Skip to main content

Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned - Cam 1

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned
  4. Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned - Cam 1

Wedi’i hwyluso gan Proper Active a SLC, cynhaliwyd cam cyntaf y peilot yn gynnar yn 2022 ac roedd yn cynnwys sesiwn syniadau gydag arweinwyr awdurdodau lleol (ALl) i archwilio eu cwestiwn yn fanwl, diffinio’r hyn roeddent eisiau ei wybod fwyaf a deall sut gellid defnyddio’r canfyddiadau. Roedd y sesiwn yma’n cynnwys ymarfer mapio system cyfnod cynnar i ddechrau creu darlun o fydoedd pobl ifanc a’r hyn sy’n dylanwadu ar eu hymddygiad.

Wedyn cynhaliwyd adolygiad desg i edrych ar roi’r gorau i chwaraeon yn yr arddegau a'r cwestiynau ehangach a godwyd gan Arweinwyr Gweithgarwch Corfforol ALlau Gorllewin Cymru yn y sesiwn syniadau. Cynhyrchwyd pecyn gwybodaeth a oedd yn sail ar gyfer y Cam 2 canlynol.

Cam 1 – Canfyddiadau Allweddol – Ymchwil desg

  • Mae pobl ifanc yn byw bywydau cyfoethog a chymhleth ac yn profi mwy o ddylanwadau a phwysau nag unrhyw genhedlaeth o'r blaen.
  • Pobl ifanc yn eu harddegau heddiw yw’r rhai cyntaf i gael eu geni i fyd cwbl ddigidol ac mae’r disgwyliadau arnynt o ran bod yn rhan o’r byd digidol yn uchel. Mae'r rhyngrwyd yn rhoi mynediad diddiwedd i wybodaeth, ond i ddylanwadau a allai fod yn niweidiol hefyd. Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn hafan ac maent wedi bod yn achubiaeth i lawer o bobl ifanc yn ystod y pandemig; fodd bynnag, gallant hefyd greu disgwyliadau afrealistig o ran sut dylai pobl ifanc edrych a'r hyn y dylent fod yn ei gyflawni.
  • Fel gyda chenedlaethau blaenorol, mae pwysau i gael y brandiau cywir a bod yn rhan o'r grwpiau cywir; fodd bynnag, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn creu diwylliant o fod arnyn nhw bob amser ac angen cael eu gweld, a all achosi teimladau o orbryder, iselder ac unigedd i lawer o bobl ifanc yn eu harddegau. Mae'r angen am ffitio i mewn ac ennill cymeradwyaeth cyfoedion yn bwerus. Mae dylanwad rhieni yn chwarae rôl o hyd hefyd, yn enwedig mamau, ond efallai nad yw bob amser yn brif sbardun i benderfyniadau.
  • Yn y cyd-destun hwn, nid yw gweithgarwch corfforol bob amser yn brif flaenoriaeth, ac mae’r ffordd y mae cyfoedion yn gweld chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn bwysig wrth ddylanwadu ar ddyhead pobl ifanc yn eu harddegau i gymryd rhan.
  • Mae'r adolygiad hwn yn awgrymu nad yw'r broblem o bobl ifanc yn eu harddegau’n rhoi’r gorau iddi’n gyfyngedig i oedran penodol ond yn hytrach yn broses raddol sy'n digwydd dros nifer o flynyddoedd. Mae’n cael ei siapio gan amgylchiadau pob person ifanc, eu dylanwadwyr, a’u profiadau personol o fod yn actif. Wedi dweud hynny, mae pwyntiau pontio (o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, ac o'r ysgol i addysg bellach a hyfforddiant, gwaith, neu ddiweithdra) yn ymddangos fel trobwyntiau allweddol.
  • Mae hefyd yn arbennig o nodedig bod y gostyngiadau mewn cyfranogiad yn llawer mwy mewn lleoliadau allgyrsiol, gyda nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yn aros yn gyson ar ~60% rhwng 8 a 15 oed.
  • Mae hyn yn cyd-fynd â gostyngiad sylweddol mewn mwynhad o chwaraeon, mewn sesiynau AG ac allgyrsiol; fodd bynnag, mae mwynhad mewn lleoliadau cymunedol yn dirywio'n llawer arafach. Mae ymchwil ehangach yn awgrymu y gall profiadau ysgol o chwaraeon gael effaith barhaol ar berthynas hirdymor pobl â bod yn actif, felly mae hyn yn werth ei ystyried.
  • Serch hynny, mae 12 i 15 oed yn cael ei nodi fel cyfnod arbennig o hanfodol yn natblygiad pobl ifanc, wrth iddynt ddechrau symud o fod yn blentyn i fod yn oedolyn a dechrau bod yn fwy annibynnol. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig o hyd deall beth mae’r grŵp oedran hwn yn chwilio amdano er mwyn darparu profiadau cadarnhaol ym mhob lleoliad.
  • Mae astudiaethau amrywiol yn awgrymu bod gwahaniaeth rhwng y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer gweithgarwch corfforol a'r hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud maent ei eisiau. Mae’r cyfleoedd presennol yn cael eu gweld yn aml yn rhy draddodiadol, yn rhy strwythuredig, ac nid ydynt yn bleserus.
  • Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn ein hystod oedran targed yn cydnabod manteision iechyd bod yn actif, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig, nid yw hyn yn unig yn ddigon i sbarduno ymddygiad. Yn hytrach, mae pobl ifanc yn dweud eu bod eisiau sesiynau cost isel, lleol, cymdeithasol, anffurfiol a phleserus ac maen nhw eisiau teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt am yr hyn y byddant yn ei wneud.
  • Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc wedi nodi bod cost yn bwysig, mae cost yn fwyaf arwyddocaol i'r rhai o'r teuluoedd incwm isaf, a all deimlo bod gwariant arall yn cael blaenoriaeth dros dalu am chwaraeon. Mae egwyddorion cyffredinoliaeth gymesur yn werth eu hystyried yma, fel yr amlygwyd yn Adroddiadau Marmot (2010, 2021).
  • Mae galw cudd sylweddol ymhlith pobl ifanc am wneud mwy o weithgarwch corfforol; fodd bynnag, un rhwystr a nodir yn aml ar gyfer peidio â gwneud mwy ymhlith y grŵp oedran hwn yw diffyg amser. Wrth i bobl ifanc gyrraedd llencyndod cynnar mae pwysau o bob math, fel gwaith ysgol, yn dechrau chwarae rhan. Pan fydd hyn yn digwydd, i'r rhai sy'n gallu fforddio cymryd rhan, mae'r cwestiwn yn ymwneud â gwerth ymddangosiadol - a ydynt yn teimlo bod y gweithgaredd yn werth yr amser a'r pris wrth gymharu â phethau eraill i’w gwneud.
  • Yn ogystal â rhwystrau ymarferol, mae amrywiaeth gymhleth o rwystrau cymdeithasol ac emosiynol ar waith sy'n pennu a yw pobl ifanc yn eu harddegau yn cymryd rhan. Mae'r rhain yn arbennig o amlwg ar gyfer merched, pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Ni fydd mwy o ddarpariaeth a’i chynnig am ddim neu’n rhad yn ddigon i fynd i’r afael â’r rhain, oherwydd mae pobl ifanc yn eu harddegau eisiau teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u hysgogi. Mae hefyd yn hanfodol, yn enwedig i ferched, bod pobl ifanc yn eu harddegau yn gallu cymryd rhan gyda'u ffrindiau.
  • Hyd yn oed yn yr hinsawdd yma, mae gan gystadleuaeth ran bwysig i'w chwarae. Gall fod yn adnodd ymgysylltu effeithiol i lawer o bobl ifanc yn eu harddegau, yn wir i rai mae’n hanfodol; ond mae'n rhaid ei defnyddio'n briodol er mwyn i'r gynulleidfa sicrhau nad yw'n dod yn gêm swm sero, lle mae pwyslais ar ennill yn gwneud i'r rhai nad ydynt yn ennill deimlo'n annigonol.
  • Yng ngoleuni hyn i gyd, mae gwrando ar lais pobl ifanc a defnyddio cyd-greu i ddylunio gweithgareddau ac ymyriadau yn hanfodol; fodd bynnag, nid yw hyn yn ymddangos fel norm o hyd, gyda phobl ifanc yn adrodd yn aml nad ydynt yn teimlo bod unrhyw un yn gwrando arnynt.
  • Mae llawer o'r rhwystrau a brofir gan bobl ifanc y tu hwnt i reolaeth y rhai sy'n ceisio eu cynnwys mewn chwaraeon a gweithgareddau, ac mae rhywfaint o roi'r gorau iddi yn anochel, yn enwedig ymhlith y rhai o gymunedau sydd ddim yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol sy'n wynebu heriau bywyd ychwanegol. Mae hyn yn golygu bod y profiadau a gaiff pobl ifanc pan maent yn cymryd rhan yn bwysicach fyth. Bydd profiadau cadarnhaol yn golygu, os byddant yn camu i ffwrdd, pan fyddant yn cyrraedd sefyllfa wahanol mewn bywyd, gallant deimlo'n gyfforddus, yn abl ac yn hyderus i ddod yn ôl.
  • O ran beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer pontio o weithgarwch yn yr ysgol i’r gymuned, mae'r term pontio yn awgrymu bod y ddau bob amser yn gysylltiedig. Gall hyn fod yn wir, er enghraifft, yn Rhaglenni Pobl Ifanc Egnïol (PIE) Chwaraeon Cymru lle mae cyfleoedd yn cael eu sefydlu mewn partneriaeth ag ysgolion i ganiatáu’n fwriadol i bobl ifanc brofi chwaraeon cymunedol drwy gysylltiad ag amgylchedd dibynadwy eu hysgol. Fodd bynnag, mae digon i awgrymu bod rhai pobl ifanc yn cymryd rhan y tu allan i'r ysgol ar sail dylanwadau eraill, er enghraifft, gweithgareddau teuluol, cefnogaeth gan rieni neu gyfoedion; neu drwy atgyfeiriad gan grwpiau a gwasanaethau cymunedol eraill.
  • Mae hyn yn awgrymu y gallai meithrin cysylltiadau cadarnach rhwng ysgolion a chwaraeon cymunedol fod yn un llwybr i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol, ond mae llawer o rai eraill hefyd. Er enghraifft, gweithio gyda rhieni a theuluoedd, cyd-greu cyfleoedd deniadol gyda phobl ifanc nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd, neu weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol eraill i gyflwyno gweithgarwch corfforol fel rhan o raglen ehangach o gefnogaeth a chyfleoedd.
  • Gallai deall a mynd i’r afael â pham mae pobl ifanc yn rhoi’r gorau i hoffi chwaraeon ysgol, a gwneud defnydd o’r agenda llesiant (e.e. gweithgarwch corfforol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc) gyflwyno cyfleoedd gwerthfawr hefyd.