Skip to main content

Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned - Cam 2

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned
  4. Pobl Ifanc sy'n Pontio o Amgylcheddau Ysgol i Gymuned - Cam 2

O ganlyniad i ganfyddiadau'r adolygiad desg yng ngham 1, (bod pobl ifanc eisiau cyfleoedd cost isel, lleol, cymdeithasol, anffurfiol a phleserus), roedd ALlau yn awyddus i edrych ymhellach ar hyn drwy lygaid pobl ifanc, drwy waith lleol, gan ymgorffori elfennau o ymchwil sylfaenol, ymgysylltu â phobl ifanc a chyd-greu.

Yn ystod haf 2022, paratôdd Proper Active a SLC gynllun, wedi’i arwain gan fewnbwn gan arweinwyr ALlau, yn amlinellu proses o gefnogaeth bellach a ddatblygwyd gan y grŵp. Roedd y broses yn cynnwys gweithio gyda grŵp wedi'i dargedu o bobl ifanc i ddeall sut beth oedd profiad gweithgarwch corfforol lleol difyr, anffurfiol a phleserus i bobl ifanc.

Y gynulleidfa ar gyfer Cam 2 oedd pobl ifanc yn byw mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, 13 / 14 oed (Blwyddyn 9) o unrhyw ryw, ac yn gyffredinol y rhai a oedd yn cymryd llai o ran mewn chwaraeon ac AG na’u cyfoedion. Ymgysylltodd y cynllun peilot â phobl ifanc mewn ysgolion i ddechrau, er mwyn cyrraedd pobl ifanc nad oeddent eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn lleoliad cymunedol. Byddai'r bobl ifanc yn cael eu cefnogi drwy broses aml-gam i gyd-greu sesiynau i'w cyflwyno yn eu hardal.

Bu timau datblygu chwaraeon awdurdodau lleol yn cysylltu ag ysgolion i gyfleu pwrpas y peilot cyd-greu. Dewiswyd grwpiau o bobl ifanc a oedd yn gyffredinol yn ymwneud llai â chwaraeon ac AG na'u cyfoedion. Merched yn bennaf oedd y cyfranogwyr, gan fod pob ALl yn awyddus i ganolbwyntio’r peilot ar y rhwystrau ychwanegol mae merched yn y grŵp oedran hwn yn eu hwynebu.

Roedd lefel yr amddifadedd ar draws y pedair ysgol a ddewiswyd ar gyfer y peilot yn amrywio o lai nag un rhan o bump o’r bobl ifanc yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYADd) i dros hanner y bobl ifanc. Mae ymyriadau fel y cynllun peilot hwn yn bwysig gan fod tystiolaeth i ddangos y canlynol:  

  • Mae’r cyfranogiad wedi gostwng ar ôl COVID-19 ymhlith y boblogaeth gyfan o ddisgyblion. Mae canran y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos wedi gostwng o 48% yn 2018 i 39% yn 2022. Y nifer a ddywedodd nad oeddent yn cymryd rhan yn aml oedd 36%, i fyny o 28% yn 2018.
  • Mae gwahaniaeth o 15 pwynt canran yn bodoli rhwng y rhai lleiaf difreintiedig (ysgolion PYADd1), lle mae 47% yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, a'r mwyaf difreintiedig (PYADd4), lle mae'r ffigwr yn 32%. Mae’r gwahaniaeth hwn wedi cynyddu ers 2018 lle gwelwyd gwahaniaeth o 13 pwynt canran rhwng y lleiaf difreintiedig a’r mwyaf difreintiedig. Mae’r gwahaniaeth rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig yn amlycach fyth wrth ystyried cyfranogiad mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf, gyda gwahaniaeth o 20 pwynt canran i’w weld rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig.

Cynlluniwyd y broses fel siwrnai pum cam: datblygu perthnasoedd, ymgynghori a thrafod, cyn cyrraedd at ddarpariaeth o weithgarwch corfforol wedi’i chyd-greu i’w chyflwyno yng nghymunedau’r bobl ifanc.

Camau’r Prosiect

CamEnwCrynodeb
1CyfarfodCyfarfod cychwynnol rhwng y bobl ifanc a thîm y prosiect i gwrdd â'i gilydd, egluro'r prosiect, a gofyn i'r bobl ifanc a fyddent yn hoffi cymryd rhan.
2ArchwilioGweithdy ymchwil i ddod i adnabod y bobl ifanc yn well, dysgu am eu bywydau, a’u canfyddiadau a’u profiadau o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
3MeddwlGweminar ar-lein ryngweithiol gyda’r bobl ifanc i drafod rhai egwyddorion ymddygiadol craidd sy’n cefnogi ymgysylltu rheolaidd â gweithgareddau.
4CreuGweithdy dylunio lle bydd y bobl ifanc yn cael eu cefnogi i greu eu gweithgaredd delfrydol eu hunain.
5Mewn Bywyd RealCyflwyno’r gweithgaredd yn y gymuned gyda’r bobl ifanc yn gweithredu fel y grŵp llywio i sicrhau ei fod yn adlewyrchu eu gweledigaeth.

Cymerodd Proper Active rôl arweiniol wrth ddylunio’r cynnwys ar gyfer y gweithdai a'r sesiynau gyda phobl ifanc a darparodd yr hwyluso cychwynnol a chyflwyno'r sesiynau. Wrth i'r broses fynd rhagddi, y bwriad oedd i staff awdurdodau lleol ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am arwain sesiynau a datblygu'r prosiect, gan ddefnyddio'r wybodaeth leol a gafwyd gan y bobl ifanc.

Arweiniodd trafodaeth bellach ag Arweinwyr ALlau at nodi cyfyngiadau allweddol ar gyfer Cam 2. Y rhain oedd:

  1. Dylai cyd-greu ochr yn ochr â phobl ifanc fod wrth galon unrhyw waith pellach.
  2. Byddem yn nodi pobl ifanc a allai weithio gyda ni drwy broses, o'r ymchwil a'r dylunio cychwynnol, hyd at greu a darparu cyfleoedd.
  3. Roeddem eisiau gweithio gyda phobl ifanc a gafodd brofiadau negyddol o fod yn actif, a oedd eisoes yn llai tebygol o gymryd rhan y tu allan i AG ac a oedd yn wynebu'r risg fwyaf o roi'r gorau iddi.
  4. Byddem yn gweithio gydag ysgolion i'n helpu i gael cyfranogwyr addas.
  5. Byddem yn canolbwyntio ar fyfyrwyr B9 a B10 (13 i 15) - oedran lle'r oedd dadrithiad wedi dechrau ond heb fod mor ddwfn fel nad oedd modd ei wyrdroi.
  6. Lle bo modd, byddem yn gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, sydd fel rheol yn fwy tebygol o ymddieithrio rhag bod yn actif.  

Trafodwyd y byddai angen i'r dull o weithredu deimlo'n wahanol i brosiectau neu weithgareddau eraill y gallai'r bobl ifanc fod wedi cymryd rhan ynddynt a'i bod yn allweddol iddynt deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ym mhob cam. Hefyd byddai angen i ni fod yn greadigol yn y cwestiynau a ofynnwyd gennym a’r ffordd y byddem yn cefnogi ein cynulleidfa i osgoi ailddarganfod yr un rhwystrau cyffredinol a welwyd dro ar ôl tro mewn ymchwil i’r pwnc hwn (e.e., cost, diffyg trafnidiaeth a diffyg cyfleoedd) .

Penderfynwyd dilyn proses cyd-greu aml-gam, gan weithio gyda grwpiau o bobl ifanc wedi’u targedu i edrych ar eu perthynas â chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fanwl. Roedd yn bwysig mai proses oedd hon, yn hytrach na dim ond gofyn i’r bobl ifanc pa weithgaredd fyddai’n eu gwneud yn fwy actif, er mwyn sicrhau ein bod ni a’r bobl ifanc yn gallu deall yn llawn gymhlethdod eu profiadau yn y gorffennol a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y dyfodol. 

