Skip to main content

10 camp anarferol y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 10 camp anarferol y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw yng Nghymru

Mae llawer o bobl ledled Cymru yn hoffi camp sydd ychydig yn llai prif ffrwd ac ychydig yn llai traddodiadol. Boed hynny oddi ar y grid, o dan y dŵr neu yn nyfnderoedd cudd llethrau Cymru, mae Chwaraeon Cymru yma i gefnogi eich clwb chwaraeon – dim ots pa mor wahanol neu ryfedd ydi eich camp.

Y llynedd, buddsoddodd Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru fwy na £4 miliwn mewn bron i 600 o glybiau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad. Mae'n cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 ar gyfer prosiectau yng Nghymrud drwy arian y Loteri Genedlaethol.

Dyma ein canllaw ni i ddeg o'r nifer camp unigryw y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw ledled Cymru a’r clybiau sydd wedi defnyddio cyllid Chwaraeon Cymru i gyflwyno prosiectau gwych.

Crwydro Ogofâu

Dychmygwch eich hun yn cropian drwy holltau, yn sgrialu ar dir serth ac yn hongian ar raffau a nawr ychwanegwch y ffaith eich bod o dan y ddaear. Os ydi hyn yn dal i swnio fel pe bai at eich dant chi, efallai y dylech chi roi cynnig ar grwydro ogofâu?

Yr United Caving Exploration Team yw'r clwb mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae ei aelodaeth wedi cynyddu'n aruthrol o 250% mewn dim ond dwy flynedd gyda'r criw sy’n crwydro ogofâu yn mwynhau gwaith tîm a mwy o hyder.

Er mwyn cadw aelodau newydd yn ddiogel, roedd angen bandiau garddwrn monitro ac offer tagio. Camodd Chwaraeon Cymru i'r adwy a rhoi help llaw gwerth £2248 iddyn nhw.

CYNGOR DOETH: Mae Cronfa Cymru Actif yn croesawu ceisiadau gan brosiectau sy'n defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o bobl.

Octowthio

Meddyliwch am bwll nofio ac wedyn ychwanegu cnap a ffon hoci. A dyna beth ydi Octowthio (neu hoci tanddwr).

Efallai nad ydych chi wedi clywed llawer am Octowthio ond mae Clwb Octowthio Penfro wedi bod yn weithredol ers 1989. Gyda thîm oedolion ac iau, mae un aelod (Nia Matthews) wedi'i dewis i chwarae i Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau'r Byd hyd yn oed.

Fel y gallwch chi ddychmygu, mae'r clwb angen offer a all fod yn ddrud. Gwnaeth y clwb gais i Gronfa Cymru Actif ac mae wedi cael help llaw gwerth bron i £4000.

Wedi'i leoli yn Sir Benfro a’r ardaloedd o amgylch lle mae lefelau uchel o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu'r clwb i brynu cit ac offer. Gall roi benthyg y cit i chwaraewyr nawr, gan leihau’r rhwystrau ariannol sy’n atal cymryd rhan.

CYNGOR DOETH: Rhowch amser i feddwl am yr hyn y bydd eich prosiect yn ei gyflawni a sut bydd o fudd i'ch clwb. Os ydych chi’n ansicr ynghylch a yw eich prosiect yn gymwys i gael cyllid, gall staff cyfeillgar Chwaraeon Cymru eich llywio chi i’r cyfeiriad cywir. Felly, llenwch y ffurflen ar-lein hawdd ac ewch amdani!

Pêl Korf

Efallai y bydd rhai yn dweud bod y gamp yma’n gymysgedd o bêl rwyd a phêl fasged. Fel pêl rwyd, dydych chi ddim yn cael driblo ac, yn union fel pêl fasged, mae pob chwaraewr yn cael saethu ac amddiffyn.

Mae Clwb Pêl Korf Abertawe sydd wedi’i sefydlu yn ddiweddar wedi denu bron i £1700 o arian o Gronfa Cymru Actif i logi lleoliad, cyrsiau hyfforddi, conau a pheli korf i'w helpu i sefydlu.

Yn flaenorol, yr unig glwb arall yn y ddinas oedd tîm Prifysgol Abertawe sydd ar gael i fyfyrwyr yn unig.

Mae'r clwb yn awyddus i fod yn hygyrch i bawb ac yn cynnig aelodaeth am bris is i bobl ddi-waith, pobl sy’n derbyn gostyngiad ar y dreth gyngor neu bobl sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol.

CYNGOR DOETH: Gwnewch gais am y cyllid gan feddwl yn y ffordd gywir. Meddyliwch am y manteision y gall eich clwb eu cynnig i'r gymuned a sut gallwch chi gynnig chwaraeon sy'n hygyrch i bawb. Wedyn, cynhwyswch hyn yn eich cais!

