Skip to main content

3.1 Profiadau Annymunol

Mae'n ymddangos bod dyhead y cyfranogwyr i aros o fewn y llwybr chwaraeon a symud ymlaen ar ei hyd yn cael ei ddylanwadu gan eu profiadau hyd yma o fewn eu siwrnai chwaraeon. Roedd rhannau mawr o'r cyfweliadau i'w gweld yn canolbwyntio'n organig ar eu profiadau blaenorol a chyfredol o fewn camp(au), ac roeddent yn arbennig o bryderus am y profiadau hynny sy'n eu cyflwyno eu hunain fel rhwystrau i gyfranogiad a chynnydd. 

[Diffyg] Mwynhad

Yn sail i bob profiad annymunol, ac yn ôl pob golwg Y ffactor cyfrannol o ran a yw'r profiad hwnnw'n ddigon arwyddocaol i fod yn rhwystr i gyfranogiad a chynnydd yw mwynhad, neu yn hytrach, ei ddiffyg. Roedd y cyfranogwyr yn aml yn siarad yn gwbl onest am oferedd cymryd rhan mewn chwaraeon neu o fewn amgylchedd nad oeddent yn ei fwynhau. 

“If I’m not enjoying it, I don’t see the point in doing it. Like I don’t want it to be a thing where it’s so stressful, that it’s not worth going. Maybe you’ll see more improvement but it’s not something you want to live your life doing. It’s like, you know like loads of doctors that are GPs and they’re always complaining about their job, it’s like that. I don’t want to be going back and complaining to people, it’s not enjoyable” – FSM1, South-West

Disgrifiodd y cyfranogwyr sawl ffactor a oedd i bob golwg wedi lleihau eu mwynhad o’r gamp neu brofiad penodol. Er enghraifft, dywedwyd bod y canfyddiad o beidio â chael “good team”yn cyfyngu ar fwynhad o'r gamp. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf a soniodd am ddiffyg mwynhad yn cyfeirio at ailadrodd neu ddiflastod fel ffynhonnell eu hanhapusrwydd. Er enghraifft:

“It’s annoying because, for instance, if you [participate] in the morning, then you [participate] in the afternoon the same day, they would be the same sets…And like a lot of the stuff that we do like, at one point, we were doing like loads of like twenty, thirty lots of twenty fives. They are really boring” – FSM1, Central South

“But [sport] is just really like continuous and I don’t know, it’s something I don’t enjoy it” – FSM2, Gwent

Cyfeiriwyd hefyd at sawl canlyniad i beidio â mwynhau camp(au). Soniodd rhai cyfranogwyr am amharodrwydd i symud i bennau uwch y llwybr ac ymrwymo mwy o’u hamser i gamp nad oeddent yn ei mwynhau’n llwyr. Soniodd eraill am chwilio am glybiau gwahanol i geisio aildanio teimladau o fwynhad. Canlyniad mwy difrifol peidio â mwynhau camp(au) oedd rhoi'r gorau i'r gamp yn llwyr. 

“I’ve seen so many people who at my age were fully like wanting to go to the Olympics…but I’ve seen so many people who’ve been like that and then have like, you know, like fell out of love with the sport and then stopped” – FSM1, Central South

Diwylliant Chwaraeon

Bu’r cyfranogwyr hefyd yn trafod eu profiadau o ddiwylliant neu natur y gamp, a sut roedd y rhain yn aml yn rhwystrau i’w dymuniad i aros mewn camp a’u dyhead i wneud cynnydd ar hyd ei llwybr. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfweliadau yn cyfeirio at natur gymharol unigryw chwaraeon, a'r teimladau o ynysu o ganlyniad. 

“And you could say, it’s quite a lonely sport…You’re staring at a black line for two hours. Lengths and lengths and lengths” – FSM1, South-West

Roedd natur unigryw chwaraeon hefyd yn golygu bod rhaid i gyfranogwyr fod yn hunanddibynnol, o ran perfformiad cystadleuol a datblygiad chwaraeon. 

