Skip to main content

Esgidiau ymarfer ymlaen ar gyfer elusennau

Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi’r her 2.6 i gael pobl i symud i roi hwb i elusennau sydd wir angen cefnogaeth ar hyn o bryd.   

O sêr chwaraeon enwog i blant a theuluoedd, mae pobl ar hyd a lled y wlad yn gwneud eu rhan.           

Er y dylai pawb fod yn synhwyrol wrth gadw’n actif (edrychwch ar ein canllawiau ni), mae rhai’n fwy cyfarwydd â heriau mawr nag eraill. 

Mae cyn gapten rygbi Cymru, Ryan Jones – cyfarwyddwr perfformio Undeb Rygbi Cymru erbyn hyn – wedi bod yn brysur iawn yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae eisoes wedi rhedeg marathon 26 milltir yn ei ardd gefn ac wedi cofnodi hyd at 100 milltir ar ei Wattbike, sydd wedi’i barcio ar y patio. 

Nawr mae’n symud dan do ar gyfer ei her fwyaf hyd yma, er mwyn codi arian ar gyfer elusennau sy’n cefnogi gweithwyr y GIG yn ystod pandemig y coronafeirws.           

Nid yw ymarfer dwys yn beth dieithr iddo a brynhawn Gwener (Ebrill 24) bydd y gŵr 39 oed yn herio ei hun drwy redeg 100 milltir ar felin gerdded – pedair marathon bron yn ddi-stop. 

@TooTallDrisc

Hyd yn oed pe bai’n rhedeg milltiroedd 10 munud heb unrhyw fath o gyfnod gorffwys, byddai hynny’n cymryd ymhell dros 16 awr. 

Felly’r cynllun yw cymryd egwyl o bum munud bob rhyw 55 munud, er mwyn yfed, bwyta, mynd i’r tŷ bach, newid ei offer rhedeg neu hyd yn oed cael cwsg byr wrth iddo ddal ati i mewn i’r penwythnos.     

Hyd yma mae wedi codi swm anhygoel o £47,000 ac mae’n disgwyl erbyn dydd Gwener y bydd ymhell heibio’r marc £50,000.

Ychwanegwch at hynny’r £350,000 a gododd Geraint Thomas wrth feicio am 36 awr yn ei garej, y dynion lego wedi’u gwneud â llaw a gyfrannwyd at raffl gan y dyfarnwr pêl droed yng Nghymru Bryn Markham-Jones, a’r arian sy’n cael ei godi gan yr hyfforddwraig ffitrwydd o Gasnewydd Diana Hopkins a’i grŵp, ac mae’r cyfansymiau sy’n cael eu codi gan y byd chwaraeon yng Nghymru’n pentyrru.

Wedyn, mae cyfraniadau o £20,000 gan seren Cymru a Juventus Aaron Ramsey, y beicio sydd wedi’i gynllunio gan y cyn sêr rygbi Shane Williams a Jonathan Davies, a hefyd y £35,000 – ac yn cynyddu – a godwyd gan y ffermwr 91 oed o Geredigion, Rhythwyn Evans, am gerdded o amgylch ei ardd 91 o weithiau, wedi’i ysbrydoli gan frenin yr ymgyrchoedd codi arian presennol, Capten Tom Moore. 

Mae ymdrechion Cymru’n ddiddiwedd. 

Mae disgwyl i lawer o bobl gymryd rhan yn yr Her 2.6 ddydd Sul – https://twopointsixchallenge.justgiving.com/ - cyfle i godi arian gwerthfawr ar gyfer achosion elusennol sy’n methu sicrhau eu hincwm arferol.             

Mae’r Her 2.6 yn dechrau ddydd Sul 26 Ebrill, y diwrnod pryd oedd Marathon Llundain i fod i gael ei gynnal, a’r nod yw annog unrhyw un, o bob lefel ffitrwydd, i wneud gweithgaredd addas iddynt hwy a chodi arian i helpu elusennau sydd ar eu colled.

Marathon Llundain yw digwyddiad codi arian undydd mwyaf y byd, a chododd fwy na £66.4 miliwn i filoedd o elusennau yn 2019. 

Er bod Jones yn dweud na ddylai unrhyw un roi cynnig ar ei her ef gartref (oni bai eich bod chi’n eithriadol ffit), mae ffordd i bawb symud yn eu hamser eu hunain a chodi arian. 

Mae ymdrechion Jones yn helpu i gyllido “ystafelloedd seibiant” i staff y GIG lle gallant gymryd seibiant oddi wrth straen dyletswyddau’r rheng flaen. 

Os nad ydych chi’n gallu cymryd rhan yn yr her 2.6, dyma sut gallwch chi gefnogi seren rygbi Cymru yn lle hynny -  https://www.justgiving.com/fundraising/ryan-joneskitchentreadmill100.

Mae enillydd y Gamp Lawn deirgwaith wedi cyrraedd yr uchelfannau mwyaf yn ei yrfa chwarae ac wedi cwblhau marathon wltra eithafol. 

“Mae’n bellter hir, 100 milltir,” meddai. “Ond rydw i mewn siâp eithaf da a dal yn gystadleuol iawn ac yn benderfynol o lwyddo. 

“Fi yn erbyn fi fy hun yw hyn a bob tro rydw i’n gwneud y math yma o heriau, rydw i’n dysgu ychydig bach mwy amdanaf i fy hun. 

“Mae gen i ffrind, Gareth Jones, sy’n ffisiolegydd, ac mae e wedi bod yn fy helpu i i greu cynllun fydd yn gweithio.”

Bydd hynny’n cynnwys dechrau am 1.00pm brynhawn Gwener. Mae pump o’i ffrindiau’n bwriadu gwneud 20 milltir yr un o’u cartrefi eu hunain. 

Ychwanegodd: “Rydw i wedi bod eisiau chwarae fy rhan a’r peth gorau i mi oedd pan wnaeth nyrs leol gnocio ar fy nrws i yn ystod y marathon yn yr ardd a diolch i mi am beth oeddwn i’n ei wneud. 

“Er mor ofnadwy yw’r sefyllfa yma, mae wedi bod yn hyfryd gweld pobl yn ymateb ac yn dod at ei gilydd. 

“Mae’r ymateb i Gapten Tom wedi bod yn anhygoel. Fe fydd pobl yn siarad am hynny am flynyddoedd i ddod ac mae’n dangos bod yr amseroedd gwaethaf yn gallu dod â’r gorau allan mewn pobl.”

I gymryd rhan yn yr her 2.6 o ddydd Sul ymlaen, edrychwch yma.

Am fwy o wybodaeth am ymgyrch #CymruActif a sut i gadw’n actif yn gyfrifol, edrychwch yma.              

NEWYDDION DIWEDDARAF - #CymruActif

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy