Skip to main content

6. Atodiadau

Atodiad 1. Tabl o themâu, is-themâu a chodau cyfranogiad a chynnydd ar hyd y llwybr chwaraeon cydnabyddedig.            

Thema

Is-thema 

Cod 

Blaenoriaethau CystadleuolAddysg     Diffyg amser ar gyfer gwaith ysgol 
Blaenoriaethu addysg dros chwaraeon 
Rheini’n dylanwadu ar flaenoriaethu addysg     
Athrawon yn cystadlu am sylw
Ymrwymiadau ChwaraeonDyhead am sawl diddordeb chwaraeon     
Gwrthdaro rhwng amserlenni chwaraeon 
Anodd dewis rhwng gwahanol chwaraeon 
Gwell cyswllt mewn chwaraeon eraill 
Sefydlu cyfeillgarwch mewn chwaraeon eraill
Rhieni’n ffafrio chwaraeon eraill 
Risg gynyddol o anaf mewn chwaraeon eraill 
Hyfforddwyr yn cystadlu am sylw 
Diddordebau ac Ymrwymiadau EraillSwyddi rhan amser 
Gwirfoddoli / hyfforddi 
Ymrwymiadau teuluol 
Ofn colli rhywbeth 
Heriau LogistaiddTrafnidiaethPellter o gyfleuster / cyfle         
Effaith trafnidiaeth ar rieni 
Dulliau eraill o drafnidiaeth 
Pryderon diogelwch gyda dulliau eraill o drafnidiaeth         
Logisteg teithio yn amharu       
Anallu i elwa o gyfleoedd                   
AriannolYmwybyddiaeth ddwys o ofynion ariannol   
Baich ariannol ar deulu 
Absenoldeb Sgiliau YmdopiFfrwyno Cymhelliant ac YmrwymiadCymhelliant ac ymrwymiad ddim yn elfennau i’w trafod 
Angen ymrwymiad yn arbennig ar ‘ddyddiau gwael’ 
Diffyg cymhelliant / ymrwymiad yn gorfodi gadael camp       
Delio â Phwysau  Ddim yn hoffi’r teimlad o bwysau 
Pwysau yn effeithio ar berfformiad athletaidd 
Pwysau yn y diwedd yn achosi gadael camp       
Ffynonellau amrywiol o bwysau 
Delio â Pherfformiad Gwael Yr uchelfannau a’r iselfannau a brofir mewn cyfnod byr o amser 
Diffyg gwelliant ymddangosiadol 
Canlyniadau / perfformiad siomedig 
Cymharu ag athletwyr eraill     
Delio â Gofynion Corfforol Cydbwyso ymrwymiadau amrywiol 
Cynnydd graddol mewn gofynion corfforol 
Effaith yr anaf     
Canfyddiadau AnffafriolBeth Gall y Gamp ei GynnigStatws y gamp     
Dyfodol ansicr yn y gamp       
Diffyg cyfleoedd gyrfaol     
Ymwneud i hwyluso cyfranogiad mewn chwaraeon eraill         
Canfyddiadau LlwybrHeriau ymddangosiadol
Ymrwymiadau amser ymddangosiadol 
‘Dwysedd’ ymddangosiadol y llwybr 
Cyfyngiadau oedran ymddangosiadol 
Ymwybyddiaeth o LwybrGwybodaeth am y llwybr   
Diffyg ymwybyddiaeth o’r llwybr – camau 
Diffyg ymwybyddiaeth o’r llwybr – manylion 
Diffyg gwybodaeth wedi’i darparu am y llwybr 
Cymharu / rhagdybio am lwybrau camp(au) eraill           
Diffyg cyhoeddusrwydd / trafod llwybr       
Profiadau Annymunol [Diffyg] MwynhadDim diben cymryd rhan mewn chwaraeon heb fwynhad 
 Ffactorau sy’n cyfrannu at ddiffyg mwynhad 
 Canlyniadau amrywiol diffyg mwynhad       
 Diwylliant ChwaraeonTeimladau o ynysu mewn rhai chwaraeon     
 Diffyg dealltwriaeth y tu allan i chwaraeon 
 Gorddibyniaeth ar gystadlu   
 Dwysedd cynyddol y llwybr 
 Yr Amgylchedd FfisegolDiffyg cyfleusterau lleol 
 Argaeledd gwael o ran cyfleusterau 
 Cyfleusterau annigonol 
 Diffyg offer penodol         
 Perthnasoedd PersonolDiffyg cyfeillgarwch / cydlyniant cymdeithasol 
 Gormod o amrywiad o ran oedran / gallu 
 Perthynas hyfforddwr – athletwr wael
 Perthynas hyfforddwr – rhiant wael 
 Nodweddion ac ymddygiadau anffafriol hyfforddwr 
 Diddordebau rhieni 

Atodiad 2. Rhestr estynedig o ystyriaethau. 