“What I find quite helpful about team sports in that situation, is that loads of people will be there, dedicated with you, and it’s not just a solo effort, you don’t have to mentor yourself, you can have other people mentoring you, you can mentor other people but in [sport], obviously, it’s very much a solo sport” – FSM1, South-West

Roedd yr ynysu a deimlwyd gan gyfranogwyr hefyd yn ymestyn i’w bywydau y tu allan i chwaraeon, gyda honiadau bod gan ffrindiau y tu allan i’r gamp ddiffyg dealltwriaeth a / neu werthfawrogiad o’r hyn sydd ei angen i gymryd rhan yn y llwybr chwaraeon. 

You know, you’ve got your [sport] friends and if they say, good luck, you know, we, we all get it, you know, we know what we’re about to go into, like into a race and stuff. Whereas our friends out of school probably don’t even know how many lengths the hundred metres is” – FSM1, South-West

Cyfeiriwyd yn achlysurol hefyd at ddibyniaeth camp(au) ar gystadlaethau fel rhwystr i gyfranogiad a chynnydd. Honnodd sawl cyfranogwr bod eu profiad o gystadlaethau chwaraeon yn “not enjoyable”, tra bo eraill yn dweud bod y “need to compete” yn atal eu dyhead i aros yn y gamp. Yn anffodus, arweiniodd yr angen am gystadlu at rai yn rhoi'r gorau i'r gamp yn gyfan gwbl.

Yn gysylltiedig â’r ddibyniaeth ar gystadlu mae’r anghyfforddusrwydd ymddangosiadol a oedd gan lawer o gyfranogwyr o ran “intensity” [cynyddol] llwybr, gyda rhai yn nodi y byddai’n well ganddynt ostwng lefel, ac eraill hyd yn oed yn nodi y byddent yn penderfynu rhoi’r gorau i’r gamp pe bai'n mynd yn “too intense, too soon”. Wrth adrodd profiad ei chwaer, esboniodd un cyfranogwr:

“So, she was like top of her game, playing in the premier league, when she was fifteen, then she found it all too much and the environment, she didn’t like it because it was too competitive and felt like nasty, like she couldn’t make mistakes anymore” – FSM1, South-West

Cyfeiriodd cyfranogwyr eraill at y pwysau roeddent yn ei wynebu o ran ffynhonnell yr “intensity” a deimlwyd yn y gamp. 

“That’s probably the worst thing, they push you, they push you a lot, so it’s like getting there, warm up, and like [participate] for, I don’t know, the whole like hour. Because [activity length] is like a warm up” – FSM1, Mid Wales

Yr Amgylchedd Ffisegol

Cyfeiriwyd yn aml at y profiadau a gafodd y cyfranogwyr o fewn amgylchedd corfforol y gamp(au). Soniwyd yn aml am annigonolrwydd cyfleusterau chwaraeon. Soniodd cyfranogwyr hŷn am fod yn fwy ymwybodol o gyfleusterau [gwael] na chyfranogwyr iau a rhieni, a chyfeiriwyd at yr oedran 12 i 13 oed fel bras amcan o’r oedran pan oeddent yn rhoi mwy o sylw i safon y cyfleuster a gynigir. Er enghraifft, cwynodd sawl cyfranogwr mewn lleoliad lled-wledig am ddiffyg cyfleusterau [chwaraeon] yn yr ardal. 

“There are loads of facilities around, so there’s loads of opportunities for you to go to and there’s many clubs and there’s loads of stuff to do…but then [sport], it’s not at the standard. The standard of like facilities are like not here. There’s like no astro or anything. There used to be the astro, you could play [sport] on it but now it’s a, like a 3G, so you can’t” – FSM1, Mid Wales

Roedd diffyg cyfleusterau lleol yn destun rhwystredigaeth hefyd i'r rhai a oedd bellach yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ariannu a theithio i leoliadau eraill ymhellach i ffwrdd. 

So, we’ve got a small bit of astro turf. We’ve got loads of fields, but you can’t play [sport] on them, so, that’s a little bit frustrating. [Alternate location] still costs money to like get there and book the pitches. You have to get a minibus there, and stuff like that. It’s just an extra faff” – FSM1, South-West

“There’s not really a quality [facility] around this area, for me, so I have to go sort of out of area because I was still travelling like an hour to [English city]” – FSM2, North Wales

Hyd yn oed pan mae cyfleusterau ar gael yn yr ardal leol, mae’r diffyg amseroedd sydd ar gael a nifer y cyfranogwyr y mae’n rhaid i gyfleusterau ddarparu ar eu cyfer yn aml yn achosi newid rheolaidd ac anghyfleus ar adegau yn y lleoliad hyfforddi. Mae hyn yn aml yn golygu hyfforddiant o fewn cyfleusterau sy'n llai na delfrydol. 

“I think it’s like the best in a bad situation, because realistically there aren’t enough [facilities] in [location], with enough [facility] time for the whole club. It’s not realistic to have like the amount of squads you do within [club]” – FSM1, South-West

Soniodd y cyfranogwyr hefyd am brofiadau annymunol mewn cyfleusterau annigonol. Soniodd llawer am aflendid y cyfleusterau yr oedd yn ofynnol iddynt hyfforddi ynddynt, a'u bod yn flin am orfod talu ffi fisol am y profiad. Cwynodd eraill am amgylcheddau gwylio annymunol i rieni mewn cystadlaethau. Roedd rhai hyd yn oed yn cwyno am annigonolrwydd y cyfleusterau newid, gan nodi eu bod wedi cael eu gorfodi i newid mewn mannau agored yn flaenorol a'u bod wedi dioddef lladrata. 

“The changing rooms, like people stole my money…And they left all their things in the cubicles…So there was no cubicles for you to get in, so you had to change like out in the open. I just took their stuff out, grabbed their stuff and chucked it” – FSM1, Mid Wales

Nododd eraill hefyd ei bod yn aml yn anodd dod o hyd i lefydd sy'n ddiogel i gymryd rhan ynddynt, a chyfeiriwyd at y tywydd fel ffactor sy'n cyfrannu at wneud lleoliadau yn aml yn anniogel. 

“I actually think it’s kind of hard to find like a suitable place to go that’s like safe and like not too busy, like not too far away but also like it’s a seasonal thing, like you said, it’s like sometimes it’s going to be too cold or like too choppy” – FSM2, North Wales

Roedd diffyg offer chwaraeon penodol yn rhwystredigaeth i rai o’r cyfranogwyr hefyd, a soniodd llawer am ganlyniadau a goblygiadau hyn iddynt hwy a’u perfformiad mewn cystadlaethau. Er enghraifft, esboniodd rhai nad oeddent yn gallu ymarfer technegau penodol sydd eu hangen ar gyfer cystadlaethau oherwydd y diffyg offer arbenigol sydd ar gael yn eu cyfleuster lleol: 

“We don’t actually have [equipment] - we do but what it is they just screw them into the floor – but we don’t have [competition standard equipment]…they’re handmade…they don’t have the back board and the backs…yeah, they don’t have the back board or anything, so like you can’t practice like race starting situations. They’re not the best. So, for instance, a lot of our [participants], we’re always last off the block. So, the actual time, not saying it’s terrible, but it’s not the best” – FSM1, Mid Wales

Perthnasoedd Personol

O fewn yr amgylchedd ffisegol a diwylliant chwaraeon, mae sawl perthynas yn datblygu ac mae angen eu rheoli a'u meithrin. Mae llawer o gyfranogwyr yn nodi bod ffurfio a chynnal perthnasoedd personol yn ffactor allweddol wrth iddynt gymryd rhan yn y gamp a’r llwybr. A dweud y gwir, roedd rhai o'r farn bod nifer o'r cyfranogwyr hŷn ar y llwybr ar gyfer cyfeillgarwch yn unig, ac nid am unrhyw resymau chwaraeon neu ddatblygiadol. Yn amlwg, roedd rhai yn meddwl na fyddent yn mwynhau chwaraeon ac y byddent wedyn yn gadael y llwybr pe na baent yn gallu meithrin y cyfeillgarwch yr oeddent yn ei ddymuno. 

