Skip to main content

Gohirio, prisiau a phlastig – beth yw cyflwr caeau yng Nghymru?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gohirio, prisiau a phlastig – beth yw cyflwr caeau yng Nghymru?

Gyda’r gaeaf yn tynnu mwy fyth o sylw at gyflwr ein caeau chwaraeon ni, dyma Graham Thomas o Dai Sport a Paul Batcup o Chwaraeon Cymru i roi cipolwg i ni ar y darlun presennol yng Nghymru.

Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â chwarae pêl droed neu rygbi cymunedol yr adeg yma o’r flwyddyn yn deall y teimlad yn iawn.   

Mae’n tywallt y glaw a’r gwynt yn chwipio wrth i chi sbecian allan drwy ffenest yr ystafell fyw i asesu’r tywydd ar gyfer gêm y penwythnos, ac mae eich ffôn chi’n canu gyda neges: “wedi gohirio – welai di wythnos nesaf.”

I chwaraewyr ar lawr gwlad yng Nghymru, mae glaswellt yn broblem – yn enwedig mewn gwlad lle mae’r glaw yn cael ei ystyried fel hobi cenedlaethol. Mae cynghorau prin o arian sy’n cael eu gorfodi i wneud toriadau i’w cyllidebau’n ei chael yn amhosib bron fforddio’r un lefel o gynnal a chadw ar eu caeau lleol.

Er bod y cyfranogiad mewn llawer o ardaloedd yn cynyddu – mae Cynghrair Bêl Droed Merched a Genethod De Cymru newydd gofnodi cynnydd o 63 y cant yn y niferoedd sy’n chwarae yn ystod y tair blynedd ddiwethaf – mae cannoedd o gemau ledled Cymru’n cael eu canslo bob wythnos.

Er y gall y tywydd amrywio’n sylweddol mewn gwahanol rannau o’r wlad, felly hefyd yr amgylchiadau sy’n galluogi i bobl chwarae.           

Felly beth yw’r darlun ledled Cymru a sut bydd yn edrych yn y dyfodol?         

Ydi pyllau glaw y gaeaf yn straen real ar gyfranogiad?               

 

Yn ôl arolygon Chwaraeon Cymru, cynyddodd nifer y plant a chwaraeodd bêl droed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 53% yn 2015 i 63% yn 2018. Mae rygbi’r undeb yn gweld cynnydd tebyg, o 32% i 41%.*

Felly mae’n rhaid bod rhywbeth yn tanio’r dyhead i estyn am yr esgidiau chwarae.

Mae llawer o chwaraewyr wedi troi at ffurfiau mwy cymdeithasol ar bêl droed, gemau gyda thimau llai ar arwynebau artiffisial mewn canolfannau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol, fel Gôl yng Nghaerdydd neu Play Football yn Abertawe. Mae futsal yn gamp arall sy’n gweld twf parhaus. 

Mae eu niferoedd yn cynyddu ac maen nhw’n hwb i annog ffitrwydd a chyfranogiad, ond maen nhw’n llai cyffredin y tu allan i’r dinasoedd ac nid ydyn nhw’n cynnig opsiwn yn lle gemau clwb 11 bob ochr trefnus. 

Mae gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru darged o adeiladu 50 cae artiffisial (3G) newydd yng Nghymru erbyn 2024. Byddai hynny’n dyblu’r nifer presennol gan wneud cyfanswm o 100. Ond i osod hynny yn ei gyd-destun, mae’n cyfateb i gae ar gyfer pob 30,000 o bobl yng Nghymru.

Un clwb a fentrodd chwe blynedd yn ôl yw Penybont, clwb sydd wedi ffurfio drwy uno Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Bryntirion Athletig. 

Defnyddiwyd arian o werthu tir i adeiladu cae 3G yn eu cartref newydd, o’r enw SDM Glass Stadium, a nawr maen nhw wedi symud ymlaen i Uwch Gynghrair Cymru ac maen nhw ar lefel lle mae mwy o arwynebau 3G na glaswellt.       

“Dim ond un gêm ydyn ni wedi’i chanslo yn ystod y cyfnod yma ac roedd hynny pan oedd gennym ni dair troedfedd o eira,” meddai ysgrifennydd Penybont Mark Evans.

“Ar wahân i’r tîm cyntaf, mae’r cae’n cael ei ddefnyddio drwy’r amser drwy’r academi sydd gennym ni, a dau glwb iau o dan ein hymbarél – Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Bryntirion Athletig. Mae’n wych.                       

