Skip to main content

Dadansoddi Perfformiad

  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru
  3. Dadansoddi Perfformiad

Mae ein tîm o Ddadansoddwyr Perfformiad yn darparu gwybodaeth wrthrychol i hyfforddwyr ac athletwyr sy’n eu helpu i ddeall perfformiad, er mwyn gwella adborth a gwneud penderfyniadau.  

Mae’r data gwrthrychol hyn yn cynnwys ystadegau a fideos o hyfforddiant a chystadlaethau.  

Nod ein dadansoddwyr ni yw cwestiynu, adlewyrchu a gwerthuso perfformiadau, addysgu’r amgylchedd perfformiad, a chefnogi pobl sy’n gwneud penderfyniadau. 

Mae Dadansoddi Perfformiad yn bwysig mewn chwaraeon oherwydd lefel y perfformiad sy’n gallu cael ei alw’n ôl yn fanwl gywir – boed dactegau, technegau, symudiadau neu dueddiadau. 

Meysydd gwaith

Fel dadansoddwyr, rydyn ni’n gweithio drwy gylch darparu sy’n cael ei ailadrodd yn gyson i sicrhau’r effaith orau posib: 

  • Deall perfformiad – adnabod gofynion a dangosyddion perfformiad allweddol y gamp
  • Monitro hyfforddiant – casglu a monitro data o ddydd i ddydd
  • Cyn Cystadlu – Dadansoddi gwrthwynebwyr, dewis a montages
  • Wrth Gystadlu – adborth fideo a dadansoddiad technegol
  • Dadansoddiad ar ôl digwyddiad – adrodd yn ôl ar ddadansoddiad technegol a thactegol

Mae’r holl ddata sy’n cael eu casglu’n cael eu troi’n weledol gan ein dadansoddwyr er mwyn sicrhau eu bod yn helpu yn hytrach nag yn drysu penderfyniadau a gallant gael eu defnyddio i ragweld perfformiad yn y dyfodol hyd yn oed. 

Ein henw da

Mae ein dadansoddwyr ni i gyd wedi cael eu hachredu gan ISPAS (y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon) ac mae ganddynt dystysgrifau cynghorydd UKAD diweddar. Mae aelodau’r tîm wedi cael eu dewis ar gyfer swyddogaethau mewn cystadlaethau mawr, gan gynnwys Gemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd, a Phencampwriaethau Ewropeaidd. 

Gweithio’n gyfannol

Mae’r tîm Dadansoddi Perfformiad yn cydweithio â’r holl ddisgyblaethau. Mae’r holl ymarferwyr yn edrych ar fideos. Mae hyn yn galluogi cyfathrebu cadarn rhwng ymarferwyr gan sicrhau dull cyfannol o weithredu wrth wella perfformiad. 

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Michael Jenkins: Pan fydd un drws yn cau, gall un arall agor i gamp hollol newydd

Roedd Michael yn 13 oed pan ddywedodd meddygon wrtho y byddai'n annoeth parhau i chwarae rygbi.

Darllen Mwy

Stori Mis Hanes LHDT+: Profiadau athletwyr LHDT+ mewn chwaraeon yng Nghymru

Mae angen gwneud mwy o hyd mewn chwaraeon ar gyfer athletwyr LHDT+.

Darllen Mwy

Ben Davies – manteision dull aml-chwaraeon o weithredu

Mae Ben Davies yn rhan o garfan Cymru sydd ar drywydd gogoniant Cwpan y Byd allan yn Qatar, ond mae…

Darllen Mwy