“If I moved up and then I wasn’t with anyone I knew, and people that I didn’t particularly like, then I wouldn’t really enjoy it as much and I might drop out…because the sport, like now, I enjoy it and I play it with my friends and my family, as well, and I play with people I enjoy. So it’s, sometimes it’s like, if you have like the wrong coach or like the wrong, playing with the wrong type of people” – FSM1, South-West

Roedd y “wrong type of people” y cyfeiriwyd atynt yn mynd y tu hwnt i ddiffyg hoffter o’r cymeriadau yn yr amgylchedd chwaraeon, ond hefyd yn siarad am oedran a gallu’r rhai yn y clwb neu ar y llwybr. Nododd llawer o gyfranogwyr eu hanfodlonrwydd a’u bod yn gadael amgylchedd yn y pen draw oherwydd bod gormod o ystod o ran gallu ac oedran y cyfranogwyr. 

“When I joined the first club, I don’t think I enjoyed it as much because it was like a mixed club and you had people playing that played for North Wales and Wales and stuff. So, the standard of the people in the team was really, really high, and being quite young and quite new to [sport], you did feel kind of like, oh well, you know, I’m not as developed as them obviously, because I’ve only just started” – FSM1, Mid Wales

Drwy gydol y cyfweliadau, roedd yn ymddangos bod y berthynas gyda'r athro / athrawes addysg gorfforol a'r hyfforddwr wedi cael effaith sylweddol ar gyfranogwyr hefyd. Dywedwyd bod effaith hyfforddwr ‘gwael’ o bosibl yn “put people off ” cymryd rhan yn y gamp, a chydnabuwyd yn gyson y gall yr hyfforddwr, a’r berthynas a reolir gyda’r rhai mae’n eu hyfforddi, gael effaith ddwys ar gynnydd y cyfranogwyr ar hyd y llwybr. 

“They’re the person that you have to see every day and they’re the person who sort of have control over like, how well you do, how you progress…You don’t realise at first, they have a lot of control over how you’re doing in [sport]” – FSM1, South-West

Yn ogystal, dywedwyd hefyd bod y berthynas rhwng y rhiant a'r hyfforddwr yn cael effaith ar gynnydd y cyfranogwyr drwy'r llwybr, yn ogystal â pherthnasoedd blaenorol anodd rhwng hyfforddwyr ac aelodau eraill o'r teulu. 

“So basically, my cousin didn’t get along with her before, in squads and that…and she brought it on to me as well. So, she didn’t like my cousin, so she didn’t like me as well, for some reason. She didn’t like the whole family. If you know what I mean?” – FSM1, South-West

Roedd y cyfranogwyr yn gallu mynegi’n union beth oedd yn gwneud hyfforddwr ‘gwael’. Roedd nodweddion o'r fath yn cynnwys negyddiaeth, gweiddi, tymer ddrwg, darparu cyfarwyddiadau aneglur, a diffyg empathi i heriau y tu allan i chwaraeon ac i flinder cynyddol. Fodd bynnag, ffafriaeth ymddangosiadol ymhlith hyfforddwyr oedd y gŵyn fwyaf a oedd yn peri gofid i gyfranogwyr. Trafodwyd sut gall deinameg letchwith gael ei chreu o fewn tîm neu glwb pan fo ffafriaeth ymddangosiadol yn digwydd ymhlith hyfforddwyr. 

