Skip to main content

3.2 Blaenoriaethau Cystadleuol

Roedd y cyfranogwyr yn aml yn cyfeirio at flaenoriaethau a diddordebau cystadleuol fel rhwystr [posibl] i aros o fewn a chynnydd ar hyd llwybr chwaraeon cydnabyddedig. Yn sail i’r gystadleuaeth uniongyrchol yr oedd diddordebau ac ymrwymiadau eraill yn ei hachosi roedd amser, neu’n hytrach, y diffyg amser ymddangosiadol. Soniodd llawer nad oeddent hyd yn oed yn gallu ystyried gwneud mwy o gamp(au) neu neilltuo mwy o amser i gamp oherwydd eu bywydau sydd eisoes yn brysur. Dywedwyd bod y diffyg amser ymddangosiadol yn atal eraill rhag cymryd rhan yn fwy ffurfiol mewn camp(au), ac roedd llawer yn ymwybodol iawn o'u hymrwymiadau presennol fel elfen sylweddol yn eu hamserlen wythnosol.   

“let’s say like, if I wanted to start [sport] now, I already have so much going on, like I just have, I just wouldn’t have time…then plus like revising and stuff, and actually staying home, to be home for a bit because I’m always somewhere…it’d be a bit like hectic” – FSM2, Gwent

Roedd yn ymddangos bod brwydro am amser y cyfranogwyr yn mynd y tu hwnt i gystadleuaeth uniongyrchol rhwng blaenoriaethau a diddordebau eraill; roedd hefyd yn cynnwys y dyhead i gael rhywfaint o amser hamdden am ddim gartref i orffwys ac ymlacio. 

“I get home at like half four…then I have my dinner, and I have to leave at five and then by the time I get back, it’s like eight, half eight…So I just want to like sit down and just chill for a little bit and not go up and like have to do homework” - FSM2, Gwent

Mae'n ymddangos bod y pwysau ar amser y cyfranogwyr yn eu gorfodi i gadw cydbwysedd rhwng gwahanol bethau ac, yn y pen draw, gwneud dewisiadau anodd rhwng aros o fewn a chynnydd ar hyd llwybr chwaraeon cydnabyddedig, a blaenoriaethau a diddordebau eraill yn eu bywydau ifanc.

Addysg 

Un o'r elfennau a gafodd ei chrybwyll fwyaf fel elfen sy’n cystadlu am amser cyfranogwyr oedd addysg, gan gynnwys arholiadau, adolygu, a gwaith cartref. Roedd cymryd rhan mewn camp(au) i’w weld yn aml fel rhywbeth sy’n arwain at ddiffyg amser ar ôl yn ystod y dydd ar gyfer gwaith ysgol, gan arwain weithiau at gerydd gan yr ysgol. Dywedodd y cyfranogwyr eu bod yn aml yn gorfod dod o hyd i amser wrth deithio ac yn ystod oriau anghymdeithasol i gwblhau gwaith angenrheidiol.

“It’s also affecting homework because it’s just like, we can’t do it…because if it’s in book, then I can’t do it on the way up to [city] in the car, but if it’s on iPad, then it’s fine but it, we, it’s really hard to like fit it in…because when we come home, at like nine o’clock, and homework’s due tomorrow and we haven’t done it, just because of [sport], then it’s like detention or something” – FSM1, Mid Wales

O ystyried yr anhawster o ran cydbwyso ymrwymiadau addysgol a chwaraeon, soniodd y cyfranogwyr sut byddent yn blaenoriaethu gwaith ysgol dros eu huchelgeisiau a’u cyfranogiad mewn chwaraeon, yn enwedig pan oedd arholiadau ar y gorwel. 

It depends what I’m revising for.  If I’m revising for my exams, like ages away, then I’ll work it around [sport] but if it’s like a test I have, and it’s like a GCSE, then I will miss [participating in sport]” – FSM1, South-West

Mae'n ymddangos bod y cydbwysedd sydd angen ei sicrhau rhwng chwaraeon ac addysg yn cynyddu wrth i gyfranogwyr fynd yn hŷn, nes eu bod yn meddwl na allant gydbwyso'r ddau mwyach. Yn aml, canlyniad addysg mewn cystadleuaeth uniongyrchol â chymryd rhan mewn camp yw rhoi’r gorau i’r gamp dros dro neu’n gyfan gwbl:

“I’m in year eight right now…And like when I go into year ten, I’m going to like kind of stop for a year because I’m year eleven, because I have like GSCEs and stuff…So I have to revise for them” – FSM2, Gwent

“I think when you to get to like this age, you see a lot people just start to drop out or move to development because they want to keep [sport] but…they want to like focus on school work, so they don’t compete as often…So I think, when you get to that age, you sort of like make a choice whether you want to like fully go for it in [sport], or whether you sort of want to back off” – FSM1, South-West