“Fel rhan o’r uno, roedd y cae yn un o’r pethau yr oedd rhaid ei ddatrys. Mae’n bur debyg bod gennym ni un o’r caeau glaswellt gorau yn yr ardal, ond roedd gennym ni dirmon llawn amser. Ond hyd yn oed bryd hynny, roedd rhai gemau’n cael eu gohirio, a sesiynau hyfforddi’n cael eu canslo, felly hwn oedd y llwybr gorau.”

Costiodd cae 3G Penybont £220,000 ac fe ddilynodd glybiau fel Tref y Barri a’rSeintiau Newydd, ond mae gan Evans rybudd i unrhyw glwb sy’n meddwl mai un gost unigol fydd hyn.               

“Ar ôl wyth mlynedd rhaid i chi ei newid. Nid un gost unigol yw hon. A hefyd rhaid i chi atgyweirio os oes rhywbeth yn mynd o’i le a dydi hynny ddim yn rhad.       

“Ond gyda’r cae glaswellt drws nesaf hyd yn oed, mae isafswm o £1,000 cyn bob tymor, i wneud yn siŵr ei fod yn addas.       

“Mae’r rhan fwyaf o glybiau yn Uwch Gynghrair Cymru wedi symud at gaeau 3G nawr. Mae llawer o dimau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ond dydi’r costau ddim yn rhad ar gyfer gosod a chynnal – yn enwedig i glybiau bach.”

Rhwng 2014 a 2016, cynyddodd nifer y caeau 3G maint llawn yng Nghymru o 29 i 45, gydag amcangyfrifon nawr bod y ffigur hwnnw oddeutu 60. 

Mae ailenedigaeth y cae artiffisial yn cael hwb gan bethau fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gyda buddsoddiad mewn cyfleusterau ysgol yn golygu bod cae 3G yn rhan sefydlog o fywyd ysgol. Mae Cynghorau wedi cyfrannu llawer o arian ac mae buddsoddiadau preifat wedi ychwanegu at y niferoedd hefyd. 

Wedyn mae arian cyhoeddus drwy grantiau. Un fenter genedlaethol yw’r ‘Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol’ – partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru, Hoci Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, ynghyd â Chwaraeon Cymru. Ers 2015, a gyda £3 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, mae’r grŵp wedi cyfrannu at 29 o brosiectau – gan gynnwys Parc Jenner yn y Barri, Parc Eirias yng Nghonwy a Phenyrheol yn Abertawe. 

Ac mae cyllid diweddar gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at Chwaraeon Cymru yn cyfrannu £1.1m tuag at unarddeg o gaeau artiffisial heb fod yn faint llawn, a £456k tuag at chwe chae artiffisial maint llawn. 

Mae’r chwyldro 3G yn costio.   

Mae gan rai clybiau bryderon mwy brys – ffioedd caeau. 

Wrth i fwy a mwy o wasgu ddigwydd ar gyllidebau Cynghorau, mae mwy o rybuddion am gynnydd mewn costau chwarae. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd un cynnig yn gweld clybiau sy’n talu £55 y gêm ar hyn o bryd am ddefnyddio cae yn gorfod talu £305. Bydd clybiau criced yn gweld eu ffioedd yn codi o £40 i £343.

Yr opsiwn arall yw help i arwain y clybiau i lawr llwybr tuag at berchnogaeth ar gaeau’r cyngor eu hunain – drwy brydles fel rheol – proses sy’n cael ei hadnabod fel trosglwyddo asedau cymunedol.               

I leddfu’r straen, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cronfa ryfel gwerth £1 miliwn i helpu clybiau i drosglwyddo.             

Ac yn gadarnhaol, mae arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol na fydd unrhyw glwb yn wynebu cynnydd mewn ffioedd am gaeau chwarae.

 

Yn ôl swyddog gyda chlwb pêl droed yn Sir Gaerfyrddin, Mike Bassett, a arweiniodd ymgyrch gymunedol i atal cynnydd mewn prisiau, gall y llwyddiant fod yn gymysg. 

Meddai: “Fe wnaeth pentrefi fel Cydweli sefydlu cymdeithasau chwaraeon a pherchnogi asedau oedd yn cael eu rhedeg wedyn gan y gymuned leol. Yn Llanelli, camodd y cyngor tref i’r adwy a dod yn gyfrifol am nifer o gaeau.

“Ond fe gollwyd tua naw clwb i gyd.” 

“Y profiad yma oedd cynnydd mawr yn y ffioedd ar gyfer gemau unwaith aeth timau i geisio archebu caeau 3G. Dros nos roedd y ffioedd yn codi o £40 yr awr i £90 yr awr.”