Profiadau Annymunol 

[Diffyg Mwynhad] / Diwylliant Chwaraeon / Yr Amgylchedd Ffisegol / Perthnasoedd Personol

  • Pa mor feddwl agored ydych chi am y dull cyflwyno?
  • Oes gennych chi'r cydbwysedd cywir o hwyl, hyfforddiant a chyfleoedd cystadlu?
  • Oes gennych chi wybodaeth ynglŷn â pha fath o weithgaredd a phrofiadau y mae pobl ifanc â photensial chwaraeon eisiau cymryd rhan ynddynt ac y maent fwyaf tebygol o ymateb iddynt?
  • Beth yw'r profiadau dysgu allweddol rydych chi'n ceisio eu darparu drwy eich rhaglen gystadlu a sut mae eich rhaglen gystadlu'n cefnogi datblygiad?
  • Ydi anghenion pobl ifanc yn ganolog i'ch darpariaeth?
  • Ydych chi’n mynd ati i ystyried tueddiadau diwylliannol cenedlaethau – e.e., natur o ysbryd rhydd a mwy o ffocws ar berthnasoedd personol?
  • Ydi'r holl randdeiliaid yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir o ran profiad athletwyr?
  • Sut gallwch chi greu amgylchedd ar draws eich llwybr lle mae athletwyr yn teimlo y gallant siarad yn agored am sut maent yn teimlo / heriau maent yn eu hwynebu, heb ofni barn?
  • Ydych chi'n meithrin “ymdeimlad cymunedol” o fewn amgylchedd chwaraeon ac ar draws y diwylliant chwaraeon?
  • Ydych chi'n rhoi gwybodaeth i rieni / teuluoedd / y rhwydwaith cefnogi am sut i wella'r profiad chwaraeon i'w pobl ifanc?

Blaenoriaethau Cystadleuol

Addysg / Ymrwymiadau Chwaraeon / Diddordebau ac Ymrwymiadau Eraill

  • Pa mor hyblyg yw eich darpariaeth yn seiliedig ar anghenion gwahanol athletwyr a gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd?
  • Ydi eich hyfforddwyr a'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn dangos empathi tuag at yr heriau a'r cyfrifoldebau sydd gan bobl ifanc y tu allan i'w camp?
  • Ydych chi'n gweithio gydag athletwyr ac addysgwyr i ddeall yr heriau amrywiol maent yn eu hwynebu, a sut gall camp(au) eu helpu i reoli'r heriau hynny orau?
  • Oes gan eich llwybr perfformiad a'ch rhaglen bwyntiau mynediad / gadael niferus i ddarparu ar gyfer y gwahanol lwybrau y gall athletwyr eu cymryd wrth iddynt wneud cynnydd ar eu siwrnai chwaraeon ac addysgol?
  • Ydi eich Llwybrau yn ystyried cynnydd heb fod yn llinellol? Sut ydych chi'n creu gofod ar gyfer elfennau allanol?
  • Oes risgiau posibl yn ymwneud â dulliau dethol / adnabod presennol wedi'u cydnabod a'u rheoli?

Heriau Logistaidd

Trafnidiaeth / Ariannol

  • Ydych chi'n mynd ati i ystyried hygyrchedd cyfleoedd i oresgyn heriau logistaidd?
  • Ydych chi'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i athletwyr / rhieni / addysgwyr i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd hygyrch?
  • Ydych chi'n gwerthuso'n barhaus effaith anghydraddoldeb mynediad at lwybr / cynnydd a'r goblygiadau ar gyfer methu tyfu ac arallgyfeirio eich cronfa dalent?

Absenoldeb Sgiliau Ymdopi 

Ffrwyno Cymhelliant ac Ymrwymiad / Delio â Phwysau / Delio â Pherfformiad Gwael / Delio â Gofynion Corfforol

  • Ydi eich llwybrau, eich sesiynau a'ch hyfforddwyr yn ceisio datblygu'r person a'i sgiliau ehangach, yn ogystal â pherfformiad?
  • Pa gyfleoedd a heriau y gellir eu creu o fewn amgylchedd diogel sy'n galluogi athletwyr i ddatblygu a chefnogi eu cymhelliant tuag at hyfforddi a chystadlu?
  • Oes gwybodaeth ar gael i athletwyr / hyfforddwyr / rhieni i'w helpu i ymdopi â digwyddiadau dan bwysau a rheoli anawsterau posibl?
  • Beth yw'r ffordd orau i chi ddylunio a rheoli profiadau cystadleuol i sicrhau'r twf gorau posibl a chynyddu dealltwriaeth o botensial athletwyr?
  • Sut gallech chi dracio cynnydd a chyfraddau dysgu (potensial yn y dyfodol) yn hytrach na mesurau absoliwt neu fesurau perfformiad (perfformiad nawr)?
  • Sut gallech chi fynd ati i weithio gyda mwy o athletwyr dros gyfnodau estynedig er mwyn deall potensial athletwyr yn well?

Canfyddiadau Anffafriol

Beth Gall y Gamp Ei Gynnig / Ymwybyddiaeth o Lwybr / Canfyddiad o Lwybr 

  • Yn eich barn chi, beth yw'r canfyddiad allanol o'ch llwybr chwaraeon a pherfformiad?
  • Pa mor hawdd yw eich llwybr i’w ddeall i’r rhai sy’n newydd i gymuned y gamp?
  • Ydi’r holl wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’ch llwybr ar gael yn hawdd drwy ddulliau amrywiol a phriodol ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd (e.e., athletwyr, rhieni a hyfforddwyr)?