tra bo’r ymatebwyr o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn lleiaf tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif – 53% o gymharu â 59% o gymharu â 63%

Cenedl Actif (Math o Gyfranogiad a Gweithgarwch):

  • Y rhai o godau post y 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig (ardaloedd mwyaf difreintiedig) ac amddifadedd canolig (ardaloedd o amddifadedd canolig) oedd y grwpiau mwyaf tebygol o beidio â bod wedi gwneud 30+ munud o ymarfer corff ar unrhyw ddiwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf:
    • Ardaloedd mwyaf difreintiedig – 20%
    • Ardaloedd o amddifadedd canolig – 20%
    • Ardaloedd lleiaf difreintiedig – 15%
  • Y 30% lleiaf difreintiedig (ardaloedd lleiaf difreintiedig) yw’r lleiaf tebygol o’r grwpiau o fod wedi gwneud 30+ munud o ymarfer i gynyddu’r gyfradd anadlu ar 2 i 4 o ddyddiau yn ystod yr wythnos ddiwethaf:
    • Ardaloedd mwyaf difreintiedig – 49%
    • Ardaloedd o amddifadedd canolig – 49%
    • Ardaloedd lleiaf difreintiedig – 46%
  • Er, y rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig sydd fwyaf tebygol o wneud 30+ munud o ymarfer corff ar 5+ diwrnod yr wythnos – 23% [30% mwyaf difreintiedig] o gymharu â 21% [amddifadedd canolig] o gymharu â 29% [30% lleiaf difreintiedig].
  • Cerdded i hamddena yw'r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith yr holl grwpiau amddifadedd a rhwng y tri grŵp nid oes llawer o wahaniaeth mewn cyfranogiad, tra bo’r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o gerdded i deithio:
    • Cerdded i hamddena - 60% [30% mwyaf difreintiedig] o gymharu â 63% [amddifadedd canolig] o gymharu â 61% [30% lleiaf difreintiedig]
    • Cerdded i deithio – 30% o gymharu â 21% o gymharu â 27%
  • Mae cerdded yn fwy poblogaidd ymhlith y rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd o amddifadedd canolig na’r rhai sydd yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, er bod gweithgarwch yn y cartref yn fwy poblogaidd ymhlith y rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig:
    • Cerdded - 71% o gymharu â 71% o gymharu â 68%.
    • Gweithgarwch yn y cartref – 18% o gymharu â 16% o gymharu â 22%.
  • Mae’r ymatebwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol o gerdded i hamddena gyda rhywun arall nag unrhyw un o'r grwpiau amddifadedd eraill – 48% o gymharu â 47% o gymharu â 57%.
  • Dywedodd 29% o'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig y byddent yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, o gymharu - 26% o'r rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig a 24% o'r rhai o’r ardaloedd o amddifadedd canolig sy’n debygol o wirfoddoli er mwyn cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Pawb (Cynhwysiant):

  • Mae 74% o'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn credu eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif tra bo 73% o'r rhai lleiaf difreintiedig yn credu eu bod yn cael cyfle o’r fath a 71% o'r rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig. Er, mae'n bwysig nodi bod anghysondebau mawr wrth archwilio graddau cymdeithasol, sef 77% [ABC1] o gymharu â 69% [C2DE].
  • Mae’r rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol o deimlo bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy o gymharu â’r rhai o’r 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig:
    • Ardaloedd mwyaf difreintiedig – 37%
    • Ardaloedd o amddifadedd canolig – 42%
    • Ardaloedd lleiaf difreintiedig – 44%
  • Mae’r cynnydd mewn costau byw wedi cael yr effaith negyddol fwyaf (fel yr adroddwyd gan yr ymatebwyr) ar y rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac yn cael yr effaith leiaf negyddol ar y rhai o’r ardaloedd o amddifadedd canolig - 42% o gymharu â 33% o gymharu â 37%.
  • Mae’r newidiadau mewn costau byw wedi cael yr effaith leiaf ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer y rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig a'r effaith fwyaf ar y rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig - 49% o gymharu â 40 o gymharu â 47%. Er, o gymharu â gradd gymdeithasol, effeithiwyd ar 55% o gyfranogiad ABC1, o gymharu â 44% o C2DE, gan adael bwlch o 11 pwynt canran.
  • Nid yw newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer mwy na hanner y rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, o gymharu â llai na hanner y rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig
    • 30% mwyaf difreintiedig – 45%
    • Amddifadedd canolig – 58%
    • 30% lleiaf difreintiedig – 54%

Gydol Oes (Galw):

  • Mae 60% o’r ymatebwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, hyn o gymharu â 55% o'r rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig a 54% o'r rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig.
  • Cymerodd mwy na hanner y rhai o bob grŵp ran mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd corfforol. Er mai’r rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd o amddifadedd canolig sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl:
    • Ardaloedd mwyaf difreintiedig – 54%
    • Ardaloedd o amddifadedd canolig – 59%
    • Ardaloedd lleiaf difreintiedig – 59%
  • Y rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd o amddifadedd canolig sydd fwyaf tebygol o fod â'r gallu i fod yn gorfforol actif – 73% o gymharu â 72% o gymharu â 69%.
  • Mae 58% o’r bobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn cytuno eu bod yn gallu cael mynediad i’r cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol sy’n apelio atynt, o gymharu â 56% o’r rhai o ardaloedd o amddifadedd canolig a 54% o’r rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig .

Mwynhad (Hyder a Mwynhad):

  • Mae tua 2 o bob 3 (67%) oedolyn yng Nghymru o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn gweld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, fodd bynnag mae’r gyfran yn is o fewn ardaloedd o amddifadedd canolig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad i 54% o’r ymatebwyr.
  • Ymatebwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig sydd fwyaf tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif, tra bo’r ymatebwyr o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn lleiaf tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif:
    • Ardaloedd mwyaf difreintiedig – 53%
    • Ardaloedd o amddifadedd canolig – 59%
    • Ardaloedd lleiaf difreintiedig – 63%
  • Mae ychydig o dan 1 o bob 3 (32%) o’r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cytuno nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain, tra bo tua 1 o bob 4 (25%) o’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn cytuno, ac ychydig dros 1 o bob 4 (28%) o'r rhai mewn ardaloedd o amddifadedd canolig yn cytuno.
  • Mae bron i 3 o bob 4 o’r rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn teimlo ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, sef y gyfran uchaf o’r holl grwpiau amddifadedd:
    • Ardaloedd mwyaf difreintiedig – 65%
    • Ardaloedd o amddifadedd canolig – 66%
    • Ardaloedd lleiaf difreintiedig – 74%
  • Mae 31% o'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, tra bo 18% o'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn poeni am adael eu cartref a hwy yw'r lleiaf tebygol o boeni am hynny.
  • Mae’r cyfraddau hyder ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd yn cyd-fynd ymhlith yr holl grwpiau amddifadedd – 38% o gymharu â 37% o gymharu â 40%. Er, mae'n bwysig nodi, wrth gymharu hyn yn ôl gradd gymdeithasol, bod bwlch o 17 pwynt canran rhwng ABC1 (50%) a C2DE (33%).