Skip to main content

3.5 Canfyddiadau Anffafriol

Beth Gall y Gamp ei Gynnig

Wrth ddisgrifio’r rhesymau o blaid ac, yn arbennig, yn erbyn y dyhead i wneud cynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon cydnabyddedig, roedd y cyfranogwyr yn aml yn cyfeirio at y cyfleoedd y gallai neu na allai’r gamp eu cynnig. Wrth lunio casgliadau ynghylch yr hyn y gall y gamp ei ‘gynnig’ mewn gwirionedd, soniodd y cyfranogwyr am “status” y gamp. Cyfeiriodd rhai at y statws hwn ar raddfa genedlaethol neu ryngwladol, a soniodd eraill am y sefyllfa chwaraeon yn lleol.

“Well, it’s not a very common sport…Lack of awareness…Yeah, a lot of people don’t talk about it…I think everybody knows about [other sport], we all know about what to do and stuff, but I didn’t hear of the [sport] scene until like year nine” – FSM2, Gwent

Roedd y cyfranogwyr hefyd yn ymddangos yn amharod i ymrwymo i gamp neu wneud cynnydd ar hyd llwybr chwaraeon heb sicrwydd o’u dyfodol a heb wybod beth allai’r gamp ei gynnig. Er enghraifft, wrth wneud sylwadau ar y posibilrwydd o symud drwy’r llwybr i gymryd rhan mewn tîm rhanbarthol, dywedodd un cyfranogwr:

“It’s very, very far, and unless I thought that I had like a massive future in it, I don’t think I would. I think especially for me, obviously when you get to regional centres and age groups, you have to be committed because that is your main sport…So, the travel is going to be quite a stretch, if you’re not one hundred percent committed to it” – FSM1, Mid Wales

Mae'n ymddangos bod diffyg cyfleoedd gyrfa ymddangosiadol ac ansicrwydd eu dyfodol yn y gamp wedi cyfrannu hefyd at gymhellion sylfaenol presennol y cyfranogwyr dros gymryd rhan yn y gamp. Nododd llawer o gyfranogwyr eu bod yn cymryd rhan mewn camp(au) penodol “only for fun” neu fel “something to do” ac nid oedd ganddynt unrhyw ddyheadau i fynd â’u siwrnai chwaraeon ar y llwybr ymhellach. Dywedodd eraill bod eu diddordeb a’u cyfranogiad mewn camp(au) penodol at ddibenion academaidd pur, er enghraifft, i gael TGAU.

Dywedodd sawl cyfranogwr hefyd mai eu bwriadau wrth chwarae camp(au) benodol oedd hwyluso eu hymwneud a’u cynnydd mewn camp arall. Pan ofynnwyd iddynt wedyn am eu dyhead i wneud cynnydd ar hyd y llwybr, mynegodd y cyfranogwyr hyn sut byddent yn rhoi’r gorau i’r gamp a’u hymwneud â’r llwybr unwaith y byddai wedi cyflawni ei ddiben o’u datblygu [yn gorfforol] ar gyfer eu camp arall, sy’n fwy o flaenoriaeth iddynt.

“I mean, I feel like eventually the angle would be to drop [sport] and move into [priority sport], as [sport] is a way of helping me with [priority sport]” – FSM1, South-West

Canfyddiadau Llwybr

Gall canfyddiadau – boed gywir neu anghywir – fod yn rhwystr hefyd i barhau o fewn llwybr chwaraeon cydnabyddedig a gwneud cynnydd ar ei hyd. Siaradodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd am heriau ymddangosiadol y byddent yn eu hwynebu ymhellach ar hyd y llwybr. Er enghraifft, soniodd un cyfranogwr am yr ymrwymiadau a'r teithio sydd eu hangen er mwyn gwneud cynnydd.

