Skip to main content

£163,000 wedi’i ddyfarnu yn rownd gyntaf y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. £163,000 wedi’i ddyfarnu yn rownd gyntaf y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng

Mae cyfanswm o 68 o glybiau’n derbyn £163,196 yn rownd gyntaf y ceisiadau cymeradwy i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng.

Gyda thua 10% o glybiau chwaraeon Cymru yn gwneud cais i’r Gronfa, mae’r gyfres gyntaf o 116 o geisiadau wedi cael ei phrosesu nawr. 

Mae’r manylion yn cynnwys y canlynol: 

  • Cyfanswm o 68 o glybiau wedi’u cefnogi drwy’r Gronfa
  • Cyllid ar gyfer clybiau sy’n darparu 18 o wahanol chwaraeon
  • Cefnogaeth i dri chlwb i helpu gyda’r difrod sydd wedi’i achosi gan lifogydd y gaeaf

 

Mae pedwar cais ar ddeg wedi cael eu gohirio nes eu bod yn aros am ragor o wybodaeth am gyllid arall gan y Llywodraeth. 

Mae Chwaraeon Cymru wedi derbyn 260 o geisiadau pellach ac maent yn cael eu prosesu yn awr gyda chefnogaeth partneriaid, fel y cyrff rheoli.               

Mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng ar gyfer clybiau chwaraeon nid-er-elw sydd angen cefnogaeth ariannol ar unwaith oherwydd effaith ariannol y Coronafeirws a’r llifogydd diweddar. 

Y dyfarniad mwyaf o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yw £5,000. Dylai’r clybiau sy’n cael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid dderbyn yr arian o fewn dyddiau. 

Yr amserlen rhwng ymgeisio a derbyn penderfyniad yw 10 diwrnod gwaith ar hyn o bryd, oni bai fod angen mwy o wybodaeth neu fod y clwb yn aros am gadarnhad o ffynonellau eraill o gyllid. 

Bydd y rownd nesaf o benderfyniadau’n cael ei chynnal ddydd Mawrth (28ain Ebrill), gyda chlybiau’n cael gwybod am y penderfyniadau yn ystod y dyddiau canlynol. 

Mae gwybodaeth am y Gronfa, a’r meini prawf cymhwysedd, ar gael yma.

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i emergencyrelief@sport.wales

Edrychwch hefyd ar y diweddariad gwybodaeth am grantiau eraill Chwaraeon Cymru.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhoi pan fydd yr ail rownd o glybiau wedi derbyn eu penderfyniad.