Wrth i ni symud drwy ein bywydau, cawn ein dylanwadu gan bopeth rydym yn ei weld, ei glywed a’i brofi, ac mae llawer o’n teimladau a’n hymddygiad yn cael eu siapio gan brosesau isymwybodol sy’n dod â chyfuniad o’r dylanwadau hynny at ei gilydd. Roeddem eisiau mynd dan groen hyn, ac wedyn, pan fyddai’r bobl ifanc yn dod i ddylunio cyfleoedd iddynt eu hunain, byddai eu meddwl yn canolbwyntio ar yr hyn fyddai’n diwallu eu hanghenion emosiynol ac nid ceisio datrys heriau ymarferol yn unig.

Elfen arall sy'n parhau i fod yn hanfodol drwy gydol y gwaith yw meithrin gallu. Mae swyddogion yr ALl wedi ymwneud â phob agwedd ar y gwaith ac maent yn arwain y broses yn gynyddol. Y nod yw bod y dysgu wedi'i wreiddio'n lleol a bod modd adeiladu arno yn y dyfodol.

Canfyddiadau Allweddol Cam 2 – Cyd-greu

Er bod cyfeiriadau byr at y rhwystrau nodweddiadol, fel cost, sy’n cael eu nodi yn aml fel rhwystrau sy’n cadw pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, mae’r dull gweithredu wedi ein galluogi ni i gloddio’n llawer dyfnach a sicrhau dealltwriaeth lawer cyfoethocach o’r hyn sydd wrth galon penderfyniadau ynghylch bod yn actif ai peidio.

Un agwedd ar y canfyddiadau a oedd yn amlwg ar draws pob grŵp a phob tasg oedd y dyhead ymhlith y bobl ifanc i berthyn. Maen nhw’n chwilio am lefydd a chyfleoedd sy'n teimlo'n benodol ar eu cyfer nhw, lle gallant fod yn nhw eu hunain a threulio amser gyda'u ffrindiau.

Yr ail thema gysylltiedig a arsylwyd yn gyson drwy gydol y sesiynau oedd y dyhead am dawelwch ac ymlacio. Mae'r bobl ifanc yn ceisio noddfa rhag straen bob dydd wrth iddynt ymdopi â’u bywydau sy’n newid. Er bod hyn yn ymddangos yn syml ar yr wyneb, dylem fod yn ofalus rhag gorfodi gwerthoedd oedolion ar y bobl ifanc. Gall eu dehongliad hwy o beth yw tawelwch ac ymlacio fod yn wahanol iawn i’n dehongliad ni, er enghraifft, efallai y bydd angen ymgorffori eu dyhead cyfochrog am hwyl.

Mae’r broses hon wedi arwain at ddysgu llawer iawn, o ran deall profiadau’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y gorffennol a sut mae hyn wedi dylanwadu ar eu perthynas bresennol â chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hyn yn tynnu sylw at werth ymgysylltu parhaus â'r gynulleidfa a chynnwys cymunedau targed i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Bywydau Pobl Ifanc

Roedd gan ein pobl ifanc ni ystod eang o ddiddordebau a blaenoriaethau, fel y gallem ddisgwyl, gan gynnwys gwylio’r teledu / gwasanaethau ffrydio, ymlacio / cysgu ac amrywiaeth o weithgareddau hamdden. Roedd technoleg yn nodwedd, yn enwedig cyfryngau cymdeithasol, gyda chydnabyddiaeth gyffredinol i'r manteision a'r peryglon. Mae amser yn unig yn cael ei ystyried yn bwysig, fodd bynnag, mae'r mwyafrif yn blaenoriaethu eu ffrindiau, ac amser gyda ffrindiau, yn anad dim arall.

Mae ymdeimlad cryf ymhlith y bobl ifanc a gymerodd ran bod bywyd yn teimlo'n brysur iawn a’u bod o dan bwysau, a'u bod yn dyheu yn gyson am amser tawel a gofod hamddenol. Mae diffyg hoffter cyffredinol o’r ysgol ac mae’n cael ei ysytyried fel amgylchedd sy’n creu llawer o straen. I ferched, mae prif ffynhonnell y straen yn dod gan fechgyn, sy'n cael eu hystyried yn anaeddfed, yn feirniadol ac yn angharedig.

Canfyddiadau pobl ifanc am Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd actif, fodd bynnag, roedd hwn yn debygol o fod yn weithgaredd hamdden, fel cerdded, yn hytrach na gweithgaredd chwaraeon traddodiadol.

Pan ofynnwyd iddynt beth oedd yn cyfrif fel bod yn actif, rhoddodd y bobl ifanc farn eithaf cul, gan gyfeirio'n bennaf at chwaraeon ysgol traddodiadol neu weithgareddau ffitrwydd. Pur anaml y clywyd hwy’n sôn am y gweithgareddau corfforol roeddent yn cymryd rhan ynddynt eu hunain, er wrth gael eu hannog, roeddent yn gweld bod posib cynnwys y rhain.

Nid oedd y bobl ifanc yn gweld eu hunain yn ‘dda mewn chwaraeon’. Iddyn nhw, mae pobl sy’n dda mewn chwaraeon yn ‘denau’ ac yn ‘siapus’ ac yn fwy hyderus na nhw (mewn chwaraeon ac mewn bywyd). Roedd pwyslais cyson mai dim ond ar gyfer y rhai sy'n gwneud yn dda ynddo mae chwaraeon ac nad yw ar gyfer pobl fel nhw.

Roeddent yn gweld y pwrpas o fod yn actif yn swyddogaethol i raddau helaeth, ar gyfer iechyd, ffitrwydd a cholli pwysau. Wrth gael eu hannog, roeddent yn cydnabod rhai o'r manteision ehangach, gan gynnwys y cyfle cymdeithasol; fodd bynnag, ni wnaeth unrhyw un bron gyfeirio at fod yn actif er mwynhad yn unig. Roedd gan y rhan fwyaf deimladau cymysg o ran bod yn actif eu hunain.

Roedd llawer wedi cael profiadau gwael yn y gorffennol neu’n canolbwyntio ar yr ymdrech gorfforol, fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth hefyd o rai o’r teimladau cadarnhaol y gall bod yn actif eu creu. Er enghraifft, ‘hormonau hapus’ neu ymdeimlad o falchder. Soniodd pob un o’r bobl ifanc bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn well pan oeddent yn iau, pan oedd yn cael ei weld fel mwy o hwyl a gyda llai o bwysau.

Beth sy'n gwneud profiad yn un cadarnhaol i bobl ifanc?

Er mwyn deall yr hyn a allai wneud profiad chwaraeon yn un gwych i'r bobl ifanc hyn, roedd y dull o weithredu’n ceisio deall yr hyn sy'n cynrychioli profiad gwych iddynt yn fwy cyffredinol. Roedd ymdeimlad cryf bod y bobl ifanc yn teimlo bod diffyg gofod sydd wir ar eu cyfer nhw, eu ffrindiau a phobl eraill o'r un oedran. Mae hyn efallai, yn rhannol, oherwydd bod ein grŵp ni mewn cyfnod pontio; ddim yn blant mwyach, pan oeddent yn hapus mewn caeau chwarae, neu’n cael eu cludo i lefydd gan eu rhieni, ond ddim eto’n oedolion cwbl annibynnol, gyda’r ystod o gyfleoedd mae hynny’n ei gyflwyno.

O ran yr hyn roeddent ei eisiau o brofiad delfrydol, roedd gwahaniaethau unigol wrth gwrs, fodd bynnag, daeth nifer o themâu cyson i'r amlwg. Mae'r rhain wedi'u nodi yn y ffigur isod.

Nodweddion amgylchedd gwych

Mannau tawel, ymlaciol

  • Seibiant o fwrlwm bywyd        
  • Cyfforddus, tawel, clyd, eang, atyniadol  

Rhywle i fod gyda ffrindiau

  • Cyfle i dreulio amser gyda phobl rydych chi'n teimlo'n gyfforddus gyda nhw
  • Man preifat ar gyfer eich grŵp    

Rhywbeth i’w wneud

  • Gweithgareddau hwyliog y gallwch eu gwneud gyda'ch gilydd.
  • Naws positif, teimlo'n dda wrth gymryd rhan, byth yn ddiflas.