Gweithgareddau Tanddwr 

Os ydych chi ffansi mentro cymryd rhan mewn camp newydd, efallai yr hoffech chi feddwl am weithgaredd tanddwr. Mae deifio sgwba yn ffordd wych o feithrin diogelwch mewn dŵr - a meddyliwch am yr anturiaethau tanddwr y gallech eu cael.

Mae clybiau ledled Cymru yn darparu hyfforddiant a chymwysterau i ddeifwyr môr. Ond peidiwch â phoeni os ydi’r môr yn codi ofn arnoch chi braidd - mae Clwb Tanddwr Aberhonddu yn defnyddio pwll nofio Canolfan Hamdden Aberhonddu i ymarfer eu deifio.

Yn awyddus i wneud y gamp yn fwy deniadol i blant a merched, gwnaeth y clwb gais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yr haf diwethaf. Galluogodd grant o bron i £8500 iddyn nhw newid rhywfaint o'r offer trwm a beichus am offer llai ac ysgafnach.

CYNGOR DOETH: Ydi eich prosiect chi’n anelu at leihau anghydraddoldeb? Rhowch wybod i ni yn eich cais.

Sglefrfyrddio

Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng ollies a backside180? Ydyn, rydyn ni’n siarad am sglefrfyrddio. Ac os ydych chi eisiau cael gwefr ar fwrdd, gallwch fynd i'r nifer cynyddol o barciau sglefrio ledled Cymru.

Syniad Alan Cains oedd Parc Sglefrio No Comply yng Nghasnewydd. Nod Alan yw gwella a chreu parc sglefrio a hybiau sglefrio newydd yn y ddinas. Ond roedd angen cyllid i adeiladu'r cyfleuster.

Ar ôl gwneud cais i Chwaraeon Cymru, derbyniodd fwy na £31,000 o Gronfa Cymru Actif a ariannodd tua 80% o gost yr adeiladu ac, yn ôl Alan, “gwneud popeth yn bosibl”.

Nawr mae’n gweithio gydag ystod eang o ganolfannau ieuenctid a chymunedol gan gynnwys grwpiau Positive Futures o bobl ifanc sydd dan anfantais ac wedi’u gwahardd o’r ysgol. Mae’n cynnal sesiynau queer yn ogystal â sesiynau hamddenol, tawelach, cyfeillgar i awtistiaeth. Mae hefyd yn cynnig sglefrio wedi’i addasu i unigolion a grwpiau ag anableddau.

CYNGOR DOETH: Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad ydi Chwaraeon Cymru yn cefnogi eich camp chi. Roedd Alan bob amser yn ystyried sglefrfyrddio fel ffordd o fyw yn hytrach na champ - a chafodd ei synnu o ddarganfod bod y prosiect yn gymwys i gael cyllid.

Pêl Droed Americanaidd

Os yw'n well gennych chi efelychu'r Chicago Bears a'r Dallas Cowboys a mynd am y touchdown, wel Pêl Droed Americanaidd ydi’r gamp i chi. Camp egni uchel sy’n cynnwys llawer iawn o waith tîm, mae’n opsiwn gwych os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol.

Mae’r South Wales Warriors, yr unig dîm Pêl Droed Americanaidd llawn yng Nghymru, wedi dechrau Flag - ffurf ddigyswllt ar y gamp i blant a phobl ifanc. Diolch i fwy na £12,000 o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, mae’r clwb wedi buddsoddi mewn cit ac offer fel bod y chwaraewyr yn gallu mwynhau’r gamp ar y cae heb fynd i’w poced o gwbl. 

CYNGOR DOETH: Os ydych chi eisiau prynu offer sy'n galluogi i fwy o bobl gymryd rhan yn eich camp, gwnewch gais!

Pêl Osgoi

Gan barhau â thema'r Unol Daleithiau, rydyn ni’n symud at bêl osgoi. Wedi’i gwneud yn enwog gan y ffilm gyda Vince Vaughn a Ben Stiller, mae’n gamp boblogaidd yn ysgolion y DU. Ond nawr yng Nghymru, mae'r clwb pêl osgoi iau cymunedol cyntaf erioed wedi'i sefydlu.

Felly os ydych chi eisiau osgoi, plymio, plygu a deifio, ewch i Glwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda sy’n croesawu plant rhwng saith a 15 oed. Mae cynlluniau i sefydlu cynghrair leol i ysgolion hyd yn oed.

Dim ond £2.50 y sesiwn mae’r clwb yn ei godi gan ei fod eisiau cynnig chwaraeon fforddiadwy tra mae teuluoedd yn wynebu heriau’r argyfwng costau byw. Mae hefyd yn credu y bydd y sesiynau’n helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau arwain, cyfathrebu a gwaith tîm. Cyflwynodd y clwb gais i Gronfa Cymru Actif a derbyn £778. Mae’r arian yma wedi cael ei fuddsoddi mewn prynu peli, llogi lleoliad, cyrsiau hyfforddi a hyfforddiant cymorth cyntaf.