“I’d drive there, probably but like, for me, it’s really, really far. So, for me to drive there, weekly, it would be quite a lot of commitment and it would mean that you’d have to give most of your time to [sport] because, by the time you’ve gone, it’s about two hours, if you’re playing for the regional one, probably, more than that” – FSM1, Mid Wales

Roedd yr ymrwymiadau amser ymddangosiadol sydd eu hangen ymhellach ar hyd llwybrau chwaraeon yn cael eu crybwyll yn gyffredin. Dywedodd sawl cyfranogwr y byddai’r ymrwymiadau amser yn “too much”, hyd yn oed ar gyfer y camau cychwynnol ar hyd y llwybr. Roedd eraill o’r farn y byddai’r ymrwymiadau amser sydd eu hangen ar gyfer rhai chwaraeon yn “scare” y rhai sy’n llai cyfarwydd â’r gamp a’r llwybr. Cymharwyd llwybrau ac ymrwymiadau amser ymddangosiadol rhwng chwaraeon hefyd:

“If you’re doing [sport] like once a week, then it’s like an hour’s training session…and you see that you have to be meeting like twenty-six hours a week [in another sport], that’s like, it’s like over a day of just consistently participating, isn’t it? That’s like massive” – FSM1, South-West

Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr effaith y byddai’r ymrwymiadau amser ymddangosiadol hyn yn ei chael arnynt. Er bod rhai’n dweud yn syml na fyddent “want to [participate] 15 hours a week”, roedd eraill yn poeni mwy am yr anhawster cynyddol o gydbwyso ymrwymiadau eraill fel gwaith cartref a chymdeithasu. Fodd bynnag, cyfeiriodd rhai at yr effaith gorfforol arnynt:

“All those hours you have to do would definitely be difficult…I reckon the like physical effect because, you know, if you’re doing it, then you’re getting healthier and like fitter but then also you’d have to be exhausted and I’m not good at being exhausted” – FSM1, Mid Wales

Roedd amheuon eraill yn ymwneud mwy â’u canfyddiadau ynghylch a fyddent yn mwynhau’r profiad ei hun wrth iddynt symud ymlaen ar hyd y llwybr. Er enghraifft, roedd yn ymddangos bod sawl cyfranogwr yn ofni y byddai pennau uwch y llwybr yn “too intense”. 

“I think it would be taken too seriously, to be honest. I think it would be too intense and you’d be too worried about the competition…that’s the thing, when a sport gets to the point where it’s like really intense, like that’s when…I used to do [sport] and it was getting to the point where it was really intense and I just wasn’t enjoying it anymore, and I was pushed like too much, to where I just didn’t, I just didn’t like it” – FSM4, Central South

Fodd bynnag, nid oedd pob canfyddiad am y llwybrau’n canolbwyntio ar y dyfodol, gan fod rhai yn canolbwyntio ar y presennol. Er enghraifft, roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn “too young” i symud ymlaen o raglen lefel ranbarthol i raglen genedlaethol. Roedd eraill yn ystyried treialon oedd ar y gorwel, a'r argraff pe baent yn aflwyddiannus y byddai'n rhaid iddynt aros am flwyddyn galendr lawn cyn cael cyfle tebyg eto. Cyfeiriodd llawer o gyfranogwyr hefyd at y gwahaniaeth mewn safonau y byddai angen ei oresgyn er mwyn gwneud cynnydd ar hyd y llwybr.

“So, it’s a bit harder now because, once you finished [early pathway stage] and you get into [next pathway stage], you have to go straight to under sixteen and eighteens, which is quite difficult, actually” – FSM1, South-West

Ymwybyddiaeth o Lwybr

Honnodd cyfran o’r rhai a gyfwelwyd bod ganddynt wybodaeth am y llwybr a hefyd nodwyd eu bod yn “not surprised”gyda’r camau neu’r manylion yn y llwybr a ddatgelwyd iddynt. Siaradodd sawl cyfranogwr o brofiad uniongyrchol, a chyfeiriodd eraill at lwybrau chwaraeon eraill, ac roeddent dan yr argraff y byddent yr un fath. 