Mae’r newid at drosglwyddo asedau cymunedol wedi cael ei groesawu mewn rhai mannau, ond mae’n gymhleth ac yn cynnwys lefel o arbenigedd, amser ac ymrwymiad sy’n anodd ei reoli i rai clybiau ar lawr gwlad sy’n cael eu rhedeg gan bobl frwdfrydig sydd â blaenoriaethau eraill.           

Mae eraill wedi cael eu cyflawni mewn llefydd eraill yng Nghymru, fel yr ymdrech ar y cyd rhwng Clwb Pêl Droed Rangers y Mwmbwls a Chlwb Rygbi’r Mwmbwls gyda’r clybiau hyn yn dod yn gyfrifol am y cyfleusterau ym Mharc Underhill.

Ond gall trosglwyddo asedau cymunedol fod yn gam eithaf ofnus, yn enwedig i’r gwirfoddolwyr heb brofiad neu sgiliau ar gyfer hynny. Mae’n farn sy’n cael ei hadleisio gan Graham Williams, cyfarwyddwr ymgysylltu cymunedol yn Chwaraeon Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o glybiau ar lawr gwlad yn dibynnu ar gyfleusterau cyhoeddus sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol,” meddai.

“Gydag awdurdodau lleol yn wynebu pwysau cynyddol, mae hyn yn cael sgil effaith ar glybiau chwaraeon.         

“Gall trosglwyddo asedau cymunedol fod yn ateb positif. Fodd bynnag, rhaid wrth gefnogaeth – ariannol neu o bersbectif sgiliau – i unrhyw glwb sydd eisiau mynd drwy’r broses yma. 

“Un peth allweddol i’w bwysleisio yw bod angen amser ac ymrwymiad tymor hir gan bawb er mwyn trosglwyddo asedau yn iawn.

“Mae cyrff rheoli chwaraeon yn ymwybodol o’r problemau ac, os ydyn nhw’n gallu, maen nhw’n darparu cyngor a chefnogaeth i’w clybiau.         

“Er nad yw Chwaraeon Cymru yn gallu darparu cefnogaeth ariannol yn benodol i drosglwyddo asedau, mae gennym ni nifer o grantiau ar gael i gefnogi clybiau i ddatblygu a gwella eu cyfleusterau.”

Mae Penybont, Tref y Barri a’r cae glaswellt yn stadiwm Parc Eirias ym Mae Colwyn yn cynnig defnydd cyhoeddus ehangach hefyd, nid dim ond i’w timau eu hunain, ond mewn llefydd eraill yng Nghymru mae’r darlun yn gymysg. 

Mae llawer o glybiau eisoes yn rheoli eu cyfleusterau eu hunain, yn enwedig mewn rhannau o Gymru wledig, o’r dinasoedd. 

Er hynny, nid yw pob cae heb fod yn 3G o dan ddŵr ledled Cymru y gaeaf hwn, ac nid oes gan bob clwb dagfeydd o ran ceisio cynnal gemau. 

Mae Clwb Pêl Droed Penlan, sy’n chwarae ar hyn o bryd yn Adran Un Cynghrair Abertawe, chwe gêm ar ôl rhai timau eraill, ond y rheswm am hynny yw am fod cystadleuaeth y gwpan yn rhedeg yn hytrach na gohirio. 

Mae Penlan yn chwarae ar Gaeau Chwarae Mynydd Newydd ar fryn yn edrych dros y ddinas lle mae’r gwyntoedd mor gryf fel bod y glaw yn tueddu i deithio’n llorweddol. 

Dywedodd Paul Davies, ysgrifennydd y clwb: “Mae ein caeau ni’n eithaf da ar hyn o bryd. Maen nhw’n eiddo i’r cyngor, felly mae’r chwaraewyr yn talu £6 yr wythnos ac rydyn ni’n talu £52 am bob gêm gartref. 

“Rydyn ni’n chwarae ar ambell un anodd oddi cartref. Mae’r safon yn amrywio. 

“Weithiau, ni yw’r unig rai sy’n chwarae pan mae pawb arall yn Abertawe yn gohirio eu rhai nhw. Ond wedyn mae bob amser yn oer iawn yma – hyd yn oed yn yr haf.     

“Mae ychydig o dimau yn Abertawe wedi dechrau mynd ati i ddod yn gyfrifol am eu caeau. Ond dydyn ni ddim yn edrych ar wneud hynny ar hyn o bryd.”

*Data o Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru – 2015 a 2018

Cynhyrchwyd yr erthygl mewn partneriaeth â Dai Sport.

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy