Skip to main content

BLOG: Staff Chwaraeon Cymru yn Cadw Athletwyr ar y Trac yn ystod y Pandemig

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. BLOG: Staff Chwaraeon Cymru yn Cadw Athletwyr ar y Trac yn ystod y Pandemig

Gan Dr Rhodri Martin, Ymgynghorydd Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer, Chwaraeon Cymru.

Mae Dr Rhodri Martin yn Ymgynghorydd Chwaraeon a Gwyddoniaeth Ymarfer yn Athrofa Chwaraeon Cymru ac mae’n gweithio fel y meddyg arweiniol ar gyfer Beicio Cymru ac Athletau Cymru. Mae’n Ymgynghorydd gyda’r GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn ogystal â meddyg y tîm Cenedlaethol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.                       

Mae Rhodri, ochr yn ochr ag arwyr gofal iechyd, yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi athletwyr yn ystod y pandemig. Yma mae’n rhannu rhywfaint o wybodaeth am ei waith yn y byd chwaraeon a’r cydweithio ledled y DU sydd wedi helpu i siapio’r dogfennau cyfarwyddyd ar gyfer athletwyr yn ystod COVID-19. 

Mae Rhodri yn feddyg y tîm Cenedlaethol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd.

 

Rydyn ni’n byw mewn cyfnod digynsail. Mae COVID-19 wedi achosi tarfu sylweddol i ni i gyd; gan effeithio ar ein bywyd bob dydd, ein gwaith, ein ffordd o fyw ac, yn bwysicach, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ein hiechyd. 

Wrth i bandemig COVID-19 ddod yn realiti, daeth yn glir yn fuan iawn nad oedd yn gwahaniaethu rhwng pobl sâl ac iach. Fel glywson ni fwy a mwy o straeon o bob cwr o’r byd am athletwyr elitaidd hynod heini’n cael eu taro gan y clefyd hwn. Yn ffodus iawn, dim ond mân symptomau neu symptomau cymedrol sydd gan fwyafrif yr unigolion ifanc a heini sy’n dal yr afiechyd, ac nid oes raid iddynt fynd i’r ysbyty. Er hynny, mae’n ymddangos bod hyd yn oed y rhai gyda dim ond mân symptomau i ddechrau yn gallu bod yn hir iawn yn dychwelyd i ymarfer, yn bennaf oherwydd y blinder a’r symptomau resbiradol sydd wedi’u hachosi gan yr afiechyd. Daeth yn glir i mi ac i gydweithwyr nad oedd gan chwaraeon imiwnedd i COVID-19, a bod cyfarwyddyd penodol i gynorthwyo athletwyr elitaidd i ddychwelyd at chwaraeon a/neu ymarfer yn bwysig iawn.     

Cyfarwyddyd Dychwelyd yn Raddol at Chwaraeon ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol

Mae tîm meddygol Athrofa Chwaraeon Cymru wedi bod yn cydweithio â thimau meddygol Athrofa Gartref y DU i ysgrifennu dogfen dychwelyd at chwaraeon yn raddol. Mae’r cyfarwyddyd wedi cael ei ysgrifennu i arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n goruchwylio dychweliad athletwyr elitaidd at chwarae. Ysgrifennwyd y ddogfen yn seiliedig ar unrhyw dystiolaeth oedd ar gael a hefyd mae’n seiliedig ar arbenigedd sawl arbenigwr blaenllaw yn fyd-eang.  

Wrth i wyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd fel fi ddysgu mwy a mwy am COVID-19 a’i effaith ar athletwyr, mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n rhoi’r cyfarwyddyd diweddaraf i’n hathletwyr a’n partneriaid. Felly, rydym yn adolygu cynnwys y ddogfen bob pythefnos. 

Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o gydweithredu o’r fath a helpu i gyflwyno’r ddogfen gyfarwyddyd hon, gyda phob un ohonom yn defnyddio ein profiadau a’n harbenigedd. Mae fy mhrofiad personol i yn gweithio i’r GIG yn ystod y pandemig hwn wedi darparu gwybodaeth ragorol am ffurf ddifrifol yr afiechyd, sydd wedi helpu llawer gyda chynnwys y ddogfen gyfarwyddyd.       

Hyfforddi yn ystod ac ar ôl Pandemig COVID-19

Hefyd mae tîm meddygol a thîm ffisioleg Athrofa Chwaraeon Cymru wedi dod at ei gilydd er mwyn creu dogfen sy’n darparu cyfarwyddyd ar addasu hyfforddiant yn ystod y pandemig.Digwyddodd hyn o ganlyniad i bryderon am effaith sesiynau ymarfer hir a chaled ar system imiwnedd athletwyr (a allai arwain at ffurf fwy difrifol ar yr afiechyd). Mae hyn wedi cael croeso brwd gan chwaraeon sy’n helpu i arwain hyfforddiant eu hathletwyr yn ystod y cyfnod anodd yma. 

Mae gwaith cydweithredol gwych arall wedi cael ei wneud gan Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS) er mwyn creu cyfarwyddyd ar ddychwelyd at hyfforddiant pan godir y cyfyngiadau yn y diwedd. Mae risg gynyddol sylweddol o anaf wrth i athletwr gynyddu ei lwyth hyfforddi yn sydyn, ac felly mae’r ddogfen gyfarwyddyd yma’n datgan strategaeth ar gyfer graddol gynyddu’r llwyth hyfforddi, a ddylai gynorthwyo’r athletwyr i ddychwelyd yn ddiogel at y lefelau hyfforddi fel roeddent cyn y pandemig.

Gofal Meddygol Parhaus i Athletwyr Unigol                     

Mae tîm meddygol Athrofa Chwaraeon Cymru yn parhau i gefnogi athletwyr gydag ymgynghoriadau un i un, er bod y rhain yn cael eu cynnal i gyd ar fideo ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn dda iawn gyda thechnoleg fy hun ac felly mae’r ymgynghoriadau a’r cyfarfodydd fideo wedi bod yn brofiad dysgu i ni i gyd. Fodd bynnag, mae’n glir y bydd y gwersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod anodd yma’n helpu i ddarparu gwasanaeth llawer mwy cyfeillgar i athletwyr wrth symud ymlaen, o ystyried hyblygrwydd y dechnoleg hon a pha mor hawdd yw i’w defnyddio. Mae hyn yn hynod berthnasol i ni yma yng Nghymru, gwlad lle mae’r athletwyr yn gallu bod ar wasgar yn ddaearyddol.           

Cadw’n bositif   

Mae wedi bod yn fraint fawr gweithio ochr yn ochr â fy nghydweithwyr yn Athrofa Chwaraeon Cymru ac Athrofa Gartref y DU yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydw i’n falch o’r ffordd rydyn ni wedi ymateb yn gyflym i’r sefyllfa a gweithredu mor ddidwyll ac arloesol er mwyn datblygu dogfen gyfarwyddyd i helpu athletwyr yn ystod y pandemig. 

Pan mae chwaraeon yn rhan mor enfawr o’ch bywyd chi, a’ch bywoliaeth hyd yn oed, gall argyfwng fel hwn sy’n eich taro chi’n galed gael effaith fawr ar eich iechyd meddyliol a chorfforol. O’r meddygon a’r seicolegwyr i’r maethegwyr a’r hyfforddwyr cryfder a siapio – mae gennym ni i gyd yn Athrofa Chwaraeon Cymru ac ar draws y sector ran i’w chwarae mewn cefnogi ein hathletwyr i ffynnu, hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud.