Skip to main content

Cam Un – Adolygiad Desg

Amlygodd yr adolygiad desg fod llawer o wahanol resymau pam nad yw rhai pobl ifanc yn ymgysylltu â’r ddarpariaeth chwaraeon bresennol; yn rhychwantu: ffactorau unigol, agweddau sy'n ymwneud â'r amgylchedd cymdeithasol a ffisegol maent yn byw ynddo, yn ogystal â ffactorau sy'n ymwneud â'r ffordd mae sefydliadau a mudiadau’n darparu eu cynigion. Yn benodol, mae’r ymchwil wedi amlygu bod y Pandemig, ar gyfer rhai pobl ifanc, wedi gwneud y canlynol:

  • Effeithio’n negyddol ar eu hiechyd a'u lles meddyliol; gadael rhai gyda lefelau isel o hyder a ffitrwydd; sy'n golygu eu bod yn nerfus am ddychwelyd i sesiynau chwaraeon neu ymuno â hwy
  • Effeithio ar gyllideb y teulu a gyda biliau'r cartref yn debygol o godi eto yn ystod 2022, mae costau cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhwystr gwirioneddol.

Mae’r rhwystrau eraill y tynnwyd sylw atynt yn cynnwys:

  • Anawsterau mynediad – oherwydd cau cyfleusterau, gostyngiad mewn gweithgareddau allgyrsiol, anawsterau cludiant neu ddiffyg cit / offer.
  • Pryderon ynghylch y ffurfioldeb a'r ymrwymiad sydd eu hangen i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau chwaraeon
  • Roedd pryderon yn ymwneud â diffyg mannau diogel i gymryd rhan neu deimlo'n anniogel wrth fynd i ac o weithgareddau
  • Ymrwymiadau neu ddiddordebau eraill sy'n cystadlu (gwaith / astudio).

O ran a yw’r ddarpariaeth chwaraeon wedi newid ac a oes angen symud tuag at ddarpariaeth sy’n canolbwyntio mwy ar iechyd a lles / anhraddodiadol, mae’r ymchwil wedi amlygu, i lawer o bobl ifanc, fod chwaraeon yn weithgaredd apelgar ac yn ‘fachyn’ i ymgysylltu. Fodd bynnag, amlygodd yr ymchwil hefyd fod pobl ifanc yn amlwg yn gwerthfawrogi manteision ehangach chwaraeon – ac mai manteision ehangach cymryd rhan mewn chwaraeon / ymarfer corff sy’n fwy tebygol o apelio ac ysgogi presenoldeb.

I grynhoi, amlygodd yr adolygiad desg fod angen i’r math o ddarpariaeth chwaraeon y mae pobl ifanc ei heisiau ymgorffori cyfleoedd ar gyfer y canlynol:

  • Pobl ifanc i gymdeithasu, meithrin cyfeillgarwch a chysylltu â phobl ifanc eraill
  • Pobl ifanc i roi cynnig ar weithgareddau newydd / amrywiaeth o weithgareddau – ar gyfer ‘dihangfa’, i gael hwyl ac i wneud y gorau o ‘ryddid’
  • Gwella iechyd corfforol a lles meddyliol
  • Pobl ifanc i ddatblygu'n bersonol, adeiladu ymdeimlad o gyflawniad a her - naill ai drwy gymryd rhan mewn chwaraeon, cael cyfleoedd i leisio'u barn neu drwy gystadleuaeth, cyfleoedd gwirfoddoli neu arwain ac ati. Yn ogystal â sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth yn mynd i'r afael â'r rhwystrau strwythurol a nodwyd, fel costau, mynediad a diogelwch.