Skip to main content

1. Crynodeb Gweithredol

Pwrpas

Ychydig iawn rydym yn ei ddeall am yr heriau presennol sy'n atal unigolion yng Nghymru rhag symud o gyfranogiad yn yr ysgol a / neu ar lawr gwlad mewn chwaraeon i lwybr chwaraeon cydnabyddedig.

Felly, roedd y prosiect a ganlyn yn ceisio deall beth sy’n atal pobl ifanc 11 i 16 oed ar hyn o bryd rhag symud ymlaen o gyfranogiad ysgol neu ar lawr gwlad i lwybr a gydnabyddir gan Gorff Rheoli yng Nghymru?

Dull

Roedd y prosiect yn ffafrio dull ansoddol o weithredu, gan ddefnyddio grwpiau ffocws a dulliau creadigol i ddeall siwrnai'r cyfranogwyr drwy chwaraeon a’r gefnogaeth sydd arnynt ei hangen, y rhwystrau roeddent wedi’u hwynebu ac yn debygol o ddod ar eu traws wrth symud drwy’r llwybr chwaraeon, a’u gwybodaeth am lwybrau chwaraeon penodol. 

Defnyddiwyd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i adnabod cyfranogwyr posibl, a chyflwynwyd 25 o grwpiau ffocws, gan siarad â mwy na 125 o gyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd ar lawr gwlad, ar draws wyth ysgol, pum rhanbarth, tri chwartel prydau ysgol am ddim, a chwe chategori chwaraeon.

Canlyniadau 

Cyfeiriodd y cyfranogwyr at nifer o rwystrau ymddangosiadol sydd ar hyn o bryd neu o bosibl yn atal eu cynnydd ar hyd llwybr chwaraeon cydnabyddedig. Trefnwyd y rhwystrau o dan y themâu a'r is-themâu canlynol:

Profiadau Annymunol(Diffyg) MwynhadDiwylliant ChwaraeonYr Amgylchedd FfisegolPerthnasoedd Personol
Blaenoriaethau CystadleuolAddysg Ymrwymiadau ChwaraeonDiddordebau ac Ymrwymiadau Eraill 
Heriau LogistaiddTrafnidiaethAriannol  
Absenoldeb Sgiliau YmdopiFfrwyno Cymhelliant ac YmrwymiadDelio â PhwysauDelio â Pherfformiad GwaelDelio â Gofynion Corfforol
Canfyddiadau AnffafriolBeth Gall y Gamp ei GynnigYmwybyddiaeth o Lwybr Canfyddiadau Llwybr 

Casgliadau

Mae'r rhwystrau i gynnydd mewn llwybr chwaraeon cydnabyddedig yn amrywiol a chymhleth. Felly, mae gwrando ar leisiau a phrofiadau byw pobl ifanc yn hollbwysig er mwyn deall y ffordd orau o wella’r llwybr chwaraeon, ac wrth gynllunio newidiadau ac ymyriadau priodol sydd â’r cyfranogwr yn rhan ganolog ohonynt.