Skip to main content
  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Deall cymhellion ac anghenion pobl ifanc yng nghymru

Deall cymhellion ac anghenion pobl ifanc yng nghymru

Datblygiad Ymchwilwyr Cymheiriaid yng Ngwent

Er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o gymhellion ac anghenion pobl ifanc yng Nghymru yn y byd Ôl-Bandemig, comisiynwyd StreetGames gan Chwaraeon Cymru ym mis Chwefror 2022 i gynnal prosiect ymchwil dau gam i sicrhau gwell dealltwriaeth o ymddygiad, safbwyntiau a chymhellion pobl ifanc mewn perthynas â chwaraeon.

 

Roedd yr adolygiad yn ceisio sicrhau atebion penodol i'r cwestiynau canlynol:

  • Ydi’r ddarpariaeth chwaraeon wedi newid?
  • Oes angen symud i ddarpariaeth iechyd a lles / anhraddodiadol?
  • Beth mae pobl ifanc ei eisiau a sut rydyn ni'n cael yr wybodaeth honno?
  • Pam nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael ar eu cyfer?

Roedd cam un yn cynnwys adolygiad desg a cham dau oedd datblygu ymchwilwyr cymheiriaid rhanbarthol ledled Gwent.

Crynodeb

Mae gwybodaeth a rannwyd o'r camau Adolygiad Desg ac Ymchwil Cymheiriaid wedi rhoi gwybodaeth bwysig am yr hyn y mae pobl ifanc ei eisiau ar hyn o bryd o'r ddarpariaeth chwaraeon.

Fodd bynnag, drwy ddau gam yr ymchwil, roedd yn amlwg bod gan wahanol bobl ifanc wahanol rwystrau, sbardunau a chymhellion ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon. I lawer o bobl ifanc, mae chwaraeon yn weithgaredd apelgar ynddo’i hun ac yn ‘fachyn’ i ymgysylltu, ac i eraill manteision ehangach chwaraeon sy’n ysgogi cyfranogiad – h.y. y cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd, cymdeithasu ag eraill, datblygu’n bersonol ac ar gyfer manteision iechyd a lles ehangach.

Gan adeiladu ar hyn, roedd galw am weithgareddau chwaraeon traddodiadol ac anhraddodiadol, gyda dyhead clir i gael mynediad at gyfleoedd ar gyfer amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gweithgareddau yn lleol.

O ystyried y gwahanol ddyheadau a’r cymhellion hyn, mae’n hanfodol bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau ymlaen llaw, a darparu cyfleoedd i bobl ifanc rannu eu barn a llunio darpariaeth, oherwydd efallai nad yw’r hyn sy’n ‘iawn’ ar gyfer un grŵp neu ardal yn ‘iawn’ ar gyfer un arall.