Skip to main content

3. Canlyniadau

Trosolwg

Dadansoddwyd y data yn thematig gan ddefnyddio dull cyfarwydd Braun a Clarke o 2006 sy’n cynnwys camau ymgyfarwyddo, codio, themâu, adolygu themâu, diffinio ac enwi themâu, ac ysgrifennu. Arweiniodd canlyniad y broses hon at greu a threfnu pum thema, pob un â'u his-themâu cysylltiedig eu hunain. Mae Ffigur 1 yn gynrychioliaeth weledol o'r themâu a'r is-themâu hynny. Edrychwch ar atodiad 1 am restr lawn o'r codau sydd wedi cyfrannu at y themâu a'r is-themâu.

Ffigur 1. Cynrychiolaeth weledol o themâu ac is-themâu y rhwystrau i gyfranogiad a chynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon cydnabyddedig. 

Profiadau Annymunol(Diffyg) MwynhadDiwylliant ChwaraeonYr Amgylchedd FfisegolPerthnasoedd Personol
Blaenoriaethau CystadleuolAddysg Ymrwymiadau ChwaraeonDiddordebau ac Ymrwymiadau Eraill 
Heriau LogistaiddTrafnidiaethAriannol  
Absenoldeb Sgiliau YmdopiFfrwyno Cymhelliant ac YmrwymiadDelio â PhwysauDelio â Pherfformiad GwaelDelio â Gofynion Corfforol
Canfyddiadau AnffafriolBeth Gall y Gamp ei GynnigYmwybyddiaeth o Lwybr Canfyddiadau Llwybr 

Cyd-destun

Mae'r themâu'n canolbwyntio ar y rhwystrau i gyfranogiad a chynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon cydnabyddedig. Mae pob thema yn dechrau gyda disgrifiad byr a throsolwg, ac wedyn ehangu pob is-thema, ac yn olaf amlinelliad o'r atebion a grybwyllwyd gan gyfranogwyr yr astudiaeth.

Mae'n bwysig nodi fodd bynnag nad oedd y cyfranogwyr yn trafod rhwystrau yn unig yn ystod y grwpiau ffocws, ond hefyd wedi sôn am elfennau cadarnhaol y llwybr(au) y buont yn rhan ohonynt, y profiadau pleserus a’r perthnasoedd a gawsant, a'r ffactorau sy'n cefnogi eu cynnydd yn y pen draw ar hyd y llwybr. Er enghraifft, siaradodd y cyfranogwyr yn helaeth am hyfforddwyr a rhieni cefnogol, eu profiadau pleserus o rai cystadlaethau a llwyddiannau, a’u dyhead i gyflawni uchelgeisiau penodol o fewn y gamp wrth symud ymlaen.

Fodd bynnag, ffocws yr adroddiad presennol yw deall a rhannu'r ffactorau sy'n atal cynnydd i ac o fewn llwybrau chwaraeon cydnabyddedig. Felly, er bod y canlyniadau sy’n dilyn yn sôn yn bennaf am y rhwystrau a ganfyddir ac a brofir gan bobl ifanc, nid bwriad yr adroddiad yw cyflwyno darlun cwbl lwm o chwaraeon a llwybrau chwaraeon, ond yn hytrach, cyfleu’r materion a fynegir gan bobl ifanc o'u safbwynt hwy ac ystyried beth gellir ei wneud yn well yn y dyfodol.

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw’r adrannau ‘datrysiadau a nodwyd gan y cyfranogwyr’ yn cynnwys pob datrysiad posibl i’r rhwystrau a gyflwynir, ond yn hytrach maent yn awgrymiadau a gyflwynwyd yn organig gan gyfranogwyr yn y cyfweliadau. Mae’r adrannau hyn hefyd yn cynnwys cyfeiriad at rai o’r hwyluswyr a’r ffactorau cefnogol sy’n arwain at ddal ati o fewn llwybr chwaraeon a'r cynnydd ar ei hyd, fel y’i mynegwyd gan bobl ifanc. Trafodir datrysiadau ac ystyriaethau posibl pellach yn llawnach tua diwedd yr adroddiad yn yr adran ‘ystyriaethau’.