Mae'n ymddangos bod yr ymwybyddiaeth o fuddiannau cystadleuol chwaraeon ac addysg yn cael ei hysgogi'n rhannol gan rieni. Cyfeiriwyd yn aml at rieni yn annog dewis addysg yn hytrach na chwaraeon, naill ai fel gyrfa ddiogel neu wrth gefn. Roedd y cyfranogwyr yn aml yn rhannu sut byddai’r sgwrs hon yn dod i’r wyneb pe bai’r cydbwysedd rhwng gwaith ysgol a champ(au) yn arwain at ddirywiad mewn perfformiad addysgol:

“I kind of know that if my grade, well, well if my levels start dropping in school, my parents would definitely prioritise school over [sport]…Because they want me to like do, like not amazing but they want me to actually like do pretty good in school, so if [sport] doesn’t go quite right, I have a chance of being able to do something else” – FSM1, Central South

Mae gan athrawon hefyd ddylanwad clir ar flaenoriaethu addysg athletwyr dros chwaraeon, a’r anhawster i gydbwyso’r ddau, gyda phob athro / athrawes fel pe bai eisiau i’w bwnc ef gael y sylw mwyaf: 

“Because every teacher expects you to prioritise their subject, before everyone else, so if every teacher’s telling you to do that, then you just don’t know what to do” – FSM4, Central South

Ymrwymiadau Chwaraeon

Roedd ymrwymiadau chwaraeon ac, yn arbennig, cystadleuaeth camp(au) eraill am amser y cyfranogwyr hefyd yn rhwystr sylweddol i ddal ati a gwneud cynnydd ar hyd llwybr chwaraeon cydnabyddedig. Mynegodd y cyfranogwyr yn glir eu dyhead a manteision ‘samplu’ llawer o chwaraeon, gan egluro sut roeddent “not wanting to focus it all into one sport”ac eisiau osgoi “devoting your life” i un gweithgaredd chwaraeon.

Fodd bynnag, roedd y cyfranogwyr yn aml yn teimlo bod yr angen ymddangosiadol am ymrwymo amser ac egni sylweddol i un gamp a llwybr chwaraeon yn eu gorfodi i roi’r gorau i’w dymuniad i samplu ac, yn hytrach, gwneud dewisiadau anodd rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon niferus. Dewisodd eraill y llwybr o roi'r gorau i’r gamp i barhau â’u llwybr samplu.

“Like with [sport], I was like a competitive [participant] and it was like just so much, it was like nineteen odd hours a week and stuff and I just like couldn’t get dropped and stuff…So I quit and then gave like other sports a go and stuff” – FSM2, Gwent

Yn cefnogi’r sentiment yma mae’r enghraifft a roddodd un cyfranogwr o’i brofiad o adael ymrwymiadau amser trwm camp benodol, a’r teimlad braf wedyn o fod wedi ‘adennill amser' mewn ffordd: 

“Now I’ve got like thirteen hours a week now, just doing nothing and things I want to do. That’s a lot of time back. I almost feel like I’ve enjoyed my time off, I feel like I’ve, in some ways, got like my life back and I can still do other sports” – FSM1, South-West

Cyfeiriodd y rhan fwyaf a siaradodd am flaenoriaethau cystadleuol chwaraeon eraill at wrthdaro yn eu hamserlenni, naill ai ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer gemau / cystadlaethau. Mae eraill yn y cyfamser yn nodi bod eu hymrwymiadau chwaraeon eraill yn atal yr oriau hyfforddi ychwanegol sydd eu hangen i wneud cynnydd ar y llwybr.

I’ve got [sport] on a Monday as well. So, I’d have to like probably stop school [sport] because that’s also on a Monday…I’d not go to training as much as I could have and go to [other sport] more and train harder there” – FSM4, Central South

Roedd y cyfranogwyr yn sôn yn aml hefyd am yr anhawster i ddewis rhwng sawl math o chwaraeon yr oedd ganddynt ddiddordeb ynddynt ac yr oeddent yn eu mwynhau ar hyn o bryd.

“When I was like younger, I literally didn’t want to do anything but [sport], like it was everything. But then I did start to get into [other sport] a bit more and sometimes when you get into a different sport, it kind of drifts you away from another…Because it’s like, you get more interested in that sport or more interested in it…and it’s just a bit difficult” – FSM2, Gwent

Soniodd y cyfranogwyr hefyd am y ffactorau a arweiniodd at ddewis un gamp dros y llall, pe bai’n rhaid iddynt, gan nodi y byddent yn dewis eu “main sport”. Siaradodd y cyfranogwyr am well “connection” oherwydd perthynas hirach gyda champau eraill (drwy ddechrau’r gamp yn iau), grwpiau cyfeillgarwch sydd wedi’u sefydlu mewn campau eraill, mwynhau [hyfforddiant] chwaraeon eraill yn fwy, a chwaraeon yn cael eu hystyried yn “bigger” wrth gyfrannu at ddosbarthu camp fel eu “main sport”. Soniodd eraill am sut roedd dewis a chyfranogiad eu rhieni mewn chwaraeon eraill yn eu harwain i lawr yr un llwybr.