Mwy o wybodaeth am sut mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu’r clwb.

CYNGOR DOETH: Datblygwch berthynas gyda thîm datblygu chwaraeon eich cyngor lleol a gofyn am ei gefnogaeth gyda'ch prosiect. Roedd gan Chwaraeon RhCT yr wybodaeth a'r cysylltiadau i helpu Clwb Pêl Osgoi Dreigiau'r Rhondda i gyflawni ei nodau.

Trampolinio

Ffansi herio disgyrchiant? Mae gennym ni jyst y peth. Mae trampolinio yn gamp effaith isel sy’n gwella cydbwysedd, hyblygrwydd a chydsymudiad. Ac mae’n llawer o hwyl hefyd.

Fe wnaeth Clwb Trampolinio Caerau ym Mhenarth, de Cymru gais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru y llynedd. Derbyniodd swm anhygoel o £10,000 o arian y Loteri Genedlaethol i brynu trampolîn o’r safon uchaf i helpu ei sêr i baratoi ar gyfer cystadlaethau ledled y DU. Mae'r cyllid hefyd wedi'i fuddsoddi mewn cyrsiau hyfforddi felly nawr fe all y clwb dyfu fwy fyth a chroesawu mwy fyth o aelodau.

CYNGOR DOETH: Angen yr offer gorau i ddenu aelodau newydd? Mae Cronfa Cymru Actif yn agored i geisiadau am offer sy'n helpu mwy o bobl i gymryd rhan.

Genweirio 

Yn syml, pysgota hefo gwialen a lein ydi genweirio. Meddyliwch am ddyddiau braf o haf o gosod yr abwyd, taflu’r wialen ac wedyn ei weindio i mewn. 

A’r alwad gan Gymdeithas Enweirio Silures yn ne Cymru yw Bocs tacl, nid Xbox, ac mae’r clwb yn gobeithio denu mwy o bobl at gamp genweirio gan ganolbwyntio ar deuluoedd a phobl ifanc. Wedi'i sefydlu gan ddau dad ifanc, nod y clwb yw nid yn unig annog pobl i fwynhau genweirio, ond hefyd y pleser o fod yn yr awyr agored yn un â byd natur.

Mae’r clwb yn cynnig gweithdai a hyfforddiant i blant mor ifanc â phum mlwydd oed – a gall plant dan 10 oed bysgota am ddim hyd yn oed. Mae'r clwb hefyd yn gweithio gyda grwpiau lleol ar brosiectau iechyd meddwl.

Y llynedd, cyflwynodd Cymdeithas Enweirio Silures gais i Gronfa Cymru Actif a chael grant o £2800. Mae wedi prynu offer iau ac mae’n cynnig cyrsiau hyfforddi i helpu i annog mwy o blant i gymryd rhan ym Mlaenau Gwent. Mae'r clwb nid yn unig eisiau datblygu'r gamp ond yn gobeithio lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

CYNGOR DOETH: Os yw eich clwb chi’n buddsoddi mewn offer, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis cynhyrchion hirhoedlog o ansawdd uchel. Mewn camp dechnegol fel genweirio, mae'n sicrhau profiad gwell.

Pêl feddal

Mae'n cael ei hystyried fel un o gampau gwych America, ond mewn gwirionedd mae pêl feddal yn cael ei chwarae ledled y byd. Mae’n debyg i bêl fas neu rownderi gyda dau dîm o ddeg chwaraewr. Mae peli meddal yn fwy na pheli bas a nod y gêm yw sgorio mwy o rediadau na'r tîm arall.

Mae RBI Cymru wedi'i leoli yn y Barri ac mae'n cynnig pêl fas a phêl feddal. Cafodd lwyddiant gwych y llynedd drwy sicrhau grant o £5000 o Gronfa Cymru Actif. Mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i gynnal sesiynau ar gyfer chwaraewyr â nam ar eu golwg..

Mae'n cadw ei sesiynau’n fforddiadwy i sicrhau bod y gamp yn hygyrch i blant lleol o bob cefndir.

CYNGOR DOETH: Ein cenhadaeth ni yw lleihau anghydraddoldeb fel bod pawb yn cael cyfle i fwynhau chwaraeon. Felly, os ydych chi’n gweithio gyda neu eisiau denu aelodau newydd sy’n cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon ar hyn o bryd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i ni yn eich cais.

Os hoffech chi wella’r cyfleusterau yn eich clwb, mae mwy o wybodaeth ar gael am Gronfa Cymru Actif.

Chwiliwch amdanom ni ar Twitter yma a Facebook yma.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy