Skip to main content

Ffordd o Fyw yn Perfformio

  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru
  3. Ffordd o Fyw yn Perfformio

Mae ein tîm penodol o gynghorwyr Ffordd o Fyw yn Perfformio yn gweithio gydag athletwyr i gefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol ochr yn ochr â’u gyrfaoedd chwaraeon cystadleuol. 

Maent yn cefnogi athletwyr perfformiad uchel y genedl i ddatblygu’r sgiliau perthnasol i reoli a chydbwyso ymrwymiadau perfformiad yn rhagweithiol gyda gweithgareddau eraill a gofynion fel astudiaethau, gwaith neu fywyd teuluol. 

Gan gydweithio â Chyfarwyddwyr Perfformiad, hyfforddwyr, rhieni a chydymarferwyr yn yr adran Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon, ein dull o weithredu yw lleihau pryderon, gwrthdaro ac ymyriadau posib – sy’n gallu bod yn niweidiol i gyd i fywydau personol a pherfformiad. 

Meysydd gwaith

• Mynd ati’n rhagweithiol i gynnwys athletwyr mewn cynllunio eu bywyd yn y dyfodol a datblygu eu gyrfa, gyda phwyslais ar ymyriadau cynnar a datblygiad personol a phroffesiynol parhaus 

• Annog a hwyluso dyheadau gyrfa deuol gyda rheolaeth effeithiol ar gydbwysedd rhwng ymrwymiadau chwaraeon ac ymrwymiadau eraill, i warchod potensial perfformio 

• Hybu pwysigrwydd ac effaith athletwyr yn creu a datblygu hunaniaeth a diddordebau ehangach y tu hwnt i’w camp i gynnal lles personol 

• Darparu cefnogaeth ac addysg gyda chanfod a rheoli’r cydbwysedd personol optimal ar gyfer gofynion sy’n gwrthdaro – o addysg, cyflogaeth, teulu, ariannol ac ati i warchod potensial perfformio 

• Cefnogi athletwyr gyda’u datblygiad personol a datblygu sgiliau trosglwyddadwy gydol oes

• Cefnogi athletwyr o bersbectif ffordd o fyw wrth iddynt symud i ac ymlaen o raglen perfformiad uchel, gan gynnwys adleoli, addysg, cynnydd ar hyd y llwybr a chymorth gadael ar gyfer athletwyr sy’n gadael eu rhaglenni

• Darparu gofod diogel, diduedd ac, os yw hynny’n briodol, cyfrinachol i gefnogi athletwyr – atgyfeirio a chyfeirio ymlaen fel sy’n briodol i ddiogelu lles a llesiant athletwr 

• Gweithio mewn partneriaeth ag athletwyr a rhanddeiliaid perfformiad uchel i gefnogi ac annog diwylliant sy’n creu perfformiad da ac yn gofalu’n gyfrifol am ei bobl

 

Ein henw da

Mae ein Cynghorwyr Ffordd o Fyw yn Perfformio i gyd yn ymarferwyr cymwys Lefel 7 ILM ac ôl-radd. Mae gan holl ymarferwyr Athrofa Chwaraeon Cymru dystysgrifau cynghorydd UKAD diweddar.  

Maent yn uchel eu parch yn y diwydiant ac wedi cael eu dewis ar gyfer swyddogaethau gyda Team GB mewn cystadlaethau mawr, gan gynnwys Gemau Olympaidd yr Haf a’r Gaeaf a Phencampwriaethau Ewrop.  

Gweithio’n hanesyddol

The Performance Lifestyle team works together with all disciplines within the Sports Science and Medicine department, ensuring a holistic approach around each athlete. 

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Michael Jenkins: Pan fydd un drws yn cau, gall un arall agor i gamp hollol newydd

Roedd Michael yn 13 oed pan ddywedodd meddygon wrtho y byddai'n annoeth parhau i chwarae rygbi.

Darllen Mwy

Stori Mis Hanes LHDT+: Profiadau athletwyr LHDT+ mewn chwaraeon yng Nghymru

Mae angen gwneud mwy o hyd mewn chwaraeon ar gyfer athletwyr LHDT+.

Darllen Mwy

Ben Davies – manteision dull aml-chwaraeon o weithredu

Mae Ben Davies yn rhan o garfan Cymru sydd ar drywydd gogoniant Cwpan y Byd allan yn Qatar, ond mae…

Darllen Mwy