Fodd bynnag, cyfaddefodd llawer o’r cyfranogwyr i ddiffyg ymwybyddiaeth o’r llwybr, gan gynnwys “not knowing where good performances could take me”. Roedd eraill wedi synnu at gamau penodol y llwybr ei hun, gan ddangos diffyg ymwybyddiaeth o lefelau rhanbarthol a chenedlaethol y llwybr(au). Roedd un cyfranogwr yn anymwybodol o gyfle mwy lleol sydd ar gael iddo na’r un roedd wedi bod yn ei ddilyn:

“I don’t see anything about that [local club]. I didn’t know this existed, so like that could be an opportunity to go to that and it’s a lot closer than the, the academy in [other location]” – FSM2, North Wales

Soniodd un cyfranogwr am y safonau perfformiad penodol angenrheidiol, gan egluro ei fod yn ansicr o'r hyn sydd ei angen i wneud y cam nesaf. Mewn cyferbyniad, soniodd eraill am gael tasgau penodol i wella arnynt er mwyn eu galluogi i gyrraedd lefel nesaf y llwybr. 

“In the pathway thing, we were doing like these sheets full of like everything we need to work on throughout the winter because it’s the training season, before the race season and we’d like write down, I don’t know like specifically, there’s like multiple things but, ‘really improve my [skill]” – FSM2, North Wales

Fodd bynnag, dangosodd eraill eu diffyg ymwybyddiaeth drwy gyfaddef eu syndod o ran ble roeddent ar y llwybr ar hyn o bryd, a’u canfyddiad y byddai angen cymryd camau ychwanegol:

“I thought there’d be a bigger step between the fourth one and the fifth one [referencing the visual of a specific sport’s pathway]. I thought there would be something bigger because on this, there’s only three more steps to get and I feel like all of us are quite close to the third one” – FSM1, Central South

Fodd bynnag, nid dim ond y camau ar hyd y llwybr chwaraeon cydnabyddedig yr oedd gan rai ddiffyg ymwybyddiaeth ohonynt, ond y manylion yn y camau hynny. Er enghraifft, er bod llawer yn gwybod am gam cynnar llwybr chwaraeon, nid oedd llawer yn ymwybodol ei bod yn rhaglen agored nad oedd yn cynnwys treialon. Mewn gwirionedd, roedd nifer o'r cyfranogwyr o dan yr argraff y byddai'r dewis ar gyfer y rhaglen yn seiliedig ar berfformiad a sgowtio. Roedd eraill yn aneglur ynghylch sut i ymuno â chlwb lleol hyd yn oed, heb sylweddoli y gallech chi “turn up and play”.

Roedd y diffyg ymwybyddiaeth yn cael ei briodoli yn aml i absenoldeb unigolyn gwybodus yn rhannu’r wybodaeth gyda’r cyfranogwr. Er enghraifft: 

“I just kept going and actually no one’s really sat down and told me kind of where I’m at, what that options are, or where I could go” – FSM1, Mid Wales

Yn y cyfamser, roedd eraill yn barod iawn i ddyfynnu ffynhonnell eu gwybodaeth. Roedd y rhan fwyaf a gyfeiriodd at ffynhonnell eu gwybodaeth yn cyfeirio at hyfforddwyr, tra bo eraill yn gofyn am wybodaeth gan rieni ymddangosiadol ‘wybodus’ a oedd wedi cymryd rhan yn y gamp eu hunain yn aml, neu wedi bod drwy’r llwybr. Soniodd rhai am athrawon addysg gorfforol a “school sport liaison officers” fel ffynonellau gwybodaeth defnyddiol. Roedd eraill wedi gwylio brodyr a chwiorydd yn symud drwy'r llwybr, ac felly'n gyfarwydd â'r camau yr oedd angen eu cymryd. Roedd modelau rôl, neu gyfranogwyr hŷn o fewn yr un clwb, yn ffynhonnell o wybodaeth i rai hefyd. Soniodd llawer o gyfranogwyr hefyd am fynd yn uniongyrchol i wefan y corff rheoli cenedlaethol i gael gwybodaeth, er bod rhai’n cyfaddef ei bod yn well ganddynt gyswllt personol. Soniodd rhai cyfranogwyr am fanylion y llwybr a’r wybodaeth roeddent wedi’i chael drwy achlust:

“I think even this is hard [referencing a specific point on the pathway]. I have a friend and he’s told me that it’s not very fun….it is very physically challenging and like it hurts a lot” – FSM1, Mid Wales

Er bod rhai’n honni bod ganddynt ‘wybodaeth uniongyrchol’ am y llwybr, roeddent yn cydnabod y gallai strwythur y llwybr fod yn heriol i’w ddeall i rywun y tu allan i’r gamp neu’r rhai sy’n llai cyfarwydd ag ef.