“I’ve seen certain people become like, kind of like jealous of like how other people are being like favourited because, sometimes the coaches need to make decisions about everyone and certain people could like not like that decision but then obviously people can always say, oh, well you’re the coach’s favourite and you’re like most, the most liked by the coach” – FSM1, Central South

Roedd yn ymddangos bod ffafriaeth hyfforddwyr, boed yn cael ei ystyried yn gyfiawn neu’n anghyfiawn, yn cael ei gydnabod fel un o’r prif ffactorau a oedd yn penderfynu pa gyfranogwyr oedd yn gwneud cynnydd ar hyd y llwybr, a pha rai nad oedd yn gwneud hynny. Roedd nifer o gyfranogwyr dan yr argraff hefyd y byddai ganddynt yr un gallu a chyfleoedd ag eraill pe baent yn cael yr un faint o sylw â'r rhai a oedd yn cael eu ffafrio. 

“Everyone always has their favourites, like you can tell that they have favourites and when they only pay attention to that person, let’s say, they’ve only just like recently started getting really, really fast, they pay attention, you feel like you’re trying to get to that level but if you had maybe a bit more of the attention, you could get to that level as well” FSM1, Central South

Er bod nodweddion i hyfforddwyr a’u hymddygiad sy’n ymddangos fel pe baent yn rhwystr i gyfranogiad a chynnydd o safbwynt y cyfranogwr, mae’n ymddangos bod dull ‘un maint yn ffitio pawb’ i’w osgoi hefyd. Mae rhai cyfranogwyr yn disgrifio hyn, “coach’s humour isn’t always to everyone’s taste”,a nododd cyfranogwr arall ei fod yn “hated the coach giving me a nickname”. Esboniodd un cyfranogwr:

“There was like another one before [coach], from when I was a bit younger, and he like completely de-motivated me and I didn’t even want to [participate], but then he went, got another coach and then I was back into it again. It is a lot about the coach as well, but they’re definitely different for everyone, because like the one who is motivating [fellow participant], was also one of the worst coaches, and I think it was probably the same coach [as mentioned above]” – FSM1, South-West

Wedi dweud hynny, mae rhai cyfranogwyr yn cydnabod nad yw rôl yr hyfforddwr yn un hawdd a gall fod yn anodd rhoi sylw i bob cyfranogwr.

Yn olaf, cydnabuwyd y berthynas rhwng rhiant a chyfranogwr fel un o bwysigrwydd hefyd, yn enwedig gan ei bod yn ymwneud â ‘pharodrwydd’ rhiant i gefnogi cyfranogiad.

“You have to think of whether they [parents] actually let you go or not. They might not want you to. Like having to transport you there, and like drive you there and everything else, and then like, they might just be a bit tired and just paying the club fees” – FSM4, Central South

Adroddwyd hefyd bod y sentiment o gamp (campau) ddim yn cyd-fynd ag amserlen rhieni yn rhwystro cynnydd ar hyd y llwybr. 

“So, like they won’t be willing to like go, take me to practice like four days a week, if they’re both working full time, it just doesn’t fit them. So, they’re not encouraging me but not discouraging me to do it” – FSM2, Gwent

Roedd diffyg diddordeb ymddangosiadol rhieni mewn camp(au) a chyfranogiad eu plentyn mewn camp(au) yn cael ei ystyried hefyd fel rhwystr posibl i'r gefnogaeth sydd ei hangen a chynnal y berthynas rhwng y rhiant a'r athletwr. Mae eraill yn gweld y profiad a gaiff rhieni wrth ryngweithio â’r gamp fel rhwystr a phwnc anodd. 

“Well, mine don’t [parents]. Our parents hate it. Because usually our [sport] club puts us in just the [discipline] race and sometimes because we’re on the cusp of thirteen, there are not many [events] for us. So, it’s like most of the time we’re only doing maybe a couple of races and then other people are doing loads and then our parents are like just waiting for us to [participate]. They don’t like it” – FSM1, Mid Wales

Yn y cyfamser, mae rhai yn ystyried bod diffyg diddordeb rhieni yn cyfrannu at ddiffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r hyn sydd ei angen i gymryd rhan a gwneud cynnydd yn y gamp, tra bo eraill yn ei weld fel rhywbeth sy'n cyfrannu at eu hamharodrwydd i ddarparu cefnogaeth ymarferol, fel teithio. 

