Mae ein meddygon meddygaeth chwaraeon yn arbenigwyr ar reoli salwch cyffredinol ac agweddau meddygol ar anafiadau cyhyrysgerbydol, adfer, a pherfformiad.
Maent i gyd wedi cael hyfforddiant mewn delweddu uwch-sain diagnostig. Gan weithio’n agos gyda’n Ffisiotherapyddion a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach, eu nod yw sicrhau’r effaith orau bosib o reoli anafiadau, a sefydlu strategaethau i wella perfformiad gan leihau’r risg o anaf hefyd. Mae iechyd a lles athletwr, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn hollbwysig.