“I think if you’re not a [participant], this all looks a bit confusing. Because I think that one, thirty-two hours, you know, twenty-six hours, twenty-five hours, to a lot of people, that means ‘lengths’” – FSM1, South-West

Cyfaddefodd eraill eu bod yn meddwl bod y llwybrau'n gliriach mewn chwaraeon eraill. Wrth gymharu eu canfyddiadau o ddwy gamp wahanol, esboniodd un cyfranogwr: 

“Getting through the pathway, is a lot like, you don’t really know where you’re going with it. Because like, especially with [sport], you know like the levels, you know it’s school club, and county, regional, super league, national, and you kind of know the way it’s going…I feel like [other sport] isn’t as much as like you know, the final destination” – FSM1, South-West

Cwynodd rhai hefyd am y diffyg cyhoeddusrwydd sydd gan rai agweddau ar y llwybr. Er enghraifft, cyfeiriodd un gŵyn at gam penodol o fewn llwybr chwaraeon penodol fel un “under publicised”, a soniodd eraill am fod â gwybodaeth glir am lwybr Lloegr, ond nid un Cymru. 

Yn olaf, cyfaddefodd rhai nad oeddent yn gwybod fawr ddim neu ddim o gwbl am lwybrau penodol oherwydd na chawsant eu trafod na’u mynegi cymaint â chwaraeon eraill yn gyffredinol. Er enghraifft:

“If there’s something for [sport], there’s probably something for [other sport]…But I just don’t think it’s a sport that’s talked about as much. Like I think, in school, most people will talk, even teachers, will talk about [sport], trials mostly and it’s not really focused on [other sport]” – FSM4, Central South

Datrysiadau a Nodwyd gan Gyfranogwyr i ‘Ganfyddiadau Anffafriol’

Cynigiodd y cyfranogwyr nifer o ddatrysiadau posibl i weithio yn erbyn y ‘canfyddiadau anffafriol’ a allai fod ganddynt hwy neu eraill o’r gamp a / neu lwybr y gamp. Yn gyntaf, ac o ran yr anesmwythyd mae rhai’n ei deimlo am dreialon, nododd rhai y byddai nodi’n glir pryd mae treialon yn angenrheidiol a phryd nad ydynt yn angenrheidiol yn gam cyntaf defnyddiol, ac wedyn manylion am sut dreialon fyddant yn ymarferol. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr angen am gefnogaeth gymdeithasol yn ystod treialon, gan ddyfynnu ffrindiau a chwmnïaeth amlaf.

Soniwyd yn aml am yr angen am fwy o gyfleoedd cynharach yn y gamp, boed hynny mewn lleoliad cymunedol neu ysgol. Roedd y cyfranogwyr yn aml yn sôn am fod yn fwy tebygol o ddal ati yn y gamp a gwneud cynnydd ynddi pe baent wedi “started earlier” ac awgrymwyd mwy o sesiynau blasu mewn ysgolion ac yn lleol i ennyn diddordeb a gosod y sylfeini hirdymor ar gyfer cymryd rhan yn y gamp.

Yn olaf, soniodd y cyfranogwyr am y ffynhonnell wybodaeth a fyddai'n eu helpu orau i ddal ati yn y gamp, a symud ymlaen ar hyd ei llwybr. Soniodd llawer am ‘fodelau rôl’ llwybr a fyddai’n gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth ac ysbrydoliaeth o ran sut i wneud cynnydd. Soniodd eraill yn syml am fagu hyder i wybod beth oedd y camau angenrheidiol pe bai “someone was there to guide me”. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr angen am sicrhau eu bod yn cael eu hatgoffa’n gyson am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, fel nad ydynt yn anghofio neu’n colli cyfleoedd a allai fod ar gael.