Croesawgar

  • Mae'r bobl yno’n gyfeillgar, yn gefnogol ac yn garedig.
  • Rydych chi'n teimlo y gallwch chi fod yn chi'ch hun.

Saff a Diogel

  • Teimlo'n gorfforol ddiogel heb unrhyw ymdeimlad o berygl.
  • Teimlo'n saff yn emosiynol gan nad oes neb yn ceisio eich dal chi allan na gwneud i chi deimlo'n ddrwg.

Manteision Ychwanegol

  • Manteision bychain ychwanegol i'w wneud yn arbennig - bwyd, diodydd, cerddoriaeth, pwyntiau gwefru
  • Mae popeth wedi'i drefnu  

Cyngor Doeth ar gyfer Amgylchedd Gwych

  • Arweinydd y sesiwn – mae’r person cywir yn hollbwysig ac mae angen cytuno ar rôl y person hwn ymlaen llaw.
  • Pwrpas, naws ac awyrgylch y sesiwn – gan gynnwys iaith i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
  • Creu ymdeimlad o dawelwch, ond gydag awyrgylch o hwyl lle mae pawb yn cael eu cynnwys.
  • Ffocws ar fanteision mwy uniongyrchol bod yn actif, fel mwynhad, a theimlo’n well, yn hytrach na buddion hirdymor fel iechyd, sy’n teimlo’n anodd eu cyffwrdd ac sy’n gwneud i fod yn actif deimlo fel tasg.
  • Caniatáu ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ac amser gyda ffrindiau.
  • Y lefel briodol o gystadleuaeth i gynnwys elfen o her a gêm, ond heb roi ffafriaeth i’r rhai mwyaf medrus.
  • Ymdeimlad o ddewis a thegwch ynghylch yr hyn a gyflwynir.

Goblygiadau

Mae'r bobl ifanc yn y cynllun peilot hwn mewn cyfnod hollbwysig ar eu siwrnai gweithgarwch corfforol. Er mai ychydig ohonynt fyddai'n cael eu hystyried fel eiriolwyr dros weithgarwch corfforol, nid oes yr un ohonynt wedi ei ddiystyru eto fel rhywbeth nad yw ar eu cyfer hwy. Mae gan y mwyafrif atgofion plentyndod cadarnhaol o hyd o adeg pan oedd chwaraeon yn brofiad hapus, heb bwysau, ac mae llawer yn dal i ystyried bod rhai mathau o symud yn bleserus.

Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i gynnig rhywbeth i’r bobl ifanc hyn sy’n teimlo wirioneddol ar eu cyfer nhw ac ailadeiladu’r hyder maent wedi’i golli wrth fod mewn amgylchedd actif. Yn nodedig, mae'n well ganddynt weithgareddau corfforol fel cerdded, dawnsio a phêl osgoi na chwaraeon mwy prif ffrwd fel pêl rwyd neu redeg.

Er bod cyfeiriadau byr at rwystrau a grybwyllwyd yn aml o ran cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, fel cost, mae’n amlwg, i’r bobl ifanc hyn, bod y profiad o fod yn actif yn ganolog i’r penderfyniad ynghylch cymryd rhan ai peidio. Maent yn chwilio am lefydd a chyfleoedd lle gallant fod yn nhw eu hunain a threulio amser gyda'u ffrindiau. Maent hefyd yn ceisio noddfa rhag straen bob dydd wrth iddynt ymdopi â’u bywyd sy’n newid.

Er bod hyn yn ymddangos yn syml ar yr wyneb, dylem fod yn ofalus rhag gorfodi gwerthoedd oedolion ar y bobl ifanc. Gall eu dehongliad hwy o beth yw profiad da fod yn wahanol iawn i’n dehongliad ni, ac felly dylid ystyried cyd-greu cyfleoedd gyda phobl ifanc fel elfen hollbwysig o waith yn y dyfodol.