Skip to main content

Ffisioleg Perfformiad

Ffisioleg chwaraeon yw’r wyddoniaeth gysylltiedig â sut mae ymarfer corff yn newid strwythur a swyddogaeth y corff. Mae ffisiolegwyr chwaraeon angen dealltwriaeth dda o ofynion ffisiolegol perfformiad chwaraeon, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am sut mae’r corff yn ymateb ac yn addasu wrth gael ei roi dan straen corfforol acíwt a chronig. Defnyddir yr wybodaeth yma i ddatblygu trefn hyfforddi deilwredig ar gyfer athletwyr elitaidd, i sicrhau’r perfformiad corfforol gorau posib.   

Mae ffisiolegwyr Chwaraeon Cymru yn gweithio gydag athletwyr perfformiad uchel a’u hyfforddwyr, fel rhan o dîm cefnogi amlddisgyblaethol, i ddarparu gwybodaeth a chyngor ymarferol a pherthnasol mewn lleoliadau amrywiol, o’r labordy ymchwil i’r maes, wrth iddynt hyfforddi ac mewn gwersylloedd cyn cystadlu a digwyddiadau cystadleuol. 

Meysydd gwaith  

  • Profion ffisiolegol a gynhelir naill ai mewn labordy gwyddoniaeth chwaraeon neu yn y maes, yn ôl anghenion yr athletwyr
  • Presgripsiwn hyfforddi, cyfnodoli a monitro a wneir mewn cydweithrediad â hyfforddwyr ac athletwyr
  • Monitro ffisiolegol parhaus ar ymateb yr athletwr i raglenni hyfforddi a chystadlu
  • Darparu data gwrthrychol fel sail i wneud penderfyniadau gan hyfforddwyr ac athletwyr
  • Addysg hyfforddwyr ac athletwyr ar gyfer y perfformiad ffisiolegol gorau posib
  • Ymyriadau ychwanegol i wella gallu athletwr i ymdopi â heriau hinsawdd, altitiwd a theithio pellter hir.

Ein labordy gwyddoniaeth chwaraeon ar y safle  

Yn Ardal Perfformiad Uchel Athrofa Chwaraeon Cymru, mae gan ein labordy sydd wedi’i hachredu gan BASES (Cymdeithas Prydain ar gyfer Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer) amrywiaeth eang o offer ar gyfer asesiadau ffisiolegol a metabolaidd oddi mewn i amgylchedd amlchwaraeon.   

Ein henw da

Mae holl aelodau Tîm Ffisioleg Chwaraeon Cymru wedi’u hachredu neu’n gweithio tuag at achrediad fel gwyddonwyr siartredig gyda BASES (Gwyddonydd Siartredig BASES). Mae gan holl ymarferwyr Athrofa Chwaraeon Cymru dystysgrifau cynghorydd UKAD diweddar. 

Gweithio’n gyfannol

Mae’r tîm Seicoleg Perfformiad yn cydweithio gyda’r holl ddisgyblaethau yn yr adran Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon, gan sicrhau bod dull cyfannol o weithredu’n cael ei roi ar waith gyda phob athletwr. 

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Michael Jenkins: Pan fydd un drws yn cau, gall un arall agor i gamp hollol newydd

Roedd Michael yn 13 oed pan ddywedodd meddygon wrtho y byddai'n annoeth parhau i chwarae rygbi.

Darllen Mwy

Stori Mis Hanes LHDT+: Profiadau athletwyr LHDT+ mewn chwaraeon yng Nghymru

Mae angen gwneud mwy o hyd mewn chwaraeon ar gyfer athletwyr LHDT+.

Darllen Mwy

Ben Davies – manteision dull aml-chwaraeon o weithredu

Mae Ben Davies yn rhan o garfan Cymru sydd ar drywydd gogoniant Cwpan y Byd allan yn Qatar, ond mae…

Darllen Mwy