“My parents are more involved in them, like they sort of enjoy them like a bit more sort of thing” – FSM2, North Wales

Er bod rhai cyfranogwyr yn ymwybodol o’r risg y byddai anaf mewn un gamp yn cael effaith andwyol ar eu cyfranogiad a’u datblygiad mewn camp(au) eraill, roedd eraill yn teimlo ymdeimlad o deyrngarwch i gyd-chwaraewyr yn y chwaraeon eraill yr oeddent yn cymryd rhan ynddynt. 

“Because I’ve got [three sports].  So sometimes I’ve got like matches all on the same day and I don’t want to let people down, by not going…But you’ve got to do what you’ve got to do sometimes” – FSM2, Gwent

Roedd ymdeimlad clir hefyd o ddylanwad allanol ar gyfranogwyr yn gwneud y dewisiadau hyn, nid yn unig o ran cyfranogiad, ond o ran yr angen am ddewis chwaraeon. Dywedwyd bod athrawon Addysg Gorfforol yn cystadlu i gael disgyblion i gymryd rhan yn y camp(au) oedd o ddiddordeb arbennig iddynt hwy, a chyfeiriwyd at hyfforddwyr fel rhai oedd yn gwthio am arbenigo mewn camp(au) cyn bod y cyfranogwyr yn barod.

“That’s, that’s the thing, my coach is always on about it…I don’t even know why she’s on about it, but she always goes on about ‘you’ve got to choose a sport at some point’…’And you’re going to have to choose a sport’. I’m like, I’m not choosing the sport yet, though” – FSM1, South-West

Diddordebau ac Ymrwymiadau Eraill

Soniodd y cyfranogwyr hefyd am ddiddordebau ac ymrwymiadau y tu allan i addysg a chwaraeon a allai amharu ar ddal ati a’u datblygiad ar hyd llwybr chwaraeon cydnabyddedig. Roedd cyfranogwyr hŷn yn aml yn cyfeirio at swyddi rhan amser fel rhywbeth sy’n rhwystro hyfforddiant a chystadleuaeth. Soniodd eraill am gyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi yr oeddent eisiau manteisio arnynt, a oedd yn aml yn gwrthdaro â’u cyfranogiad mewn chwaraeon.

Fodd bynnag, roedd gan gyfranogwyr eraill resymau mwy cymdeithasol fel rhwystrau i’w cyfranogiad a’u datblygiad – er enghraifft, treulio amser gyda ffrindiau y tu allan i chwaraeon a gwyliau teuluol – a gwelwyd pob un ohonynt yn rhwystr i hyfforddiant ac, o ganlyniad, datblygiad yn y gamp a’r llwybr chwaraeon. Mynegodd rhai cyfranogwyr y tynnu’n ôl hwn oddi wrth chwaraeon a thuag at y cymdeithasol fel “fear of missing out”. 

“It’s a lot. Like sometimes you don’t really want to do it because it’s just, you like miss out on like quite a lot of things” – FSM1, Central South

Datrysiadau a Nodwyd gan y Cyfranogwyr i ‘Flaenoriaethau Cystadleuol’

Er bod presenoldeb blaenoriaethau cystadleuol yn anochel i ryw raddau, soniodd y cyfranogwyr am sawl ‘datrysiad’ a allai helpu i gydbwyso neu hyd yn oed liniaru’r canlyniadau. I ddechrau, cyfeiriodd yr athletwyr at yr angen am i glybiau, chwaraeon ac ysgolion weithio gyda hwy i helpu i reoli a blaenoriaethu'r ymrwymiadau cystadleuol oedd ganddynt, a'u helpu i geisio dod o hyd i ddatrysiadau i gyflawni cymaint â phosibl yn eu bywydau ifanc. Roedd cydnabyddiaeth hefyd y dylai clybiau, chwaraeon ac ysgolion ddangos mwy o empathi yn y cyswllt hwn, gan weithio gyda phobl ifanc i ddeall yr heriau maent yn eu hwynebu a dod o hyd i'r datrysiadau gorau posibl i gydbwyso eu hymrwymiadau a gwneud y gorau o'u perfformiad ym mhob maes mewn bywyd.

Cyfeiriodd y cyfranogwyr hefyd at yr angen am arweiniad ar wyddoniaeth cydbwyso ac arbenigo. Er bod y cyfranogwyr yn cydnabod manteision samplu llawer o chwaraeon yn eu blynyddoedd iau a chynnal diddordeb mewn nifer dethol o chwaraeon wrth iddynt fynd yn hŷn, buont hefyd yn siarad am geisio cyngor arbenigol a dibynadwy ynghylch pryd i arbenigo a chanolbwyntio eu sylw ar nifer llai o chwaraeon. 

Yn olaf, roedd y cyfranogwyr yn sôn yn aml hefyd am y rôl hanfodol y gall ysgolion ei chwarae wrth hwyluso eu hymrwymiadau chwaraeon. Wrth siarad am yr anhawster wrth gydbwyso blaenoriaethau addysg a chwaraeon, awgrymodd y cyfranogwyr y gallai ysgolion ddarparu amseroedd penodol o fewn eu hamserlenni ar gyfer gwaith cartref / dysgu hunangyfeiriol.