“Like a six-hour drive, I doubt my parents will want to drive six hours, just like for me to compete, because they don’t really like me doing [sport] too much” – FSM2, North Wales

Datrysiadau a Nodwyd gan y Cyfranogwyr i ‘Brofiadau Annymunol’

Un o'r datrysiadau a grybwyllwyd amlaf er mwyn goresgyn neu osgoi profiadau annymunol oedd yr angen am bwysleisio a ffrwyno elfen gymdeithasol chwaraeon. Roedd y rhan fwyaf o’r cyfweliadau’n cynnwys cyfeiriad at gamp(au) fel gweithgaredd dymunol oherwydd ei fanteision cymdeithasol, a chyfeiriodd llawer y byddent yn aros am gyfnod hir mewn camp(au) pe bai “community feeling”yn cael ei ffrwyno. Soniodd eraill am yr angen am ryngweithio a chysylltiadau cymdeithasol cynnar wrth ymuno â chlwb neu gamp newydd ar y llwybr am y tro cyntaf.

Soniodd cyfranogwyr eraill am rôl rhieni, a sut gallent chwarae rôl i ddileu’r siawns o brofiadau anffafriol. Er enghraifft, gallai aelodau o'r teulu y dywedwyd eu bod yn cymell, yn annog, yn mynychu [hyfforddiant a chystadlaethau], ac yn darparu cefnogaeth fwy ymarferol, diriaethol wella profiadau cyffredinol eu plant. Soniodd cyfranogwyr eraill am ymddygiad rhieni yn yr amgylchedd chwaraeon ac o’i gwmpas, gan ddweud bod y profiad yn fwy pleserus o lawer pan oedd rhieni “didn’t shout”.

Soniodd sawl cyfranogwr hefyd am bwysigrwydd y berthynas hyfforddwr a hyfforddwr-athletwr o ran gwella’r profiad chwaraeon. Er bod llawer yn gallu rhestru’r nodweddion a oedd yn annymunol mewn hyfforddwr, yn yr un modd, roedd llawer hefyd yn gallu mynegi’n glir beth oedd yn gwneud hyfforddwr ‘da’. Roedd rhinweddau o'r fath yn cynnwys bod yn gefnogol ac yn llawn anogaeth, bod â ffocws ar welliant ac nid canlyniadau, bod â phrofiad a gwybodaeth fanwl am y gamp a sut i wneud cynnydd, bod yn empathetig ag amgylchiadau'r athletwr, y gallu i wneud i gyfranogwyr deimlo'n gyfforddus, bod yn ‘ffrind’ i’r cyfranogwyr, anogaeth i wneud cynnydd drwy'r llwybr chwaraeon a chwaraeon, ac un sy'n rhoi'r argraff ei fod yn “believe in me”. Soniodd llawer hefyd am yr angen i hyfforddwr fod yn bersonol, a thrin “everyone the same” i atal canfyddiadau o ffafriaeth sydd fel pe baent yn rhwystro cymaint.

Yn gysylltiedig â phwysigrwydd rôl yr hyfforddwr mae natur ac ansawdd y sesiynau hyfforddi a ddarperir. Soniodd rhai cyfranogwyr am yr angen am sicrhau bod gan sesiynau hyfforddi gydbwysedd addas rhwng elfennau corfforol a thechnegol y gamp, tra bo eraill yn syml yn dymuno i sesiynau hyfforddi fod mor “engaging and enjoyable as possible”,gan nodi hyfforddiant penodol i safle ac amrywiaeth o fewn sesiynau i gyfrannu at hyn.