Skip to main content

Seicoleg Perfformiad

  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru
  3. Seicoleg Perfformiad

Mae gennym ni dîm penodol ac angerddol o Seicolegwyr Perfformiad sy’n gweithio gyda chwaraeon i alluogi athletwyr, hyfforddwyr a chyfarwyddwyr perfformiad i ffynnu yn eu hamgylcheddau hyfforddi a chystadlu.  

Cenhadaeth y tîm Seicoleg Perfformiad yw cefnogi ein chwaraeon allweddol i baratoi’n feddyliol er mwyn gallu rhoi’r perfformiad priodol ar yr amser priodol.  

Meysydd gwaith

Mae ein seicolegwyr yn gweithio mewn meysydd cefnogi penodol:

1. darparu Seicoleg Perfformiad rhagweithiol

Ein rôl yw cyflwyno cefnogaeth Seicoleg Perfformiad i athletwyr, hyfforddwyr a Chyfarwyddwyr Perfformiad oddi mewn i’n chwaraeon blaenoriaeth fel eu bod yn gallu ffynnu mewn amgylcheddau hyfforddi a chystadlu. 

Ymhlith y sgiliau a ddysgir fel rheol mae:  

  • Ymlacio
  • Delweddu
  • Paratoi ar gyfer cystadlu
  • Adolygu perfformiad a hyfforddi
  • Gosod nodau
  • Gallu i ganolbwyntio
  • Rheoli hunan-siarad

2. Diwylliant a chefnogaeth Sefydliadol

Ein rôl yw hwyluso creu amgylcheddau perfformiad seiliedig ar seicoleg sy’n datblygu’r person yn ogystal â’r perfformiwr i ffynnu.

3. Cefnogaeth llwybr iechyd a lles y meddwl

Ein rôl yw cefnogi lles athletwyr, hyfforddwyr a chyfarwyddwyr perfformiad yn bositif ac yn rhagweithiol a chyfeirio’n rhagweithiol ac yn briodol.

Ein henw da

Mae ein Seicolegwyr Perfformiad i gyd yn Siartredig gyda CPS ac yn seicolegwyr ymarferol sydd wedi’u cofrestru gyda HCPC. Mae gan holl ymarferwyr Athrofa Chwaraeon Cymru dystysgrifau cynghorwyr UKAD diweddar.  

Maent yn uchel iawn eu parch yn y diwydiant ac wedi cael eu dewis ar gyfer swyddogaethau mewn cystadlaethau mawr, gan gynnwys y Gemau Cymanwlad, Olympaidd a Pharalympaidd. 

Gweithio’n gyfannol

Mae’r tîm Seicoleg Perfformiad yn cydweithio â’r holl ddisgyblaethau yn yr adran Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon, gan sicrhau dull cyfannol o weithredu yn gysylltiedig â phob athletwr.

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy