Skip to main content

Ffisiotherapi Perfformiad

  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru
  3. Ffisiotherapi Perfformiad

Mae ein Ffisiotherapyddion Chwaraeon yn rhan allweddol o baratoadau athletwr. Maent yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach i leihau’r anaf o risg, sicrhau’r perfformiad gorau a gwella gallu athletwr i hyfforddi a chystadlu.  

Mae eu gwybodaeth am reoli anafiadau’n cael ei arwain gan ddeallusrwydd a’i gyflwyno gyda chreadigrwydd. Eu pwrpas yw sicrhau bod yr atebion yn cyd-fynd â gofynion pwrpasol y gamp a’r athletwr.  

Mae ein Ffisiotherapyddion yn ceisio cyflwyno gwasanaeth cefnogi perfformiad eithriadol i athletwyr Cymru a Phrydain. Drwy ddull integredig a chyfannol o weithredu i gefnogi athletwyr, gallwn fabwysiadu dull person yn gyntaf o weithredu sy’n cyd-fynd â gwerthoedd craidd yr Athrofa.  

Meysydd gwaith

Mae ein diben cyffredinol yn seiliedig ar ein gallu i feithrin perthnasoedd sy’n galluogi i ni gysylltu’n well â’r campau, yr hyfforddwyr a’r athletwyr.  

Mae hyn yn galluogi i ni gyflawni ein gwerthoedd craidd: 

  • Paratoi’n Gorfforol

Mae Ffisiotherapyddion yn gweithio’n agos gyda hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr er mwyn proffilio athletwyr ac i gael gwybodaeth am eu gallu o ran cryfder a symudiad. Mae hyn yn cael hwb gan amgylchedd agored sy’n hybu gweithio integredig.  

  • Rheoli anafiadau a lleihau risg

Ochr yn ochr â phroffilio, bydd Ffisiotherapyddion yn adlewyrchu ar ddata cyfredol a blaenorol am anafiadau ym mhob camp. Hefyd byddant yn adlewyrchu ar fonitro dyddiol ar athletwyr er mwyn gallu canfod tueddiad o anaf a pharatoi athletwyr i leihau risg. 

  • Os oes anafiadau, bydd ein Ffisiotherapyddion yn asesu’n glinigol, yn rhoi diagnosis ac yn cynllunio strategaethau adfer arloesol fel bod yr athletwyr yn gallu dychwelyd at berfformio’n llawn.

 

Ein henw da

Mae ein tîm Ffisiotherapi wedi cymryd rhan mewn gemau aml-chwaraeon mawr, gan gynnwys Gemau Olympaidd a Chymanwlad a Phencampwriaethau Byd. Maent yn glinigwyr hynod brofiadol sy’n deall beth sydd ei angen i berfformio ar y lefel uchaf.  

Mae ein Ffisiotherapyddion i gyd yn aelodau o’r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig ac wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.  

Gweithio’n gyfannol

Mae ein Ffisiotherapyddion yn cydweithio â’r holl ddisgyblaethau yn yr adran Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon, gan sicrhau dull cyfannol o weithredu yn gysylltiedig â phob athletwr.  

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Sêr Cwpan Rygbi'r Byd Cymru a'u clybiau rygbi cymunedol

Dyma glybiau cymunedol aelodau carfan Cwpan Rygbi'r Byd Cymru sydd wedi cael cefnogaeth y Loteri Genedlaethol.

Darllen Mwy